Ym Mwlchgwyn y ganwyd Alun dros 80 mlynedd yn ôl - mab i ferch Plas 'Fronheulog' a'i dad yn fab y bwthyn. Brawd yr enwog 'TegIa'.Wedi addysg yn ysgol Bwlchgwyn a Grove Park Wrecsam rhoddodd ei fryd ar yrfa fel plismon - ond gan nad oedd yn ddigon hen eisteddodd a phasiodd arholiad i'r gwasanaeth sifil, a chychwyn gyrfa yn Llundain yn yr adran Drafnidiaeth. Ychydig cyn y rhyfel gIaniodd cynlluniau'r M6 ar ei ddesg!
Pan oedd cymylau rhyfel yn casgIu daeth ei waith i ben ac anfonwyd pob un a ddymunai ymuno â'r llynges a'r Morlys (Admiralty). Bu'n gweithio ar brosectiau cyfrinachol eithriadol yno a bu'n rhan o dîm bach oedd yn gyfrifol a chysylltu efo Churchill pan aeth i gyfarfod Roosevelt.
Wedi'r rhyfel dychwelodd i'r Weinyddiaeth Drafnidiaeth a gweithio yn adran llongau tramor am gyfnod cyn ei ddyrchafu'n uwch Swyddog yn y Weinyddiaeth Fwyd (Ministry of Food) yng Nghaerdydd a Sir Benfro ac yn ddiweddarach yn Wrecsam.
Cafodd ei drosgIwyddo i'r Weinyddiaeth Lafur fel dirprwy oruchwyliwr rhanbarthol ac am y 25 mlynedd dilynol bu'n gweithredu fel Archwiliwr Cyflogau GogIedd a Chanoldir Cymru cyn ymuno ag A.C.A.S. fel Swyddog Cymrodeddu. Ymddeolodd yn 1980.
Pan yn Llundain priododd â Val yn 1945 a oedd hefyd yn gweithio'n y 'Morlys' a chanddi gysylltiadau â Llanelli. Fe'i bendithwyd â dwy ferch Luned (Dr Ainslee), sydd yn bennaeth Adran Gymraeg Ysgol Rhosnesni ac Eleri sydd mewn swydd yn Ysbyty Maelor ac un ŵyr.
Addysgwyd y ddwy drwy gyfrwng y Gymraeg yma a bu ef a'i wraig yn frwdfrydig dros addysg Gymraeg yn y fro yma dros gyfnod maith.
Y mae'n hynod ddiolchgar a dyledus i Val am ofalu bod y plant yn mynychu'r Ysgol Gymraeg yn enwedig tra'r oedd ef oddi cartref.
Wesle selog yw AIun - Bethesda Bwlchwyn, Chilten St. Llundain a chapel Penybryn, MwyngIawdd ac ers 30 mlynedd yng Nghapel Jeriwsalem Wrecsam - blaenor yn y ddau olaf dros 40 mlynedd i gyd. Fel y gŵyr aelodau a Swyddogion Capel Jeriwsalem mae'n hynod weithgar yno a hefyd ym mywyd Cymraeg y fro.
Ef oedd Capten Tîm Talwrn y Beirdd Bro Maelor am flynyddoedd a chyhoeddodd lyfryn "Talwrn Maelor" i godi arian at Eisteddfod yr Urdd yn 1996. Mae'r awen farddonol yn amlwg iawn yn ei gymeriad ynghyd â'i hiwmor chwaethus. Mae stôr o straeon digrif ganddo at bob achlysur. Mae'n cyfranu'n gyson i Barddas a Llafar Gwlad ac yn chwarae rhan bwysig gyda thîm Golygyddol ein papur bro Y Clawdd o'r cychwyn.
Wedi gyrfa hynod ddifyr a chofion arbennig am ei gampweithiau pan yn iau ar y meysydd golff a rygbi, pêl-droed a hoci (yr agosaf a fu i wireddu ei freuddwyd o fod yn blismon oedd chware rygbi yn erbyn 'Scotland Yard',) mae'n diddori ei hun drwy sgrifennu a dilyn ei hobi fel ffotograffydd amryddawn.
Llywyddodd y Babell Lên ar un achlysur yn Wrecsam yn 1977 yn yr Eisteddfod Genedlaethol ac mae'n gyn-Iywydd Meibion Maelor a'r Cyngor EgIwysi Cymraeg Rhyddion ac yn aelod o nifer o bwyllgorau diwylliannol yn y fro. Yn y 1950au bu'n gadeirydd Cyngor Plwy MwyngIawdd.
Tra'n cael manylion gan AIun i'r erthygI hon, dyma fo'n sôn yn gellweirus "Gobeithio na fydd yn swnio fel teyrnged goffa i mi" - Rwyf yn falch o gadarnhau fod AIun yn fyw ac hynod iach fel y gwelir yn y llun ohono - ond anfonwn ein dymuniadau gorau i Val, ei wraig, sydd mewn iechyd bregus ar hyn o bryd yn Ysbyty Maelor.
Darlledwyd pennill o'i waith ar y Â鶹Éç. yn ddiweddar sy'n enghraifft o'i ddawn ysgafnach. Y testun a osodwyd gan Huw Llywelyn Davies oedd "Plastic Surgery".
Hen ferch oedd Jane yn mynd yn hen
A'i hwyneb oedd yn sagio;
Cymerwyd croen o'i bola bras
ac ar ei gwep ei impio.
Ac ar nos Sadwrn wrth y bar
yn Nhafarn TÅ·'n Y Capel
Mae'n gwneud ei gore i fachu
drwy wincio efo'i bogel.