Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig

Â鶹Éç Homepage
Cymru'r Byd

»

Archif Crefydd

Safle Newydd



Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Straeon
Meredydd Evans a'i briod (Manylion ar ddiwedd yr erthygl) Dewis bod yn 'gonshi'
Meredydd Evans yn sôn am anhawster bod yn driw iddo ef ei hun
Bod yn driw i chi eich hun - dyna'r broblem fwyaf i wrthwynebydd cydwybiodol yn yrstod yr Ail Ryfel Byd.

"Yr hyn oedd yn gyson efo chi oedd y busnes yma a oeddech chi mewn gwirionedd yn driw i chi'ch hun," meddai'r Dr Meredydd Evans wrth sôn ar y Post Cyntaf Medi 2, 2009, am ei benderfyniad ef i fod yn wrthwynebydd cydwybodol.

A'r amheuaeth fewnol ai defnyddio egwyddor i geisio achub ei groen ei hunan oedd o mewn gwirionedd.




'Nid yn beth hawdd'
Dywedodd wrth ohebydd y Post Cyntaf, John Meredith:

"Doedd o ddim yn beth hawdd i wneud y penderfyniad. Roedd gen i ddau frawd oedd yn y fyddin; ffrindiau rhywun [hefyd]."

Soniodd yn gyntaf am y cyfnod cyn cyhoeddi'r rhyfel:

"Roedd yna ddwy broblem fawr; problem cyfiawnder cymdeithasol a'r llall oedd heddwch a rhyfel," eglurodd.

"A dyna'r pethau roeddech chi'n meddwl amdanyn nhw ac yr oedd yna rhyw bump ohonom ni hogiau ifanc yn Nhanygrisiau o'r amser yna ymlaen wedi penderfynu petai yna ryfel yn dŵad, ac roedd hi'n edrych yn debyg iawn y byddai yna ryfel yn dŵad, beth oeddech chi'n mynd i'w wneud," meddai.

"Yr unig brofiad oedd ganddo chi yn y Tridegau o beth oedd wedi digwydd i wrthwynebwyr cydwybodol - i gonshis chwedl hwythau - yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf oedd carchar ac felly roeddech chi mewn sefyllfa ryfedd.

Yr oeddech chi'n paratoi eich hun pe byddai rhyfel yn dŵad y byddech chi'n gorfod mynd i garchar."

Ymateb pobl
Ond dywedodd na fu'n rhaid iddo ef ddioddef "dim byd garw" o ran atgasedd o fewn y gymuned ei hun.

"Mi fuo fi am flwyddyn cyn cael fy ngalw yn swyddogol yn wrthwynebydd cydwybodol. Roeddwn i'n gweithio yn y siop ac fe fyddai yna rai pobl, wrth gwrs, yn osgoi cael eu gweini arnyn nhw gen i.

"Roedd yna ambell i berson oedd yn dweud pethau cas ac ambell i berson oedd yn newid ei agwedd tuag atoch chi ond doedd hwnna ddim yn y mhoeni i, roeddwn i'n deall hwnna," meddai.

Dywedodd nad oedd tensiwn ar yr aelwyd ychwaith er bod dau frawd yn y rhyfel.

"A . . . fy holl gyfeillion ysgol aeth i'r rhyfel, ddywedodd yr un ohonyn nhw air bychan wrthaf i."

Yn peri mwy o anhawster iddo roedd ei gymhelliad personol dros sefyll:

'Yn gyson efo chi'
"Yr hyn oedd yn gyson efo chi oedd y busnes yma a oeddech chi mewn gwirionedd yn driw i chi'ch hun," meddai.

"Doedde chi ddim yn wrthwynebydd cydwybod unwaith ac am byth yn ystod cyfnod rhyfel. Doeddwn i ddim beth bynnag. Roeddwn i'n gorfod ail ennill fy argyhoeddiad o hyd ac o hyd ac o hyd a hwnna oedd y peth anodd - a oeddwn i mewn gwirionedd yn gwneud hyn oherwydd fy mod i eisiau cadw fy nghroen yn iach ynteu a oeddwn i mewn gwirionedd yn gwneud hyn o safbwynt egwyddor?"

Calonrwygol
Disgrifiodd fel peth "calonrwygol" newyddion am fechgyn o'r pentref yn cael eu lladd.

"Dwi'n cofio dau yn ffrindiau agos iawn, iawn, imi . Roedd yn gwneud eich safiad chi yn fwy anodd i'w gynnal.

"Bob amser roedd yn dŵad i'r cwestiwn yna Beth ydi eich barn am hyn a beth ydi dy argyhoeddiadau di a be fuasa ti'n i wneud pe byddai Hitler yn concwerio.

"Os oes raid dy alw di'n gachgi, wel dyna fo galwed pobl chi'n gachgi dydi o ddim bwys gen i fe allan nhw ngalw i'n beth fyd a fynnan nhw y peth mawr i mi oedd fod yn rhaid i mi ateb y cwestiwn yna a oeddwn i yn cefnogi rhyfel fel dull o drafod ac o ddatrys problemau efo'r holl fileindra ynteu ydw i am dystio i ffordd sydd yn rhagorach ffordd,"meddai.

  • Llun: Meredydd Evans a'i briod Phyllis Kinney ar glawr y gyfrol deyrnged 'Cynheiliaid y Gân ' wedi ei golygu gan Sally Harper a Wyn Thomas. Gwasg Prifysgol Cymru. £45.

  • Llusern
    Hanes Crefydd yng Nghymru
    Ebostiwch ni: crefydd@bbc.co.uk


    About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý