麻豆社


Explore the 麻豆社

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Tramor

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



麻豆社 Homepage

Cymru'r Byd
» Tramor
Gogledd a Chanol America
De America
Ewrop
Affrica
Dwyrain Canol
Asia
Awstralasia a'r M么r Tawel

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Dathlu wedyn Y Cymry'n golffio
Idris Hughes o Ynys Vancouver, canada, yn sgrifennu am ornest golff y Cymry - lle cafodd o wobr am gamp annisgwyl:



Dydd Sadwrn Gorffennaf 3, 2004, cynhaliodd aelodau Cymdeithas Gymraeg Vancouver eu twrnamaint golff blynyddol.

Y tro hwn, a diolch am y trefniadau a wnaethpwyd gan Tec Roberts, penderfynwyd cynnal y twrnamaint yng nghlwb golff Poppy Estate, Aldergrove, heb fod nepell o dref Vancouver.

Yr oedd 27 o aelodau yn cymryd rhan a braf oedd clywed trefnydd y twrnamaint yn cyhoeddi'r achlysu'r ynghyd ag enwau'r chwaraewyr mewn Cymraeg glân gloyw.

Rhwng De a Gogledd
Uchafbwynt y dydd oedd yr ornest rhwng y Gogs a'r Hwntws gyda phedwarawd yn cynrychioli y Gogledd a phedwarawd yn cynrychioli'r De.

Y tro hwn, y Gogs a gafodd y gorau ar y De. Ond chwarae teg, dros y blynyddoedd mae'r canlyniadau wedi bod yn weddol gyfartal.

Fy mraint i oedd bod yn weddol rhydd o gyfrifoldeb gwladgarol a mynd ati efo ugain arall o aelodau Cymdeithas Gymraeg Vancouver i fwynhau prynhawn perffaith o golff ac i waldio'r bêl fach i abergofiant.

Rhaid cyfaddef fod na chwaraewyr dawnus iawn yn ein plith; gan ganolbwyntio yn arbennig ar y merched. Mi fuasent yn berffaith abl i amddiffyn anrhydedd y De neu'r Gogledd unrhyw ddydd.

Chwaraewr golff tywydd têg ydw i - does 'na ddim dwywaith am hynny gan mai fi oedd yr unig un y pnawn godidog hwnnw i ddarganfod dau bwll, dau drap tywod a chodi peth wmbreth o dywyrch.

Gwobr i bawb!
Ar ôl y miri a'r straffaglu daethom yn ôl i'r clwb i fwynhau pryd o fwyd blasus, gyda chwrw a gwin i dorri'r syched.

Cawsom siawns i ymgomio dros ergydion mawr y dydd, yr agosatrwydd at y twll, a'r 'twll mewn un' di-ddal y bydd yn rhaid disgwyl tan tro nesaf amdano!

Y chwaraewyrWrth gwrs, roedd 'na wobrwyo a llongyfarch - cwpanau a tharianau gloyw.

Yn wir, roedd rhywbeth i bawb; y gwych a'r gwantan a fy ngwobr i oedd potel o win o Ynys Sicily am mai fi oedd wedi trafeilio bella i'r ornest; yr holl ffordd o Ddyffryn Comox ar Ynys Fancwfyr.
Ond coeliwch fi; mi fyddai'n barod am tro nesaf!

Yn y llun: O'r chwith i'r dde yn sefyll: Gwyn Evans, Cwmbach, o'r De. Bob Marsh, Abertawe, Rob Barclay, Casnewydd, Andrew Thomas, Wrecsam, Gwilym Evans, Nefyn, Tec Roberts, Llanrwst (Trefnydd)
Chwith i'r dde yn eistedd: John Williams, Penmaenmawr a Dave Gilbert, Maerdy. Dydi Tim Williams, (Gogledd) ddim yn y llun.






ewrop

Canada
Nodau Cymreig yn taro tant

Siopau llyfrau sy'n bleser

Taith Hawaii - Morfilod a phlanhigyn prin

Taith Hawaii - Llosgfynydd Kilauea

Aloah Hawaii!

Twll mewn un i Gymro yng Nghanada

Gŵyl Dewi 2006

Condemnio dileu seremoni Steddfod

Cymanfa Ganu yn chwilio am yr ifanc

Anrhydeddu Cymro yng Nghanada

Eryrod yn casglu

Gŵyl Dewi 2005

Anrhydeddu Cymraes yn Vancouver

Doler Rhedwr Gobaith

Cefnogaeth ryngwladol i forfil

Morfil - ynteu hen bennaeth?

Ymwelydd annisgwyl

Y Cymry'n golffio

Etholiad yr anghysbell

Anrhydeddu Cymraes

Taith hoci a rygbi o Gymru

Cynhesrwydd yn eira Canada




About the 麻豆社 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy