麻豆社


Explore the 麻豆社

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Tramor

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



麻豆社 Homepage

Cymru'r Byd
» Tramor
Gogledd a Chanol America
De America
Ewrop
Affrica
Dwyrain Canol
Asia
Awstralasia a'r M么r Tawel

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Taith hoci a rygbi o Gymru
Lowri Davies o Lanybydder, Sir Gaerfyrddin, yn sgrifennu am daith - a dychryn - na fydd yn eu anghofio byth!

I Ganada â ni Dros wyliau hanner tymor yr hydref 2007 fe es i a gweddill y tîm hoci merched hŷn a thîm rygbi'r bois hŷn i Ganda ar daith.

Roedd hi'n hen bryd cael hoi fach o'r holl waith ysgol ac i fwynhau gyda ffrindiau tra'n cwrdd â phobl newydd.

O'r diwedd, ar ôl disgwyl misoedd daeth yn amser mynd, ddydd Iau 25 Hydref, ac yn ôl yr athrawon, cychwyn yn y bore bach fyddai orau - ond roedd chwech o'r gloch ychydig yn rhy gynnar i rai ohonom ni!

Aeth y siwrnai ar y bws i faes awyr Manceinion yn gloi a chyn troi rownd roedden ni ar yr awyren.

Roedd yn brofiad gwahanol iawn teithio mewn awyren gyda'n holl ffrindiau.

Roedd hi'n daith naw awr ond diolch byth roedd yna ffilmiau Ac fe gyrhaeddom ni Faes Awyr Pearson am 4.30 a chasglu'n bagiau cyn mynd ar y bws.

Ar gyfer y noson gyntaf roeddem ni'n aros yng ngwesty. Bond Place y drws nesaf i ganolfan siopa enfawr a ninnau'r merched yn ysu am gael siopa - ond gwely cynnar fu hi er mwyn cychwyn yn gynnar fore trannoeth.

I Ben y tŵr
Wedil noson o gwsg, aethom i'r CN Tower a oedd yn brofiad anhygoel. Yn 553 metr o uchder dyma adeilad uchaf y byd.

Y peth mwyaf anhygoel amdano yw'r llawr gwydr a ninnau'n gweld trwyddo y stryd 342 metr islaw inni.

Mwynhaodd pawb ydydd ac aethom nôl i'r gwesty er mwyn teithio i Leaside High School i gwrdd a'n teuluoedd cyntaf a mynd nôl i'w tai.

Doedd dim llawr o ferched hŷn yn chwarae hoci yn yr ysgol felly bu'n rhaid i nifer ohonom ni'r merched aros gyda bechgyn y tîm rygbi.

Mentro i'r tywyllwch nos CalanRoedd Hayden, y person cyntaf i mi aros gydag ef, yn synnu fy mod i a fy ffrind yn cymryd mwy na phum munud i baratoi ar gyfer mynd allan!

Yn y nos ymwelsom â Wonderland Halloween Haunt - math o barc Calan Gaeaf ond ar ôl rhyw bum munud yno roeddem ni moy'n mynd adref.

O amgylch y parc roedd bobl wedi gwisgo fel y meirw ac wrth inni gerdded o un lle i'r llall roedd rhain yn rhedeg ar ein holau ac yn gweiddi a sgrechian!

Doedd hyn ddim yn brofiad pleserus iawn ac roedd hyd yn oed rai o'r bois yn ofni.

Y rhan fwyaf erchyll oedd cerdded drwy rhyw fath o dwnnel ac un o'r bobl oedd wedi gwisgo'i fyny yn rhedeg ar ein holau gyda chainsaw.

Roeddem ni'n falch o gael gadel y lle i barti a drefnwyd gan un o'r bechgyn ac yr oedd yn barti gwych a hithau'n un o'r gloch y bore pan benderfynon ni droi am adref!

Gêm gyntaf
Y bore wedyn cefais i a fy ffrind Elin frecwast bendigedig. Pancws, bacwn, wy wedi'i sgramblo a digon o dost.

Roedd y teulu yn gyfeillgar iawn ac yn trin ni fel un ohonyn nhw. Yna, roedd hi'n amser paratoi ar gyfer gêm chwyslyd o hoci a ninnau heb ddod dros y jetlag yn iawn!

Wedi ugain munud o chwarae roedd y gem yn gyfartal a Rhian yn sgorio gôl.

Y bois yn chwarae rygbi Ac fe enillodd y bois eu gêm rygbi 68 pwynt i 3 felly roedd pawb yn hapus a dim ond un peth oedd amdani - dathlu!

Felly, parti arall! Y tro hwn yn nhŷ Max-un o'r chwaraewyr rygbi.

Am 8.45 y bore wedyn fe adawon ni Leaside gyda rhai pobl yn dioddef o ben tost ar ôl y noson hwyr. Roedd hi'n drist ffarwelio â'n ffrindiau newydd ond roedd hi'n amser i ni symud ymlaen i'r ysgol nesaf.

Tebycach i Gymru
Ar ôl ychydig o siopa ar y ffordd aethom ni'r merched i'r Oxford District High School yn Waterloo a'r bois i Streetsville Secondary School.

Wedyn, cwrdd a'n teulu newydd am y tri diwrnod nesaf a ninnau, erbyn hyn, wedi cyrraedd lle oedd yn debycach o lawer i Gymru yng nghanol gwyrddni cefn gwlad.

Fy nghwmni y tro yma oedd Jane o flwyddyn 11 ac roeddem ni'n aros gyda Courtney Bisch.

Roedd yr ysgol hon yn wahanol i Leaside ond fe wnaeth pawb fwynhau yn fawr iawn.

Yr oedd ymweld â'r dref Amish y diwrnod wedyn yn brofiad gwahanol iawn gyda'r trigolion yn byw yn wahanol iawn i weddill Canada - llawer ohonyn nhw yn defnyddio car a cheffyl i deithio a rhai ddim yn defnyddio trydan.

Yn ôl yn yr ysgol cafwyd gêm arall o hoci.
Roeddem wedi clywed yn barod bod tîm yr ysgol hon yn un da iawn ac wedi ennill nifer o gystadlaethau ond serch hynny gêm gyfartal ddi-sgôr fu hi - ond enillodd y bois eu gêm rygbi unwaith eto.

Dyfroedd Niagra
Ymunwyd wedyn â'r bois am ddiwrnod ger Rhaeadr Naigra.

Mae'r rhaeadr yn anhygoel o fawr a bu'n rhaid gwisgo cotiau plastig rhag gwlychu.

Noson Calan Gaeaf cefais i, Jane a thair ffrind arall gyfle i fynd allan i wneud Trick or treat.



Y bois yn chwarae rygbiRoedd hyn yn wych a chan nad oedd gennym wisg ffansi bu'n rhaid i'r cit hoci wneud y tro ac ar ôl galw mewn llawer o dai daethom yn ôl gyda bagiau yn llawn losin o bob math.
Digon i bara misoedd!
Roedd hi fel bod yn blentyn bach eto!

Ar y cyntaf o Dachwedd aethom yn ein blaenau i'r ysgol olaf ac am ddau o'r gloch fe gyrhaeddom ni Erindale Secondary School a'r bois, Erin District High School.

Yr oeddwn yn aros y tro hwn gyda Caryl a Carys yng nghartref Natalie - teulu crand gyda'r tad yn ddyn busnes a'r fam yn feddyg ac yn bobl neis iawn.
Roedd ganddyn nhw fwrdd snwcer a phwll nofio.

Ar yr ail o Dachwedd aethon ni i'r Ontario Science Centre i weld pethau go anghyffredin.

Yna fe enillon ni'r gêm hoci gyda Hannah yn sgorio'r gôl ac fe enillodd y bois hefyd.

Penderfynon ni'r ferched ddod ynghyd y noson honno i ffarwelio a'n ffrindiau newydd a chafodd rhai o'r tîm bach gormod i'w yfed!

Fe ymuno ni gyda'r bois er mwyn treulio noson olaf yng ngwesty Bond Place a cychwynon ni nôl am adref am hanner nos.

Roedd hi'n drist gorfod gadael Canada ond ar y llaw arall roedd llawer ohonom yn barod i weld ein teulu yn dilyn ymweliad .

Yr ydym yn dal yn cael pyliau o chwerthin wrth gofio'r amser da ac yn sôn wrth bawb am yr Halloween Haunt! Os oes unrhyw un yn cael y siawns i fynd i Ganada rwy'n eich annog i'w gymryd.




ewrop

Canada
Nodau Cymreig yn taro tant

Siopau llyfrau sy'n bleser

Taith Hawaii - Morfilod a phlanhigyn prin

Taith Hawaii - Llosgfynydd Kilauea

Aloah Hawaii!

Twll mewn un i Gymro yng Nghanada

Gŵyl Dewi 2006

Condemnio dileu seremoni Steddfod

Cymanfa Ganu yn chwilio am yr ifanc

Anrhydeddu Cymro yng Nghanada

Eryrod yn casglu

Gŵyl Dewi 2005

Anrhydeddu Cymraes yn Vancouver

Doler Rhedwr Gobaith

Cefnogaeth ryngwladol i forfil

Morfil - ynteu hen bennaeth?

Ymwelydd annisgwyl

Y Cymry'n golffio

Etholiad yr anghysbell

Anrhydeddu Cymraes

Taith hoci a rygbi o Gymru

Cynhesrwydd yn eira Canada




About the 麻豆社 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy