麻豆社


Explore the 麻豆社

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Tramor

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



麻豆社 Homepage

Cymru'r Byd
» Tramor
Gogledd a Chanol America
De America
Ewrop
Affrica
Dwyrain Canol
Asia
Awstralasia a'r M么r Tawel

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


John O Pritchard Twll mewn un i Gymro yng Nghanada
Cymro'n cyrraedd y nôd deirgwaith ar y meysydd golff.

Dydd Sul, Chwefror 4, 2001

Cymry Vancouver yn dathlu!

Mae Cymro wedi sgorio Twll-mewn-un am y trydydd tro ar faes golff yng Nghanada.

Cafodd John O.Pritchard o Vancouver y bêl i'r twll gydag un trawiad yn ddiweddar ar faes golff Richmond yn Vancouver.

Wrth ddathlu'r digwyddiad dywedodd ei gyd golffiwr, Gwilym Evans, mai dyma'r trydydd tro i John gael twll mewn un.

Ac meddai Idris Hughes a anfonodd y newyddion i 麻豆社 Cymru'r Byd:
"Bydded i Tiger Woods edrych dros ei sgwyddau o hyn ymlaen.

Ychwanegodd: "Da gweld fod Cymry Vancouver yn parhau i gadw safon uchel ym myd golff Gogledd America a hynny er gwaethaf y coyotes direidus sy'n benderfynol o ddwyn eu peli o dro i dro."

O Ddyffryn Nantlle

Un o blant Dyffryn Nantlle yw John Pritchard, John O.P. i'w gyfeillion, ac yn briod a Llinos un o ferched Aberangell, Dyffryn Dyfi.

Cyfarfu y ddau mewn swper Gwyl Dewi gan Gymdeithas Gymreig Vancouver yn 1962 ond priodi yn Aberangell yn 1963!

"Ar ôl gweithio mewn gwahanol swyddi efo bwrdd addysg Vancouver am ddeng mlynedd ar hugain, penderfynu fod yn well gennyf chwarae golff na gweithio ac rwyf wedi cael tri thwll-mewn-un yn ystod y deng mlynedd diwethaf yma," meddai John.

Ar ben hynny, bu Llinos yn llwyddiannus mewn cael un hefyd!

Dim ond un arall a bydd John yn gyfartal a phencampwr y clwb!

"Mae ef yn 85 oed - felly mae gennyf rai blynyddoedd wrth law!" meddai gan ychwanegu fod y golff yn edrych ar ôl y cymalau.

Dywed fod pwyllgor gwaith y Gymdeithas Gymreig a GWEhebu gyda Chymry o amgylch y byd yn cadw'r meddwl yn ystwyth!

Neuadd y Cymry

Un arall o Gymry Richmod yw Gwilym Evans sy'n enedigol o Nefyn, Gwynedd, ond yn byw yng Nghanada er 1964.

Yr oedd yn feddyg cyn ymddeol

"Mae Cymry Vancouver a'r cylch ym meddu ar neuadd eu hunain, Neuadd Cambrian, yn Vancouver, a adeiladwyd dros drigain mlynedd yn ôl gan nifer o Gymry fel canolbwynt i Gymry'r ddinas, " meddai.

"Cymdeithas Gymraeg Vancouver yw'r unig gymdeithas yng Ngogledd America i feddu ar adeilad o'r fath lle mae'r neuadd yn eiddo i'r Gymdeithas.

"Cynhelir dwy gymanfa ganu yn gyson yn y neuadd yma, yn mis Tachwedd a mis Mai pan ddaw corau meibion Cymreig drosodd.

"Bydd y neuadd yn agored i'r aelodau bob nos Sadwrn a mae gwasanaethau Cymraeg yno unwaith y mis. Weithiau cynhelir cyngerdd yn y neuadd, a mis Ebrill nesaf mae drama Under Milk Wood yn cael ei chynnal yno gan Gymdeithas Dylan Thomas, Vancouver."

O Lanllechid i Ganada

Ac meddai Idris Hughes:
"Fel Gwilym a John, o'r gogledd rwyf innau hefyd. Brodor o Lanllechid ger Bethesda - ardal y chwareli.

"Deuthum i Ganada yn 1966 ar ôl pwl o ddysgu yn Lerpwl. Bum yn athro ysgol yn Nyffryn Comox ar Ynys Vancouver tan 1996 ac ar hyn o bryd rwy'n gweithio efo'r North Island Distance Education School.

"Wedi cyfarfod a John a Gwilym trwy gyfrwng cylch sgwrsio Cymraeg sy'n cynnwys nifer o Gymry eraill ar draws y byd.

"Mae nifer o Gymry ar yr Ynys ac mae cyfle i sgwrsio a nhw yng Nghymdeithas Gymraeg Victoria yn ystod y Nadolig a Swper Dydd Gwyl Dewi.

"Ond mae'r cyfrifiadur wrth gwrs yn gwneud cysylltu a'n gilydd yn rhwyddach o lawer ac yn lwcus iawn mae corau o Gymru ac enwogion fel Bryn Terfel yn ymweld a ni fan yma yn reit gyson."




ewrop

Canada
Nodau Cymreig yn taro tant

Siopau llyfrau sy'n bleser

Taith Hawaii - Morfilod a phlanhigyn prin

Taith Hawaii - Llosgfynydd Kilauea

Aloah Hawaii!

Twll mewn un i Gymro yng Nghanada

Gŵyl Dewi 2006

Condemnio dileu seremoni Steddfod

Cymanfa Ganu yn chwilio am yr ifanc

Anrhydeddu Cymro yng Nghanada

Eryrod yn casglu

Gŵyl Dewi 2005

Anrhydeddu Cymraes yn Vancouver

Doler Rhedwr Gobaith

Cefnogaeth ryngwladol i forfil

Morfil - ynteu hen bennaeth?

Ymwelydd annisgwyl

Y Cymry'n golffio

Etholiad yr anghysbell

Anrhydeddu Cymraes

Taith hoci a rygbi o Gymru

Cynhesrwydd yn eira Canada




About the 麻豆社 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy