Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig

Â鶹Éç Homepage
Cymru'r Byd

»

Archif Crefydd

Safle Newydd



Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Straeon
D Ben Rees D Ben Rees
Ymddeol wedi deugain mlynedd yn Lerpwl
Mae'r Parchedig D Ben Rees yn llais Cymraeg mwyaf adnabyddus dinas Lerpwl - yn cael ei adnabod gan rai fel D Ben 'Lerpwl' Rees.

Mae ei berthynas â'r ddinas yn mynd yn ôl ddeugain mlynedd ac yntau wedi ei benodi yn weinidog Capel Cymraeg Heathfield Road y Presbyteraid yno yn 1968.

Ond mae'r cwlwm hwnnw ar fin cael ei dorri wrth iddo ymddeol ac ymddeol hefyd fel golygydd yr adran a adnabyddir fel Y Pedair Tudalen yn y papurau enwadol.

Bu'r ymddeoliad yn gyfle i Dei Tomos ei holi ar gyfer ei raglen nos Sul gan ofyn yn gyntaf a yw fflam y ffydd yn dal ynghyn yn Lerpwl wedi deugain mlynedd:

"Mae fflam y ffydd wedi cadw'n dda iawn ond nid fel y byddwn i wedi dymuno achos dydi'r Cymry sy'n dod i Lerpwl bellach ddim yn cael eu magu adref yng Nghymru i ddod i gapel ac mae hwn wedi bod yn dristwch mewn gwirionedd," meddai.

Cymharodd y sefyllfa heddiw â'r "holl fyfyrwyr" oedd yn llenwi'r seddau cefn yn y capel yn 1969 a sesiwn ar ôl oedfa yn cael ei chynnal ar eu cyfer.

Un oedfa y Sul sy'n cael ei chynnal yn awr ond dywedodd nad yw yn rhy ofidus ynglŷn â hynny:

yn awr "Yr ydw i'n hoffi'r syniad Americanaidd lle'r ydych yn cael y bore ar gyfer y capel ac wedyn y bobl yn cael cyfle i fod gyda'u teuluoedd a gweithgareddau eraill yn y prynhawn," meddai.

Dyma bigion eraill o'r sgwrs:

  • Lerpwl v Everton - cefnogi pwy?

  • "Bu'n rhaid imi ddysgu yn fuan iawn. Roeddwn i'n mynd i weld y ddau oherwydd yr oedd yna bobl frwd yn mynd i Everton ac roeddwn i'n mynd gyda nhw, ac yn mynd i Lerpwl gyda'r lleill!

    "A dwi'n cofio mynd i dŷ dyn arbennig a chanmol Lerpwl a dyma fe'n dweud; "Cofiwch rydych chi'n weinidog arnaf i ac rydych chi'n barchus iawn yn fy ngolwg i ond peidiwch a dod yma i sôn am Lerpwl."

    Ychwanegodd D Ben Rees fod pêl-droed yn "un o'r ychydig bethau" sy'n peri iddo "ymlacio'n braf."

  • Dinas lewyrchus
    Dywedodd fod y ddinas ar i fyny:
    "Ymhen tair neu bedair blynedd bydd Lerpwl yn un o'r dinasoedd hyfrytaf ym Mhrydain," meddai.

  • Siom Steddfod

  • Mynegodd siom na ddenwyd yr Eisteddfod i Lerpwl y eleni ar drothwy dathlu Blwyddyn Diwylliant yno.

    "Yr oeddwn wedi fy synnu fod y fath gulni yn bodoli," meddai.

    "A diffyg ystyriaeth y cefndir ydym ni ynddo . . . Cymry sydd wedi adeiladu y maestrefi a chanol y ddinas."

    Gwnaeth Cymry'r ddinas hefyd eu marc mewn sawl maes yn amrywio o feddygaeth i bêl-droed.

    Dywedodd fod y steddfod yn fwy diogel oherwydd y gwahoddiad gan iddo ddod a chynghorau Cymru at ei gilydd ar gyfer y dyfodol.

  • Crefyddau eraill:

  • "Rydym ni'n genedl sy'n gwybod beth ydi cael gormes ac mae'n bwysig ein bod yn rhan o bobl sy'n teimlo, yn aml, eu bod nhw hefyd yn cael eu gormesu a chael eu hanwybyddu a'u camddeall."

    Heddychiaeth
    Yn awdur llyfrau am Henry Richards a Gandhi dywedodd fod heddychiaeth yn bwysig iddo.

    Bu'n ymwneud llawer â Chymdeithas y Cymod "ac wedi gwneud fy ngorau i sôn am y traddodiad heddychol sy'n perthyn i'r Cymru."

  • O Abercynon i Lerpwl

  • "Roedd yn naid aruthrol a phan ddes i yma gyntaf roeddwn i'n meddwl na fyddwn i byth yn setlo'i lawr," meddai.

    Er mwyn dod i adnabod y ddinas byddai ef a'i wraig, Meinwen, yn neilltuo'r Sadwrn "i fynd ar goll yn y ddinas".

    "A dyna sut ddysges i ddod i adnabod Lerpwl yn dda. Ac erbyn hyn rwy'n adnabod y ddinas fel cefn fy llaw - pob twll a chornel."

  • Mewn ofn

  • Terfysg Toxteth 1981oedd "yr unig adeg imi deimlo y byddwn i'n mynd oddi yma . . . roedd y peth wedi cydio ynddon ni fel cymdeithas ac roeddech chi'n ansicr iawn beth oedd yn mynd i ddigwydd o awr i awr ac o ddydd i ddydd a dyna'r adeg mwyaf gofidus imi fod yn Lerpwl."

  • Gweinidog Cymraeg mewn dinas Saesneg

  • Dywedodd iddo gael gwerth arbennig o weinidogaethu i Gymry mewn dinas Seisnig ac ymweld â chleifion o Gymru mewn ysbytai yno.

  • Tua'r mil

  • Ac yntau wedi pregethu mewn mil o gapeli namyn 37 dywedodd;
    "A dyna'n uchelgais i os cai fyw ar ôl ymddeol, cael mynd i 37 o gapeli nad ydw i erioed wedi bod ynddyn nhw!"


    Llusern
    Hanes Crefydd yng Nghymru
    Ebostiwch ni: crefydd@bbc.co.uk


    About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý