Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹Éç Homepage
Â鶹Éç Cymru
Â鶹Éç Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Trefi

Hanes

Lluniau

Dweud eich dweud

Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Y Clawdd
Rhys Williams Antur ar erwau Irac
Yn ddiweddar, mae'n ddigon posib i chwi glywed ar y cyfryngau yr hanes am y gwr camera, Rhys Williams, yn mentro allan i Affganistan ac Irac i dynnu lluniau dros y gwasanaeth teledu ITN.

Erbyn hyn, mae wedi ymweld â'r gwledydd hyn nifer o weithiau a newydd fynd nôl mae e (ganol Ionawr) am gyfnod arall i ddinas Basra, lle bydd o'n ffilmio (dros y Â鶹Éç) ymhlith y Gatrawd Gymreig yno.

Mae'n bosib hefyd eich bod wedi darllen ychydig am ei hanesion anturus yn y cylchgrawn Golwg neu ym mhapurau bro Caernarfon /Gwynedd. Canys yng Nghaernarfon mae Rhys yn byw erbyn hyn, gyda'i deulu, ei wraig Mari sy'n athrawes yn y dref, a'i ddwy ferch Mirain ac Angharad.

Ond o Goedpoeth mae Rhys yn enedigol a bu'n ddisgybl yn Ysgol Morgan Llwyd cyn mynd i'r Brifysgol ym Mangor i wneud cwrs Cyfathrebu. Mae ei fam, Gwyneth, hefyd yn hanu o Goedpoeth a bu'n gweithio am gyfnod gyda Banc y Midland a mae'n bosib fod rhai ohonoch yn ei chofio'n gweithio yn Swyddfa'r Eisteddfod Genedlaethol pan fu yn Wrecsam yn y 1970'au.

Erbyn hyn mae Gwyneth yn byw ym Mwlch-y-Ffridd ger y Drenewydd. Mae'n amlwg fod Rhys yn cael bywyd cyffrous iawn ac wedi cael profiadau bythgofiadwy tra'n teithio trwy'r gwledydd hyn ac wedi gweld drosto'i hun effeithiau trist ac echrydus rhyfel a hefyd wedi peryglu'i fywyd mae'n siwr i geisio sicrhau ein bod ni'n gallu rhannu rhai o'r profiadau hynny gydag ef drwy'r sgrin deledu.

Mae'n disgrifio diwrnod arferol iddo ym Maghdad fel hyn: "clywed bod bom wedi ffrwydro yn Academi'r Heddlu yng nghanol y ddinas, gyda'r canlyniadau arferol - un; wedi'i ladd a phymtheg wedi'u hanafu; y targed tro hwn oedd yr heddlu lleol, wedi'u recriwtio i geisio adfer rhywfaint o drefn yn ôl ar y strydoedd. Y tîm ffilmio'n rhuthro i'r llecyn gan ddarganfod llanast llwyr a thimau o newyddiadurwyr yn ceisio bod yn gyntaf i drosglwyddo'r newyddion yn ôl i'w gwlad!

Ie, byw ar bigau'r drain, mewn ofn a pherygl cyson yng nghanol saethu ac ymladd cyson, - dyna fywyd dyn camera teledu ar leoliad. Ar yr un pryd, gobaith pawb yw y bydd pethau'n sefydlogi a phobl yn callio ac yn mynnu heddwch gan ddileu 35 mlynedd o bad legacy,' chwedl yntau. Ein gobaith ni hefyd yw y daw Rhys yn ôl yn ddiogel o'i antur ddiweddaraf ac efallai y cawn ychydig o' i hanes ym Masra yn y rhifynnau i ddod.

Pob hwyl iddo a phob lwc.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹Éç - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý