Disgrifwyd y Gwir Barchedig Anthony Crockett, a fu farw ddechrau Gorffennaf, fel cwmnïwr da a oedd "yn fwy nag offeiriad" gan un o'i gyn blwyfolion.
Ar y rhaglen Bwrw Golwg ar Â鶹Éç Radio Cymru dywedodd Tim Evans o Gynwyl Elfed, lle bu Tony Crockett yn offeiriad plwyf; "Yr oedd yn fwy nag offeriad ond yn ffrind i'r teulu a'r ardal gyfan."
Fe'i disgrifiodd hefyd fel "cwmnïwr da" yr oedd rhai o bob oed, gan gynnwys plant a phobl ifainc, yn meddwl y byd ohono.
"Yr oedd yn siwtio pawb ac yn tynnu pobl i'r eglwys," meddai.
Ar yr un rhaglen cyfeiriodd Meurig Llwyd, Archddiacon Bangor, at weledigaeth Tony Crockett o eglwys gynhwysol, agored.
"Yr oedd yn boen iddo weld carfanau yn gwrthod siarad â'i gilydd," meddai.
Fe'i disgrifiodd hefyd fel esgob a deithiodd i bob cwr o'r esgobaeth gan ymweld ag eglwysi "na welodd esgob ers blynyddoedd lawer" cyn hynny.
Yn ystod ei weinidogaeth dywed iddo fynd â'r eglwys at y bobl.
"A rhoi wyneb dynol iawn i'r esgob a'r weinidogaeth a mynd a hi allan at y bobl y tu hwnt i ffiniau'r eglwys," meddai.
Ychwanegodd y byddai ei stamp ar yr esgobaeth "yn arhosol".
Hefyd:
Teyrnged Patrick Thomas
|