麻豆社


Explore the 麻豆社

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Tramor

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



麻豆社 Homepage

Cymru'r Byd
» Tramor
Gogledd a Chanol America
De America
Ewrop
Affrica
Dwyrain Canol
Asia
Awstralasia a'r M么r Tawel

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Taith Hawaii - Llosgfynydd Kilauea
Ail erthygl Idris Hughes o Ynys Vancouver, Canada, am ei daith i Hawaii

Ar ôl gadael Hilo, fe'n cludwyd ni wedyn mewn bws, drwy fforest drofannol ffrwythlon i'r Volcanic National Park, rhyw 4,300 troedfedd uwchlaw'r môr, i weld y llosgfynydd enwog, Kilauea.

Dyma brif atyniad yr ynys

Er bod ffrwydradau a chwdfeydd Kilauea yn dyner ou cymharu ag eraill,pan fyddo'r lafa yn llifo, does dim a all ei wrthsefyll unwaith y gwnêl ei siwrnai dyngedfennol i'r môr.

Llosgi'n golsyn wnaiff popeth a saif yn ei ffordd.

Ond ymlaen a ni ar ein taith un filltir ar ddeg o gylch gweflau Kilauea gan oedi yma ac acw i syllu'i mewn i'r cawg mawr hyll.Wel a'n helpo ni.Dyna le!

Creigiau a thomennydd cerrig, llwch a lludw ymhobman. Cymylau o stêm yn codi drwy'r craciau, a drewdod sylffwr yn tagu ein corn gyddfau. Duw a'n helpo petai Kilauea'n deffro



Rhedyn trofannolDydd Iau,
Ebrill 16, 2002
.
Ar ôl ymweld a Kilauea ein bwriad oedd hwylio i'r De i gyfeiriad Ynys Ffanning, rhan o Weriniaeth Kiribati ac un o wyth o ynysoedd y Line Islands syn traws gamu'r Cyhydedd.

Siwrnai dau ddiwrnod oedd o'n blaen, a ninnau yn edrych ymlaen at gael troedio ar 'Ynys Drofannol' efo coed palmwydd ar draethau euraidd, dwr claear a lagwn gwyrddlas.

Rhyw 1,300 o drigolion sy'n byw ar Ynys Ffanning heddiw. Lle bach digon cyntefig o'i gymharu â'n safbwynt ni.

Llongau Norwyaidd yw eu hunig gysylltiad gyda'r byd mawr tu allan.

Yn anffodus ni wireddwyd ein hawch am weld Ynys Ffanning. Yn ystod y nos bu raid i'r Norwegian Star newid cwrs a hwylio am 90 milltir i'r De Orllewin i achub dau forwr mewn trafferth yn eu llong hwyliau fechan.

Ar y ffordd o Tahiti i Honolulu 'roeddynt, ond fe gymerwyd un ohonynt yn swp sâl a gorfu iddo gael ei drosglwyddo i'r Norwegian Star am lawfeddygaeth ac yna eu gludo mewn helicoptyr i ysbyty yn Honolulu.

Cyfrifoldeb y llall oedd gorffen y daith ar ei ben ei hun, a hwylio'i long fechan i Ynys Oahu rhyw bedair awr ar hugain i ffwrdd.

Ond chwarae teg i Norwegian, mi gawsom ddau ddiwrnod ychwanegol ar Ynys Hawaii a Maui i wneud i fyny am ein trafferthion.

Dydd Gwener Ebrill 17
Yn ôl i Kona, Hawaii.

Ar ochr Orllewinol Hawaii mae tref Kona;yr ochr sych fel petai.Lle heb ei ail i'r sawl sy'n mwynhau siopa neu'n ymddiddori mewn Hanes.

Yma, ym Mae Kailua y bwriwyd yr angor.

Mae digon i'w wneud yn Kona ac sy'n feca i'r siopwr brwd.

Yma mae 'Marchnad Coconut Grove' a 'Hilo Hattie', yn cynnig pob math o nwyddau dan haul,gyda siawns am baned o'r Kona Coffee enwog a chyfle i flasu yr 'Hawaiian Vintage Chocolates'-y gorau yn y byd yn 6ol y New York Times.

A hyn i gyd o fewn awyrgylch baradwysaidd Hawaii.Ond rhywbeth arall aeth a'n bryd ni mae arna'i ofn.

Eglwys Mokuaikaua
gogledd Kona
,
Eglwys fechan dlos yn null Hawaii. Adeiladwyd hi yn 1820 a hon oedd yr eglwys Gristnogol gyntaf i'w hadeiladu gan y cenhadon gorllewinol.
Dros y ffordd mae palas Hulihee a adeiladwyd yn 1838 a chartref haf i rai o aelodau teulu brenhinol Hawaii.

Cofgolofn Hikiau Heiau
De Kona
.
Ar waelod y ffordd sy'n arwain i Fae Kealakekua mae cofgolofn Hikiau Heiau; carreg goffa wen sy'n nodi'r fan lle lladdwyd Capten Cook mewn ysgarmes â brodorion Hawaii yn 1779.

Pu'uhonua o Honaunau
Rhan o'r Parc Cenedlaethol
Ar arfordir deheuol Kona, mewn mangre wastad, o lafa du, ynghyd a thoreth o goed palmwydd tal,mae paradwys fechan o'r enw Pu'uhonua o Honaunau.

Yma 'roedd Gerddi Brenhinol a phreswylfa penaethiaid ardal Kona, wedi eu hamgylchynu â wal deg troedfedd o uchder a dwy droedfedd ar bymtheg o led.

Yr ochr arall i'r wal mae'r Pu'uhonua; noddfa i ffoaduriaid Hawaii a oedd wedi torri'r 'Kapu' deddfau cysegredig Hawaii. Unwaith tu mewn i'r noddfa mi roedd y troseddwr yn saff.

Lle tlws; lle tawel. Mi gofiaf am y lle hynod hwn am flynyddoedd lawer. Ac mi gofiaf am y gwres; 91F.




cysylltiadau




ewrop

Canada
Nodau Cymreig yn taro tant

Siopau llyfrau sy'n bleser

Taith Hawaii - Morfilod a phlanhigyn prin

Taith Hawaii - Llosgfynydd Kilauea

Aloah Hawaii!

Twll mewn un i Gymro yng Nghanada

Gŵyl Dewi 2006

Condemnio dileu seremoni Steddfod

Cymanfa Ganu yn chwilio am yr ifanc

Anrhydeddu Cymro yng Nghanada

Eryrod yn casglu

Gŵyl Dewi 2005

Anrhydeddu Cymraes yn Vancouver

Doler Rhedwr Gobaith

Cefnogaeth ryngwladol i forfil

Morfil - ynteu hen bennaeth?

Ymwelydd annisgwyl

Y Cymry'n golffio

Etholiad yr anghysbell

Anrhydeddu Cymraes

Taith hoci a rygbi o Gymru

Cynhesrwydd yn eira Canada




About the 麻豆社 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy