Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig

Â鶹Éç Homepage
Cymru'r Byd

»

Archif Crefydd

Safle Newydd



Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Straeon
Arwydd Cruse Maddeuant mewn galar
Cynghorydd yn trafod pwysigrwydd rhannu problemau
Pwysleisiwyd gan un sy'n cynghori ynglyn â galar pa mor bwysig yw hi i bobl rannu problemau a pheidio a gadael i euogrwydd gronni oddi mewn iddyn nhw.

Bu Wil Lloyd Davies, un o gynghorwyr y mudiad CRUSE, yn trafod ar y rhaglen radio Bwrw Golwg yr help sydd ar gael i rai sydd mewn galar yn dilyn marwolaeth.

Cychwynnodd y drafodaeth gyda'r sefyllfa arbennig a fodolai ynglŷn â Phrif Gwnstabl Manceinion, Michael Todd, a gafwyd yn farw yn Eryri a datganiad ei weddw, Carolyn, ei bod hi a'i theulu wedi maddau unrhyw anffyddlondeb iddi ar ei ran ef.

Hynod o bwysig
Gofynnodd John Roberts i Mr Williams pa mor bwysig ydi medru maddau mewn galar o'r fath:

"Mae o'n hynod o bwysig ac mae'n debyg mai un ffordd o ddiffinio maddeuant yn y sefyllfa yna ydi ' Dod i delerau â'r sefyllfa'. Hynny ydi, derbyn y sefyllfa," meddai.

"Dwi'n credu mai'r geiriau ddefnyddiodd hi [Caroline Stone] oedd, Rydw i wedi maddau iddo fo ac maen nheulu i wedi maddau a'r frawddeg nesaf oedd ganddi oedd Y trasiedi yw na cheisiodd help gan unrhyw un.

"Ac maen debyg mai dyna lle mae'r gyfrinach - mae yna lawer o bobl dan densiynau ac maen nhw'n cadw'r peth i mewn ynddyn nhw'u hunain; yn ei botelu ac yn ei gostrelu o yn hytrach na'i rannu a rhannu problem efo pobl eraill," meddai.

Dywedodd mai ffordd yw i berson ddweud ei fod yn derbyn y sefyllfa.

Nid anghofio
Ond pwysleisiodd na ddylid ystyried bod maddeuant gyfystyr ag anghofio.

"Mae yna wahaniaeth mawr rhwng maddeuant ac anghofio. Pan ydych chi'n sôn am gau pen y mwdwl, er eich bod chi'n dod i delerau â'r sefyllfa dydy chi ddim yn gallu anghofio a rywsut mae cau pen y mwdwl yn cyfleu eich bod chi yn anghofio ond yn sicr allwch chi byth anghofio achos mae trasiedi o'r fath yna yn creithio am oes."

Eglurodd fod 'anghofio' yn mynd yn groes i'r hyn mae CRUSE yn anelu ato:

"Dwi'n credu mai'r hyn ydym ni'n ceisio'i wneud ydi siarad efo pobl, cydweithio efo nhw trwy eu galar, rhannu eu gofidiau a rhannu eu pryderon a thrafod eu emosiynau nhw a'u teimladau nhw a'r pethau sy'n ymwneud â'r sefyllfa maen nhw ynddi hi," meddai.

Sioc a dicter
Bu'n trafod yr ystod o brofiadau sy'n dod yn sgil galar:

"Un o'r pethau cyntaf ydi sioc ac wedyn, yn aml iawn, mae dicter yn dod i mewn [y gair agosaf y gallai ei gael at 'anger' meddai] ac wedyn mae'r teimlad wedyn y gallech chi fod wedi gwneud pethau yn wahanol ac mae hwnna yn brifo llawer o bobl: Os buasem ni wedi gwneud hyn ac os a phetai felly.

"Mae gennych chi ddwy sefyllfa [un] lle mae'r person yn maddau i'r person sydd wedi ymadael ond mae yna hefyd sefyllfa arall lle mae 'r person sydd ar ôl o bosib yn teimlo rhyw euogrwydd oherwydd eu bod nhw wedi cyfrannu tuag at y sefyllfa ac mae hwnnw yn anoddach delio efo fo oherwydd mae yna elfen o euogrwydd yn cnoi ac yn bwyta pobl."

Yn dilyn profedigaeth
Dywedodd iddo ef ei hun ymgymryd â chynghori yn dilyn profedigaeth bersonol 11 mlynedd yn ôl "ac yn teimlo y buaswn i'n hoffi helpu pobl oedd mewn galar."

"Ac yn raddol bach dod i ddelio â sefyllfaoedd cymhleth [fel] rhieni sydd wedi colli plant ac, yn ail, pobl sydd wedi bod yn ddioddefwyr oherwydd hunanladdiad.

Cyfeiriodd at waith cymdeithas SOBS sy'n cynnal cyfarfodydd ddydd Mawrth cyntaf bob mis yn Yr Wyddgrug i rai sy'n ceisio dygymod â hunanladdiad yn y teulu.

Ychwanegodd fod galw am fwy o wirfoddolwyr Cymraeg i helpu CRUSE gyda chwrs hyfforddi y gellir ymuno ag ef fis Ionawr 2009.

  • Rhif ffôn ar gyfer ymuno â'r cwrs fis Ionawr: 08702 402758
  • Llinell Galar Cruse Cymru 0845 585565
  • Cruse Cymru 02920 886913 Swyddfa Cruse Cymru Ty Eneryla, Heol Las, Caerffili CF83 2WP

  • Llusern
    Hanes Crefydd yng Nghymru
    Ebostiwch ni: crefydd@bbc.co.uk


    About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý