Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹Éç Homepage
Â鶹Éç Cymru
Â鶹Éç Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Trefi

Hanes

Lluniau

Dweud eich dweud

Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Y Clawdd
Dafydd Hughes Llongyfarchiadau i Dafydd y Barnwr
Medi 2004
Beth yw eich delwedd o Farnwr yr Uchel Lys? Hen ŵr gwallt gwyn, crebachlyd a hanner gwydrau ar ei drwyn? Yn siarad gyda thaten boeth yn ei geg fel y'i dysgwyd mewn ysgol fonedd gynt?
Yn byw mewn plasdy moethus, ac wedi ei eni â llwy arian yn ei geg? Yn hollol anwybodus o'r byd cyfoes? Efallai eich bod yn iawn ar adegau, ond ambell dro mae eithriad!

Mab i weinidog Methodist, wedi mynychu addysg-fannau gwerinol wladwriaeth yw Dafydd Hughes sydd newydd gael ei ddewis yn farnwr Cylchdaith. Yn yr iaith Gymraeg y cymerodd Dafydd y llw gerbron yr Arglwydd Ganghellor yn NhÅ·'r Arglwyddi ar y 9fed o Fedi.

Cofiwn Dafydd a'i deulu yn dda yn ein bro yma cyn ei ymadawiad i ardal Bae Colwyn fel Barnwr Llys Sirol.

O 1971 i 1990 cyfreithiwr gyda Edmund Pickles & Upton, Wrecsam oedd Dafydd ac o 1990 i 2002, bu'n Farnwr Rhanbarth yn eistedd yn Llysoedd Sirol Caernarfon, Llangefni, Bae Colwyn a'r Rhyl. Cofiadur cynorthwyol bu am gyfnod byr wedyn.

Bu rhieni Dafydd, y diweddar Barch Elwyn Hughes a'i wraig Gwen (Gweinidog capel Seion gynt) yn adnabyddus yn ein bro. Mae Ann, gwraig Dafydd, yn ferch i Mrs Mair Davies a'r diweddar Mr Hubert Davies. Er i'r teulu ymgartrefu yn ardal Llaneilian ers tro mae'r cysylltiad â Wrecsam yn parhau. Mae chwaer Dafydd, sef Ann Hughes, yn lyfrgellydd yma.

Tra yn Wrecsam, bu'n aelod o dîm Talwrn y Beirdd Bro Maelor, a chyn Flaenor Capel Seion a Capel y Groes, ac yn Lywydd Meibion Maelor.

Mae'r Clawdd yn llawenhau o ddeall am ddyrchafiad Dafydd Hughes yn Farnwr Cylchdaith yn Llysoedd y Goron a Llysoedd Sirol Gogledd Cymru a Swydd Caer, gyda'i brif lys yn Warrington.

Mae'n fraint gennym longyfarch Dafydd yn galonnog ar ei lwyddiant ac fe anfonwn ein dymuniadau gorau iddo.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹Éç - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý