|
|
|
Cerdded i gofio Esgob Teulu a ffrindiau yn cofio Tony Crockett |
|
|
|
Bydd y diweddar Esgob Tony Crockett yn cael ei gofio flwyddyn wedi ei farwolaeth gyda chyfres o deithiau cerdded rhwng de a gogledd Cymru.
Bu farw Tony Crockett a oedd yn Esgob Bangor yn 62 oed yn 2008 yn dilyn brwydr yn erbyn canser.
Ac yntau yn un a gafodd lawer iawn o bleser o gerdded - a phererindota yn arbennig - yn ystod ei fywyd mae ei deulu a'i ffrindiau yn trefnu ar gyfer 2009 bedair taith gerdded mewn gwahanol rannau o Gymru fel rhan o bererindod o Bontypridd, lle cafodd ei eni, i Fangor.
Meddai ei ferch, Kate Crockett:
"Roedd Dad yn hoffi cerdded ac wedi cwblhau pererindod o fil o filltiroedd o Le Puy i Santiago de Compostela yn 1995. Felly dyw'r ychydig dros 300 milltir sydd gyda ni i'w wneud ddim yn teimlo fel cymaint o daith!"
Pedair wythnos Bydd y daith yn cael ei rhannu dros bedair wythnos wahanol, gan ddechrau ym mis Ebrill (13-18), ac yn parhau ym mis Mai (26-30), Gorffennaf (23-26), ac Awst (9-14).
Mae croeso i unrhyw un ymuno a'r daith am gyfnodau o'u dewis bydded hynny yn awr o gerdded neu fwy.
Er nad codi arian oedd y bwriad gwreiddiol dywedodd Kate Crockett y bydd arian yn cael ei godi tuag at ymchwil canser y prostrad trwy y Prostrate Cancer Research Association.
Wrth sôn am y daith ar y rhaglen radio Bwrw Golwg ar Â鶹Éç Radio Cymru Cyfeiriodd Kate Crockett at ddiddordeb mawr ei thad mewn pererindota:
Sgwennu yn helaeth "Yr oedd diddordeb arbennig gydag ef mewn pererindota - roedd wedi sgwennu yn eithaf helaeth ar y pwnc a diddordeb mewn ymchwilio i'r pwnc ac yr oedd ef ei hun wedi cerdded ar y daith i Santiago de Compostela yn 1995 a oedd yn fil o filltiroedd. Fe gymerodd e chwech wythnos o gyfnod Sabothol i wneud hynny" meddai.
"Yng Nghymru cerddodd o Sir Fôn i Dyddewi yn 2006 ac yr oedd wrth ei fodd yn cerdded yn y Bannau.
"Yr oedd yn rhywbeth oedd yn dod a phleser iddo fe."
Yn ystod ei salwch olaf yr oedd yr Esgob Crockett wedi trefnu pererindod yn ei esgobaeth i Aberdaron ac i olwg Ynys Enlli gyda rhai yn croesi'r bar i'r ynys - ond methodd ag ymuno â honno ei hun oherwydd ei waeledd.
"Mae e wedi sgrifennu tipyn. Fe sgrifennodd hanes ei daith i Compostela ac fe gafodd darnau eu darllen yn ei angladd," meddai Kate.
Yn ysbrydol "Yr oedd e'n mwynhau'r peth yn ysbrydol a theimlo ei fod yn dilyn yn ôl troed pobl oedd wedi bod [ar bererindod] ar hyd y canrifoedd ac yr oedd e'n mwynhau hanes pererindota a shwt roedd yr ystyr wedi newid dros y blynyddoedd ond hefyd yr oedd e jyst yn esgus da sut i gael ychydig o ymarfer corff , dod i adnabod Cymru yn well, dod i adnabod ardaloedd eraill yn well a dod i adnabod pobl eraill yn well achos wrth gerdded i Compostela fe gwrddodd e a phobl o bob rhan o'r byd oedd hefyd yn gwneud y daith honno," meddai.
Prif ddalen y teithiau.
|
|
|
|
|
|
|
|
|