麻豆社


Explore the 麻豆社

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Tramor

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



麻豆社 Homepage

Cymru'r Byd
» Tramor
Gogledd a Chanol America
De America
Ewrop
Affrica
Dwyrain Canol
Asia
Awstralasia a'r M么r Tawel

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Hywel a Carol Cynhesrwydd yn eira Canada
Hywel Gwynfryn yn cael croeso Cymreig yng nghanol eira Winnipeg, Canada.


Er yn 48ºC dan rewi yn Winnipeg, Canada, roedd y croeso cyn gynhesed ag unrhyw le pan ymwelodd Hywel Gwynfryn â gwlad dan orchudd o eira.

Yno yn ei ddisgwyl yr oedd dau o Gymru - i yn barod i rannu eu profiadau am y fywyd ym mhellafoedd talaith Manitoba.

Gadawodd Carol Sharp Langefni a Chymru pan oedd yn12 oed ond dychwelodd i fynd i goleg yn Aberystwyth, lle cyfarfu ei gwr John.

Wedi graddio gadawodd y ddau am Ganada lle mae Carol yn awr yn farnwr mewn llys yn Winnipeg.

Tristwch
Ond ochr yn ochr a llwyddiant bu tristwch mawr hefyd pan fu farw John o ganser wedi pedair blynedd o salwch.

Yr oedd Carol yn fawr ei chanmoliaeth i'r gefogaeth a gafodd gan gyfeillion yng Nghanada wrth geisio dygymod â'i thrallod.

"Roedd petha'n anodd iawn. Canser oedd afiechyd fy ngŵr. Yn ffodus roedd o'n ddyn ysbrydol iawn ac yn medru byw efo'i afiechyd ac yn medru gwneud pethau'n well i mi a phobol o'i gwmpas - ond yn y diwedd fe gollodd y frwydr," meddai.

Wynebodd gyfnod anodd iawn wedyn.

"Merch ydw i, nid dyn, ac yr oedd hynny'n anodd yma yng Nghanada ac hefyd roedd y teulu i gyd rywle arall. Doedd gen i neb yma ond y mae pobl Manitoba - a Winnipeg yn enwedig - wedi bod yn ffeind iawn wrtha fi. Yn garedig iawn,. A dwi'n ddiolchgar iawn iddyn nhw am hynny," meddai.

Dim ots am y tywydd
Bellach, mae Carol yn byw ar lan llyn Winnipeg mewn cymuned o rhyw 500 o bobl rhyw awr o'r ddinas lle mae'n farnwr.

Mae wrth ei bodd gydag amgylchedd hardd, a gaeafol y lle.

"Dim ots gen i am y tywydd - yr oerni - be dwi ddim yn licio ydi'r tywyllwch," meddai.

"Mae byw yng Nghanada yn rhoi teimlad o ryddid imi. 'Does na'm llawer o bobol yn Manitoba. Does na ddim traffig jams yma - mae'n hawdd iawn byw yma," ychwanegodd gan ddweud nad yw'n fwriad ganddi ar hyn o bryd ddychwelyd i Gymru.

Yn ystod ei ymweliad aeth â Hywel i gerdded ar y llyn yn gwisgo esgidiau eira rhwydog.

Nid yn unig mae'r eira yn drwchus ond yn orchudd blodiog dros dair troedfedd o rew hefyd.

"Rhaid ichi gael calon gref iawn," meddai Carol o weld Hywel wedi ymlâdd yn yr eira.

Lle ysbrydol
Mae pysgota yn y llyn yn beth hollol wahanol i bysgota yng Nghymru hefyd fel y darganfu Hywel wrth iddo roi cynnig arni yng nghwmni Alan Lloyd Owen o Olmarch, Llanbedr pont Steffan yn wreiddiol.

Rheoli siop ddodrefn yn Winnipeg mae Alan ond mae'n gerddor medrus hefyd ac fel Carol, ei galon ddaeth a fo i Ganada, yn dilyn ei gariad Sharon.

Gwêl y fro lle mae'n byw yn lle ysbrydol iawn ac ymddiddora yn nhraddodiadau a cherddoriaeth y cenhedloedd gwreiddiol.

AlanMae Sharon yn gweithio yn eu plith yn ceisio codi eu safonau byw wrth iddyn nhw geisio gwarchod eu diwylliant.

Yn yr ardaloedd sydd wedi'u neilltuo iddyn nhw mae bison yn cael eu magu ond atyniadau i ymwelwyr yw'r tipis traddodiadol a'r bobl yn byw mewn tai arferol.

"Yng Nghanada mae yna dipyn mwy o barch at ddiwylliant traddodiadol pobol o wahanol wledydd," meddai Alan. "Tipyn gwahanol i'r Amerig.

"Yn America rhaid i bawb fod yn American ond fan hyn mae yna gymaint o bobl o wahanol lefydd yn y byd . . . a phawb yn byw efo'i gilydd yn un teulu," meddai. "Mae cymaint cymysgedd. Y peth sy'n bwysig mewn bywyd yw cwrdd â phobl a chymryd oddi ar pawb ydych chi'n gwrdd. Y pethau da. Rwy'n credu fod e'n eich gwneud chi'n berson gwell," ychwanegodd.

Ar Dy Feic: nos Sul. S4C, 8.30.






cysylltiadau


ewrop

Canada
Nodau Cymreig yn taro tant

Siopau llyfrau sy'n bleser

Taith Hawaii - Morfilod a phlanhigyn prin

Taith Hawaii - Llosgfynydd Kilauea

Aloah Hawaii!

Twll mewn un i Gymro yng Nghanada

Gŵyl Dewi 2006

Condemnio dileu seremoni Steddfod

Cymanfa Ganu yn chwilio am yr ifanc

Anrhydeddu Cymro yng Nghanada

Eryrod yn casglu

Gŵyl Dewi 2005

Anrhydeddu Cymraes yn Vancouver

Doler Rhedwr Gobaith

Cefnogaeth ryngwladol i forfil

Morfil - ynteu hen bennaeth?

Ymwelydd annisgwyl

Y Cymry'n golffio

Etholiad yr anghysbell

Anrhydeddu Cymraes

Taith hoci a rygbi o Gymru

Cynhesrwydd yn eira Canada




About the 麻豆社 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy