麻豆社


Explore the 麻豆社

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Tramor

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



麻豆社 Homepage

Cymru'r Byd
» Tramor
Gogledd a Chanol America
De America
Ewrop
Affrica
Dwyrain Canol
Asia
Awstralasia a'r M么r Tawel

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Gorymdaith seremoni agoriadol Gwyl Gymreig Gogledd America Cymanfa Ganu yn chwilio am yr ifanc
Fel sawl mudiad yng Nghymru mae trefnwyr Gwyl Gymreig Gogledd America hefyd yn chwilio am ffyrdd o ddenu mwy o bobol ifainc i gymryd rhan.


Fel sawl mudiad yng Nghymru mae trefnwyr Gwyl Gymreig Gogledd America hefyd yn chwilio am ffyrdd o ddenu mwy o bobol ifainc i gymryd rhan.

Gyda'r hyn oedd yn arfer cael ei galw yn Gymanfa Ganu Gogledd America newydd ddod i ben yn Richmond, Vancouver, yr oedd y trefnwyr yn ymwybodol iawn wrth ganmol llwyddiant yr achlysur ei bod yn anodd perswadio pobl ifainc i ymddiddori mewn digwyddiadau fel hyn.

Yr oedd hwn yn bwnc a gafodd ei wyntyllu yn ystod brecwast blynyddol Ninnau "papur bro Gogledd America" yn yr Wyl.

Ond, fel ag yng Nghymru, doedd yna ddim atebion hawdd i'r cwestiwn "sut mae cael pobol ifanc?"

Llwyddiant Mabon
Lynn Owens-WhalenUn arwydd o'r ymdrech i wneud hynny yng Nghymanfa eleni oedd cynnwys Mabon ymhlith yr artistiaid gwadd ac yn ôl Lynn Owens-Whalen, Llywydd Cymdeithas y Gymdeithas Gymanfa Ganu Genedlaethol, yr oedd eu noson hwy yn llwyddiant ysgubol a'r 'fenter' o'w gwahodd yno gyda'u hymdriniaeth fodern o hen alawon gwerin Cymru wedi talu ar ei ganfed.

Nid pawb oedd yn cydweld fodd bynnag.

"Yr oedd yna bobol yn gadael y cyngerdd gyda dagrau yn eu llygaid, wedi eu siomi efo'r hyn gafwyd. Gwisg Gymreig yn RichmondDoedd o ddim beth oedda nhw'n y'i ddisgwyl," meddai gwraig o Ynys Vancouver y bore wedyn.

Ond yr oedd rhai fel y cyhoeddwr o Gymru, Terry Breverton, o'r farn ym mrecwast Ninnau fod apêl Mabon yn eang ac yn plesio rhai o bob oed.

Llai o bobl
Beth bynnag am Mabon, nid oedd cuddio'r ffaith fod y nifer i lawr yn sylweddol yn y 'Gymanfa' eleni ond yr oedd y bai am hynny yn cael ei roi ar amharodrwydd Americanwyr i deithio o'u gwlad eu hunain y dyddiau hyn hyd yn oed dros y ffin i Ganada.

"Mae'n drafferthus," meddai un a oedd wedi mentro. "Maer ciws yn hirion ar y ffin ac mi rydach chi'n cael eich cadw i ddisgwyl yn hir oherwydd mesurau diogelwch ers 9/11."

Fuo hynny ddim yn llestair i rai treuliodd un wraig yn ei phedwar ugain dridiau a hanner ar drên er mwyn medru dod yno a wynebai daith arall gyffelyb adre'n ôl!

Blwyddyn ddathlu
Mae'r gobeithion yn uchel y bydd y niferoedd i fyny'n sylweddol y flwyddyn nesaf pan fydd y 'Gymanfa' yn dathlu ei phen-blwydd yn 75 yn Buffalo gydag apêl i ddod yn ôl lle dechreuodd y cyfan "Come back to where it all began".

Ac er i'r digwyddiad newid ei enw eleni yn Gwyl Gymreig Gogledd America fel "Y Gymanfa" mae pawb yn mynnu cyfeirio ati o hyd am y rheswm syml mai cymanfa ganu yw uchafbwynt yr Wyl o hyd a'r holl ymarferion sy'n gysylltiedig â hynny.

Un o'r uchafbwyntiau yn Buffalo y flwyddyn nesaf fydd gwasanaeth coffa arbennig ar Goat Island rhwng rhadadrau Niagara yr Unol daleithiau a Chanada.

YDawnswyr Cymreig o Vancouverno yn 1929 yr ymunodd pedair mil o bobl ar gyfer y gymanfa gyntaf un ond go brin y bydd y mwyaf gobeithiol yn disgwyl gweld cymaint a hynny yno yn 2004 oni bai y bydd y wyrth o ddenu'r ifanc wedi ei chyflawni.

Os digwydd hynny bydd yna ddigon o sefydliadau yng Nghymru ei hun a fydd am gael gwybod beth yw'r gyfrinach.






ewrop

Canada
Nodau Cymreig yn taro tant

Siopau llyfrau sy'n bleser

Taith Hawaii - Morfilod a phlanhigyn prin

Taith Hawaii - Llosgfynydd Kilauea

Aloah Hawaii!

Twll mewn un i Gymro yng Nghanada

Gŵyl Dewi 2006

Condemnio dileu seremoni Steddfod

Cymanfa Ganu yn chwilio am yr ifanc

Anrhydeddu Cymro yng Nghanada

Eryrod yn casglu

Gŵyl Dewi 2005

Anrhydeddu Cymraes yn Vancouver

Doler Rhedwr Gobaith

Cefnogaeth ryngwladol i forfil

Morfil - ynteu hen bennaeth?

Ymwelydd annisgwyl

Y Cymry'n golffio

Etholiad yr anghysbell

Anrhydeddu Cymraes

Taith hoci a rygbi o Gymru

Cynhesrwydd yn eira Canada




About the 麻豆社 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy