麻豆社


Explore the 麻豆社

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Tramor

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



麻豆社 Homepage

Cymru'r Byd
» Tramor
Gogledd a Chanol America
De America
Ewrop
Affrica
Dwyrain Canol
Asia
Awstralasia a'r M么r Tawel

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


John O Pritchard Condemnio dileu seremoni Steddfod
Mae Cymro o Ganada yn cwyno fod seremoni Cymru a'r Byd yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn cael ei dileu

Mawrth 2006
Mae arweinydd y Cymry tramor yn yr Eisteddfod Genedlaethol y llynedd wedi beirniadu yn chwyrn y penderfyniad i wneud i ffwrdd a seremoni Cymru a'r Byd yn yr Ŵyl.

Mewn llythyr agored o'i gartref yn Vancouver, Canada, at Gyngor yr Eisteddfod Genedlaethol mae John O Pritchard yn erfyn am i'r seremoni gael ei hadfer.

Aelod blaenllaw
Yn wreiddiol o Ddyffryn Nantlle, treuliodd John O Pritchard y rhan fwyaf o'i fywyd yn gweithio ym myd addysg yng Nghanada lle mae'n aelod blaenllaw o gymdeithas Gymraeg gref yn Vancouver.

Ef ddewiswyd yn 'arweinydd' y Cymry tramor yn Eisteddfod Eryri y llynedd gan annerch o'r prif lwyfan yn ystod seremoni Cymru a'r Byd ar y dydd Iau.

John O PritchardY seremoni hon, sy'n mynd yn ôl i 1948, yw'r un y penderfynodd Cyngor yr Eisteddfod, yn ei gyfarfod diwethaf, ei dileu.

Yn syth wedi cyhoeddi'r penderfyniad galwodd Mr Pritchard am i'r Cyngor newid ei feddwl gan gyhuddo aelodau'r Cyngor o fod heb "amgyffred" o bwysigrwydd y seremoni i Gymry oddi cartref.

Dirfawr siom
Meddai yn ei lythyr sy'n cael ei gyhoeddi yn y rhifyn cyfredol o Yr Enfys, cylchgrawn Undeb Cymru a'r Byd:
"Gyda dirfawr siom a chalon drom y deallais na fydd croeso swyddogol i'r Cymry tramor yn Eisteddfodau'r dyfodol!

"Ofnaf nad oes gan aelodau'r Cyngor amgyffred pa mor angerddol bwysig yw'r seremoni groeso i ni Gymry oddi cartref.

"Bod ar lwyfan Yr Eisteddfod yn cael ein croesawu gan ein cyd Gymry yw uchafbwynt yr ŵyl i ni.

"Am y munudau emosiynol hyn y deisyfwn fwyaf yn ystod ein hymweliadau â'r Eisteddfod.

"A oes posib edrych ar y dyfarniad eilwaith?" meddai

'Loes y diddymu'
"Yn sicr hefyd, nid y Cymry tramor yn unig sydd yn dioddef loes y diddymu. Mae byddin o wirfoddolwyr yng Nghymru wedi cefnogi a hybu achos Undeb Cymru a'r Byd am bron i drigain mlynedd- ac yn enwedig felly sefydlwyr ac arweinyddion y mudiad.

"Mae amcanion y mudiad yr un heddiw ac ag oeddent yn y dechreuad: Cadw unigolion a chymdeithasau Cymreig drwy'r holl fyd mewn cyffyrddiad â'i gilydd ac â'r Famwlad - a chynnal cadwyn sefydlog rhyngddynt.

"Y seremoni croeso yw un o'r symbolau cryfaf yn y gadwyn hon. "Ai dyma'r gair olaf? "Fel Cymry Tramor, ymbiliwn yn daer am fywyd y seremoni croeso!!"

O'i anfodd
Yn y cylchgrawn hefyd y mae cadeirydd Undeb Cymru a'r Byd, Deiniol Wyn Price, Cymro Cymraeg o Birmingham, yn datgan mai penderfyniad y mae'r Undeb wedi gorfod ei dderbyn o'i anfodd yw un yr Eisteddfod Genedlaethol i ddileu'r seremoni.

Croesawu Cymry'r Wladfa yng Nghasnewydd 2004 Ond ychwanega y bydd yr Undeb yn gwneud popeth posibl - a hynny mewn cydweithrediad ag awdurdodau'r Eisteddfod - i sicrhau croeso teilwng i ymwelwyr o dramor ar y Maes yn Abertawe.

"Mae y Cymry hyn yn llysgenhadon brwd a gweithgar i Gymru yn eu gwahanol wledydd ac mae'n ddyletswydd arnom sicrhau croeso teilwng iddynt ar faes prif ddigwyddiad diwylliannol y genedl ac yr wyf yn falch o ddweud fod trafodaethau yn parhau rhwng yr Undeb â'r Eisteddfod i'r perwyl hwn," meddai.






cysylltiadau


ewrop

Canada
Nodau Cymreig yn taro tant

Siopau llyfrau sy'n bleser

Taith Hawaii - Morfilod a phlanhigyn prin

Taith Hawaii - Llosgfynydd Kilauea

Aloah Hawaii!

Twll mewn un i Gymro yng Nghanada

Gŵyl Dewi 2006

Condemnio dileu seremoni Steddfod

Cymanfa Ganu yn chwilio am yr ifanc

Anrhydeddu Cymro yng Nghanada

Eryrod yn casglu

Gŵyl Dewi 2005

Anrhydeddu Cymraes yn Vancouver

Doler Rhedwr Gobaith

Cefnogaeth ryngwladol i forfil

Morfil - ynteu hen bennaeth?

Ymwelydd annisgwyl

Y Cymry'n golffio

Etholiad yr anghysbell

Anrhydeddu Cymraes

Taith hoci a rygbi o Gymru

Cynhesrwydd yn eira Canada




About the 麻豆社 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy