Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig

Â鶹Éç Homepage
Cymru'r Byd

»

Archif Crefydd

Safle Newydd



Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Straeon
Paratoi i weddio Neges i'r bobl gyffredin
Gwasanaeth Nadolig Â鶹Éç Radio Cymru 2006
I'tr bobl gyffredin - parhad o gyflwyniad y gweinidog
  • I'r ddalen flaenorol
  • Dod a'r newyddion da i bobl gyffredin

  • Sylwadau y Parchedig Guto Prys ap Gwynfor



    neu darllenwch beth oedd ganddo i'w ddweud, isod:


    I bwy y bwriadwyd y newyddion da am eni Gwaredwr y byd?
    Mae synnwyr cyffredin, sydd wedi ei lunio gan ein diwylliant poblogaidd, yn dweud taw y bobol rymus sy'n effeithio ar ddatblygiad ein byd a ddylai dderbyn gwybodaeth fel hyn.

    Onid y pwerus a'r cyfoethog sydd wedi bod yn rhedeg y byd yma erioed?

    Nid yw'r natur ddynol wedi newid ar draws y miloedd blynyddoedd, byddai pobol Jwdea wedi meddwl yr un ffordd pan aned Iesu ym Methlehem.

    Saif Bethlehem o fewn ychydig filltiroedd i Jerwsalem, pellter cerdded hawdd.

    Yn Jerwsalem yr oedd y sefydliadau gwleidyddol a chrefyddol Iddewig wedi eu canoli - yn y fan honno yr oedd y bobol bwysig yn byw.

    Yn ôl y ffordd ddynol o feddwl gellid tybio taw at y rhain y byddai'r negesydd wedi dwyn y newyddion am eni Gwaredwr.
    Rhain oedd y dosbarth oedd yn llywio bywydau pobol, yn gwneud y penderfyniadau pwysig fyddai'n effeithio ar fywydau pawb arall. Rhain oedd â'r cyfoeth a'r grym. Onid at y rhain y fyddai'n synhwyrol i gyflwyno'r wybodaeth am y newid sylfaenol oedd i ddod?

    I'r meysydd nid y ddinas
    Nid felly y bu ac nid i'r fan honno y cymerwyd y neges am eni Gwaredwr, yn ôl Luc, ond i feysydd Bethlehem lle'r oedd bugeiliaid yn gwarchod eu praidd liw nos.

    Pobol gyffredin oedd y bugeiliaid; yn wir, nid yn unig eu bod yn bobol gyffredin ond yr oeddent yn perthyn i haenau isaf y gymdeithas. Nid oedd gan y boblogaeth yn gyffredinol fawr o barch tuag atynt, ystyriwyd hwy fel gwehilion brwnt a diwerth. Dynion oeddent na ellid dibynnu arnynt ac a aeth yn fugeiliaid am na allent gael unrhyw swydd arall. Byddech feddwl taw'r siort yma o bobol fyddai'r olaf i dderbyn newyddion o'r fath bwysigrwydd.

    Troi gwerthoedd dyn wyneb i waered
    "Yr olaf a fyddant flaenaf...", meddai Iesu; a rhan o neges y Nadolig yw'r gwirionedd rhyfeddol hwn - mae Duw yn troi gwerthoedd dynol wyneb i waered.

    Yn llety'r anifail, yng nghanol y dom a'r llaca a'r drewdod y ganed Gwaredwr y Byd; dod i ganol realiti brwnt bywyd a wnaeth. A'r dosbarth mwyaf cyffredin y gallwch feddwl amdano oedd y cyntaf i dderbyn y newyddion da o lawenydd mawr sydd i'r holl fyd.

    Fel Moses
    Y mae elfen bwysig arall yn perthyn i hanes Luc; a rhaid troi i'r Hen Destament eto er mwyn cael yr arwyddocâd llawn o'r hyn a ddywed.

    Tra'n bugeilio'i ddefaid y cafodd Moses ei weledigaeth o Dduw yn y berth yn llosgi.

    Ar y pryd yr oedd yntau yn byw ar gyrion cymdeithas fel ffoadur o'r Aifft.

    Bugail oedd Dafydd, a ystyriwyd fel y lleiaf galluog o feibion Jesse, yr oedd ar gyrion ei deulu ei hun fel petai.

    Ef, y lleiaf a'r gwannaf o'r bechgyn, yr un a ddewiswyd i gyflawni'r gwaith â'r lleiaf o anrhydedd yn perthyn iddo, ef yw'r un a eneiniwyd gan Samuel i fod yn arweinydd i'r genedl.

    Ydy, meddai Luc, y mae Duw yn caru ac yn gwneud defnydd o'r rhai a ystyrir gan y gymdeithas yn gyffredinol yn ddiwerth.

    Dweud wrth eraill
    Mae'r bugeiliaid yn hanes Luc yn ymateb yn greadigol i'r newyddion da am eni Gwaredwr y Byd, maent yn mynd i ddweud wrth eraill am y digwyddiad. Nid yw tystio yn y modd hwn y tu hwnt i allu unrhyw un ohonom sydd yn yr oedfa hon neu adref yn gwrando.

    Rhan o wendid affwysol yr eglwysi y dyddiau hyn yw'r ffaith nad ydym ni, y bobol gyffredin, yn fodlon mynd ati i sôn wrth eraill am gariad Duw fel y gwelwn ef yn Iesu.

    Dyrchafu'r distadl
    Rhan o bwyslais a welwyd yn y Magnifficat, a gyflwynwyd gynnau yw'r modd y mae Duw yn dyrchafu'r distadl drwy ymddiried ynddynt. Merch dlawd o deulu cyffredin oedd Mair a ddewiswyd, yn ôl ei thystiolaeth ei hun, oherwydd i Dduw "... ystyried distadledd ei lawforwyn".

    Newyddion da i ninnau yw'r wybodaeth hon, oherwydd fod Duw yn caru pobol gyffredin fel ni.

  • Cliciwch
  • i ddychwelyd i brif ddalen Oedfa Hermon ac i ddarllen cyflwyniadau eraill draddodwyd yn ystod y gwasanaeth.

  • I'r ddalen nesaf

  • Llusern
    Hanes Crefydd yng Nghymru
    Ebostiwch ni: crefydd@bbc.co.uk


    About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý