Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig

Â鶹Éç Homepage
Cymru'r Byd

»

Archif Crefydd

Safle Newydd



Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Straeon
Sharon Morgan yn  ei drama 'Holl Liwiau'r Enfys' Mynd â'r plant i'r capel
Y capel yn cynnig pethau pwysig i blant
Anffyddwraig yn rhoi plant ar ben ffordd - ond y nhw i ddewis wedyn . . .
Er yn anffyddwraig ei hun mae'r actores Sharon Morgan wedi dweud iddi hi ei hystyried yn bwysig dros y blynyddoedd fod ei phlant yn mynychu'r capel.


Yr actores oedd gwestai Dewi Llwyd ar ei raglen radio fore Sul 9 Mawrth 2008 ac yn ymateb i'w gwestiwn sut mae hi'n treulio ei boreau Sul fel arfer.

"Roeddwn i'n arfer mynd i'r capel - dwi'n anffyddwraig yn bersonol ond dwi wedi mynd â mhlant oherwydd dwi'n credu ei fod yn bwysig iawn am lot o resymau; yn enwedig yng Nghaerdydd o ran yr iaith, y canu, o ran y ffaith bod athroniaeth ar gael er mwyn trefnu'ch bywyd yn ei ôl e - achos dyna'r unig gyfeiriad maen nhw'n mynd i gael hwnnw," meddai.

"Ond rydym ni wedi bod yn rhy brysur yn ddiweddar ond dwi'n meddwl o hyd am fynd nôl ac i Salem yn Canton fyddwn i'n mynd lle mae Evan Morgan yn weinidog adloniadol iawn ac mae'r lle yn llawn o blant," ychwanegodd.

Er yn ei theimlo yn ddyletswydd i roi blas ar grefydd Gristnogol i'w phlant dywedodd mai eu dewis hwy wedyn fyddai parhau yn ffyddlon.

"Eu dewis nhw yw e os ydyn nhw'n moyn bod yn grefyddol - maen nhw'n cael y cefndir, cefndir y Beibl [yn] rhan o draddodiad Cymreig. Mae e yna iddyn nhw yn hytrach na mod i'n teimlo mod i wedi'u hamddifadu nhw," meddai.

"Dwi'n dod o deulu eithafol o grefyddol a dweud y gwir . . . Roedd mam-gu wedi bod yn y Diwygiad ac roedd fy nhad i yn bregethwr lleyg . Yn yr Eglwys cefais i magu ond roeddwn i'n mynd i'r capel gyda mam-gu dair gwaith bob Sul yn ddefodol ac yn y blaen ac yn y blaen - felly rydw i eisiau iddyn nhw wybod beth yw hwnnw," meddai.

Awgrymodd nad gwrthryfela yn erbyn hynny barodd iddi droi'n anffyddwraig.

"Roedd pwysau oddi wrth mam-gu ond doedd dim cymaint o bwysau adref. Fy newis i a fy mrawd oedd os oeddem am barhau i fynd i'r Eglwys.

"Fe ges i fagwraeth reit Ryddfrydol - yr oedd fy rhieni o flaen eu hamser felly doedd yna ddim gorfodaeth arnaf i i wneud dim byd a dyna pam rydw i'n dal i wneud jyst beth ydw i eisiau," meddai.

.


Llusern
Hanes Crefydd yng Nghymru
Ebostiwch ni: crefydd@bbc.co.uk


About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý