Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig

Â鶹Éç Homepage
Cymru'r Byd

»

Archif Crefydd

Safle Newydd



Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Straeon
Oedfa Deilwng
Cyfle i wrando ar oedfa 'gymunedol'
Mae yna dros 250 mlynedd ers i'r Meseia gan Handel gael ei berfformio am y tro cyntaf yn ninas Dulyn, Iwerddon.

Y cyfarwyddwyr cerdd Ar Ebrill 20 eleni, daeth 800 o bobol i gapel Jerusalem, Bethesda, i weld a chlywed cynhyrchiad cymunedol o Teilwng yw'r Oen, addasiad modern o waith gwreiddiol Handel.

Yn ystod mis Mai, mae cyfle i wrandawyr Radio Cymru wrando ar ddetholiad o'r noson arbennig hon.

Cynhyrchiad cymunedol go iawn oedd Teilwng yw'r Oen Dyffryn Ogwen - roedd 75 o aelodau yn y côr a fu'n cyfarfod unwaith neu ddwywaith yr wythnos ers dechrau Ionawr; roedd 15 o offerynwyr yn y gerddorfa fyw, yn cynnwys cerddorion o'r byd gwerin, roc a'r clasurol.

Y beirdd Roedd pump o arweinwyr profiadol yn gyfarwyddwyr cerdd, yn gofalu am y gerddoriaeth - Menai Williams, Sioned Webb, Owain Davies, Steven Rees a Beti Rhys.

Darlledwyd detholiad o Teilwng yw'r Oen ar Yr Oedfa, Sul y Pentecost, Mai 11.

Ar oedfa Mai 4 rhoddwyd sylw i gyfraniadau'r beirdd a'r llenorion Iwan Llwyd, Gwynfor ab Ifor, Ieuan Wyn, Annes Glynn a Manon Steffan Ros i'r digwyddiad, a phob un ohonyn nhw wedi cyfansoddi cerdd newydd sbon yn gyflwyniad i'r noson.

Unawdwyr Unawdwyr cynhyrchiad Bethesda o Teilwng yw'r Oen oedd Martin Beattie, Lleuwen Steffan a Lisa Jên, pob un ohonyn nhw'n hanu o Ddyffryn Ogwen ac wedi gwneud eu marc yn y sîn gerddoriaeth.

Y ddau lefarydd profiadol, John Ogwen ac Angharad Llwyd, oedd yn cyflwyno'r darlleniadau ar y noson, a'r Oedfa ar Fai 11.


Llusern
Hanes Crefydd yng Nghymru
Ebostiwch ni: crefydd@bbc.co.uk


About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý