Bu'r bardd a'r llenor Gwyn Thomas yn sôn sut y mae rhyfeddod y Nadolig yn cael ei weld mewn cynyrchiadau o ddramâu'r geni ac yn niniweidrwydd y plant sy'n cymryd rhan.
Ar raglen foreol Â鶹Éç Radio Cymru bu Gwyn Thomas yn siarad am gerdd o'i eiddo yn darlunio drama Nadolig a dywedodd wrth y cyflwynydd, Sian Parri Huws, bod llawenydd yr Wyl yn cael ei adlewyrchu hyd yn oed y dyddiau argyfyngus hyn.
Hynny er bod ochr arw i'r dathlu hefyd:
"Mae yna lawenydd ac mae yna ryfeddod, mae yna gân angylion mae yna ogoniant - ond wedyn y mae Herod yn dod ac y mae o yn lladd y babanod - y cigydd hwnnw.
"Ac mae Herod yn enw sy'n sefyll dros rywbeth sydd yn ein byd ni o hyd," meddai.
Ond yn niniweidrwydd plant gwel y bardd o hyd "rywbeth o ryfeddod a llawenydd y Nadolig cyntaf hwnnw - y gwir Nadolig".
"Mae'r Nadolig yna - ei ryfeddod, ei lawenydd a neges o gariad yn dal i fodoli, " ychwanegodd.
Oherwydd hyn, meddai, y mae stori'r geni yn parhau i'w wefreiddio.
"[Ym] mhlant pob oes mae yna ryw ddiniweidrwydd apelgar iawn . . . ac maen nhw yn gallu creu rhyw ryfeddod a llawenydd drwy eu diniweidrwydd," meddai.
"Mae rhyw wirioneddau yn cael eu datgelu a'u dangos ichwi yn y cyflwr hwnnw [o fod yn blant] ac mae'n dal i fod yn wir ac yn dal i fod yn rhywbeth sydd yn fy rhyfeddu i dro ar ôl tro ar ôl tro ac y mae yna yn y Nadolig a'r Pasg rywbeth rhyfeddol i mi drwy'r amser ac rwyf wedi trio canu am y ddau beth achos mae o'n cyffwrdd ynof i," meddai.
Cysur mewn dyddiau anodd - neges Nadolig
|