麻豆社


Explore the 麻豆社

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Tramor

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



麻豆社 Homepage

Cymru'r Byd
» Tramor
Gogledd a Chanol America
De America
Ewrop
Affrica
Dwyrain Canol
Asia
Awstralasia a'r M么r Tawel

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Doler Rhedwr Gobaith
Ebrill, 2005
Idris Rees Hughes o Ynys Vancouver yn rhoi'r hanes rhyfeddol y tu ôl i ddoler newydd Canada

Pum mlynedd ar hugain yn ôl, ar Ebrill 12, 1980, fe gychwynnodd Terry Fox ar ei daith ar draws Canada. Hwn oedd y Marathon of Hope.

Y mis hwn, mae Terry Fox yn y newyddion unwaith eto, fel y Canadiad cyntaf i ymddangos ar ddarn o arian mewn cylchrediad yng Nghanada.

Chwalu'r freuddwyd
Ganwyd Terry Fox yn Winnipeg, Manitoba, ym 1958. Symudodd ei deulu yn gyntaf i Surrey, Vancouver, ym 1966 ac yna i Port Coquitlam ddwy flynedd yn ddiweddarach.

Yr oedd yn hôff iawn o'r ysgol ac yn cymryd diddordeb mawr mewn athletau gan roi ei fryd ar fod yn athro ymarfer corff.

Ond ym1977 ac yntau'n fyfyriwr ym Mhrifysgol Simon Fraser, daeth ei freuddwyd i ben oherwydd canser yr asgwrn.

Collodd Terry Fox ei goes, chwe modfedd uwchben ei benglin.

Y ddoler newydd Ar ôl dod dros y llawdriniaeth a chael coes artiffisial penderfynodd redeg ar draws Canada er mwyn casglu arian ar gyfer pobl eraill yn dioddef o ganser.

Felly, ar Ebrill 12, 1980, dechreuodd ei Marathon of Hope gan gychwyn o St. John's, Newfoundland.

Ei obaith oedd casglu un doler gan bob Canadiad.

Trwy law ac eira, fe redodd Terry gymaint a 42 km / 26 milltir bob dydd.

Ond ar ôl 143 o ddiwrnodau, 5,373km/ (339 o filltiroedd) bu'n rhaid i'r gŵr ifanc dewr roi'r gorau i'r daith, gan fod y canser wedi ymledu i'w ysgyfaint.

Dewrder Terry
Bu farw Terry Fox ar Fehefin 28, 1981 yn 22 oed.
Oherwydd dewrder Terry Fox, llwyddodd y Marathon of Hope gyntaf i gasglu $24.17 miliwn tuag at ymchwil canser ac erbyn heddiw, mae $360 miliwn wedi ei gasglu o gwmpas y byd drwy'r Terry Fox Run flynyddol.

Bydd gwedd wahanol felly ar wyneb y Loonie, sef ein doler ni ac mae breuddwyd Terry Fox yn fyw o hyd.

"Dydw i ddim yn freuddwydiwr - ond yr ydw i'n credu mewn gwyrthiau. Rhaid imi," meddai.






cysylltiadau




ewrop

Canada
Nodau Cymreig yn taro tant

Siopau llyfrau sy'n bleser

Taith Hawaii - Morfilod a phlanhigyn prin

Taith Hawaii - Llosgfynydd Kilauea

Aloah Hawaii!

Twll mewn un i Gymro yng Nghanada

Gŵyl Dewi 2006

Condemnio dileu seremoni Steddfod

Cymanfa Ganu yn chwilio am yr ifanc

Anrhydeddu Cymro yng Nghanada

Eryrod yn casglu

Gŵyl Dewi 2005

Anrhydeddu Cymraes yn Vancouver

Doler Rhedwr Gobaith

Cefnogaeth ryngwladol i forfil

Morfil - ynteu hen bennaeth?

Ymwelydd annisgwyl

Y Cymry'n golffio

Etholiad yr anghysbell

Anrhydeddu Cymraes

Taith hoci a rygbi o Gymru

Cynhesrwydd yn eira Canada




About the 麻豆社 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy