麻豆社


Explore the 麻豆社

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Tramor

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



麻豆社 Homepage

Cymru'r Byd
» Tramor
Gogledd a Chanol America
De America
Ewrop
Affrica
Dwyrain Canol
Asia
Awstralasia a'r M么r Tawel

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Lle tawel i fyfyrio Taith Hawaii - Morfilod a phlanhigyn prin
Trydedd erthygl Idris Hughes o Ynys Vancouver, Canada, yn son am ei ymweliad â Hawaii

Ynys Maui Ebrill 18, 19, 2002
. "Maui no ko oi."
Dyna beth ddywed y trigolion beth bynnag.
"Maui yw'r orau."

Maui yw'r ail ynys fwyaf yn y gadwyn efo 103,000 o drigolion. Bychan iawn o gymharu a'r 2.3 miliwn o ymwelwyr a ddaw yna pob blwyddyn.

Nid pobl yw'r unig ymwelwyr â Maui. Y gred ydi bod tua hanner morfilod Humpback y byd yn dychwelyd i ddyfroedd cynnes Maui lle y'u ganwyd, i gyfarfod a morfilod eraill ac i gyplu.

Gwneud stranciau
Gwylio morfilod yw un o brif ddiddordebau hamdden Maui, ac ar ôl glanio yn Lahaina penderfynasom ninnau ymuno ag eraill o'r un fryd. Llogi cwch ac i ffwrdd a ni am brynhawn cyfan, i wylio'r morfilod anferth yn gwneud stranciau.

Uchafbwynt arall ein hymweliad â Maui oedd ein taith i Barc Cenedlaethol Haleakala sydd tua 45 milltir sgwâr ac yn noddfa i gannoedd o adar a phlanhigion unigryw.

Mae'r parc hefyd yn cynnwys 'fforest wlaw' ynghyd ag 'anialwch alpanaidd' o gylch copa llosgfynydd Haleakala.

Yma, ymhlith y creigiau folcanig, y sbwriel a'r llwch, cawsom gipolwg ar yr 'Haleakala Silversword', un o ryfeddodau ynys Maui.



Blodyn rhyfeddolNid yw'r planhigyn hwn yn tyfu yn unman arall yn y byd. Mae'n blodeuo unwaith; bwrw ei hadau ac yna'n marw. Ar un adeg bu bron iddo â diflannu'n llwyr.

Copa llosgfynydd
Haleakala yw llosgfynydd cwsg mwyaf Hawaii. Mae'r copa tua 10,000 o droedfeddi o uchder, a'r olygfa dros ynys Maui yn fythgofiadwy.

Ara deg iawn oedd ein camau ar y top a thenau iawn oedd yr awyr i'w hanadlu, a chynghorwyd ni i beidio â rhuthro o gwmpas yn wirion rhag ofn cael trawiad calon.

Choeliwch chi byth, ond mewn bws foethus y cawsom ein cludo tuag at gopa Haleakala; a hyn ar hyd ffordd darmacadam lyfn.

Y dewis arall oedd cael ein cludo i'r copa mewn tryc, ac yna gwibio yn ôl i lawr y llethrau ar feic.

Rhyw ddiwrnod, hwyrach, fe gawn wneud hyn hefyd.




cysylltiadau




ewrop

Canada
Nodau Cymreig yn taro tant

Siopau llyfrau sy'n bleser

Taith Hawaii - Morfilod a phlanhigyn prin

Taith Hawaii - Llosgfynydd Kilauea

Aloah Hawaii!

Twll mewn un i Gymro yng Nghanada

Gŵyl Dewi 2006

Condemnio dileu seremoni Steddfod

Cymanfa Ganu yn chwilio am yr ifanc

Anrhydeddu Cymro yng Nghanada

Eryrod yn casglu

Gŵyl Dewi 2005

Anrhydeddu Cymraes yn Vancouver

Doler Rhedwr Gobaith

Cefnogaeth ryngwladol i forfil

Morfil - ynteu hen bennaeth?

Ymwelydd annisgwyl

Y Cymry'n golffio

Etholiad yr anghysbell

Anrhydeddu Cymraes

Taith hoci a rygbi o Gymru

Cynhesrwydd yn eira Canada




About the 麻豆社 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy