Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹Éç Homepage
Â鶹Éç Cymru
Â鶹Éç Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Trefi

Hanes

Lluniau

Dweud eich dweud

Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Y Clawdd
Moel Famau Beth mae Clwyd yn ei olygu i chi?
Rhagfyr 2004
Beth yw Clwyd? Sir y ffin, sir y Costa Geriatrica, sir y "Wrecsam agro" ynteu sir cefn gwlad, Prion, Llansannan, Nant glyn a Chyffylliog a diwylliant Cymraeg 'nene' Rhosllannerchrugog?
Os bu 'sir' sgitsoffrenig erioed, Clwyd oedd honno, ac er nad yw'n bodoli fel uned wleidyddol mwyach, cafodd ei hatgyfodi i bwrpas casgliad newydd o gerddi difyr a dadlennol.

Yn ôl Aled Lewis Evans, golygydd Cerddi Clwyd, y nawfed cyfrol yng nghyfres boblogaidd Gwasg Gomer, Cerddi Fan Hyn, "Gobeithio fod y cerddi'n herio'r ddelwedd a'r disgwyliadau am y gogledd ddwyrain gan ei bod yn ardal weithgar, agos-atoch a chynnes ei naws ."

Problem cwtogi oedd gan Aled Lewis Evans, gan fod cynifer o gerddi wedi eu hysgrifennu am yr ardal. "Cant o gerddi sydd yn y casgliad, ond gallwn fod wedi llunio blodeugerdd ddwywaith y maint! Mae fy mhwyslais personol ar innau yn y gyfrol ar y cyfoes a'r dealladwy, - cerddi poblogaidd sy'n cyfathrebu â thrwch y boblogaeth," meddai Aled.

Dyna agwedd y byddai cawr llenyddol mwyaf yr ardal arbennig hon, Daniel Owen, wedibod yn falch iawn ohoni oherwydd dywedodd yntau mai "nid i'r doeth a'r deallus yr ysgrifennais ond i'r dyn cyffredin", a chasgliad i bobl Clwyd a gweddill Cymru - am yr ardal unigrywhon, ei hanes a'i chymeriadau ydyw Cerddi Clwyd.

Lansiwyd y gyfrol yn Llyfrgell Wrecsam, nos Fercher, 17 Tachwedd yng nghwmni'r golygydd, Aled Lewis Evans a rhai o feirdd lleol y gyfrol - Olwen Canter, Alun Davies, Gwynne Williams, Norman Closs Paffy, Sydney Davies a Sera Meirion Jones.

Mae'r gyfrol hon o gant o gerddi'n ymwneud â lleoedd a phobl yn yr hen Sir Clwyd, er enghraifft, Dyffryn Clwyd ei hun, Dinbych, Rhyl, Llangollen, Dyffryn Ceiriog, Rhos ac, inni wrth gwrs, Wrecsam ac Ysgol Morgan Llwyd. Ymhlith y bobl, mae cerddi i Lewis Valentine,David Lloyd, Emlyn Williams a Tegla ymhlith eraill.

Llongyfarchiadau i Aled am gyfrol ddiddorol a destlus a ddylai apelio at bawb ac a ddylai wneud anrheg Nadolig ardderchog. Cofiwch ei phrynu.

Manylion llyfryddol:
Cerddi Fan Hyn: Clwyd
Gol. Aled Lewis Evans, £6.95, Gwasg Gomer.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹Éç - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý