Mae Anna Jane Evans a John Roberts wedi cwblhau eu taith gerdded o Benmon, Ynys Môn i Uwchmynydd ger Aberdaron.
Bu'r ddau, Anna Jane Evans yn drefnydd Cymorth Cristnogol yn y gogledd, a John Roberts yn gyflwynydd Bwrw Golwg ar Â鶹Éç Radio Cymru, yn cerdded y 60 milltir mewn 30 awr o olwg Ynys Seiriol i olwg Ynys Enlli er mwyn codi arian tuag at weithgarwch Cymrorth Cristnogol.
"Fe wnes i ymgymryd â'r her er mwyn codi arian ar gyfer cymunedau tlotaf y byd," meddai Anna Jane Evans.
"Mae'r wasgfa ariannol, fel popeth arall, yn cael effaith ddwysach ar bobl dlotaf y byd."
Roedd eu hapêl am nawdd yn parhau hyd yn oed ar derfyn y daith!
Ac meddai John Roberts, "Mae'n debyg mai dyma'r peth agosa i bererindod fedrwch chi gael yn yr unfed ganrif ar hugain - dilyn hen lwybrau ond, gobeithio torri tir newydd a gwneud lles i bobl eraill yn sgil y peth. Ac yn ôl un arbenigwr mae pererindod i Enlli yn golygu blwyddyn llai ym mhurdan i ni hefyd!"
Cyhoeddwn uchod on ddyddiadur sain a gadwodd Anna Jane Evans yn ystod y daith.
|