Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig

Â鶹Éç Homepage
Cymru'r Byd

»

Archif Crefydd

Safle Newydd



Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Straeon
Y Parchedig Guto Prys ap Gwynfor Croeso a chyflwyniad
Gwasanaeth Nadolig Â鶹Éç Radio Cymru 2006
Croeso a chyflwyniad
Croeso a chyflwyniad gan y Gweinidog
Y Parchedig Guto Prys ap Gwynfor:

Yn Nadolig bob dydd i'r cyndadau


neu darllenwch beth oedd ganddo i'w ddweud, isod:


Nid oedd ein cyndadau anghydffurfiol yn dathlu'r Nadolig, oherwydd, iddynt hwy yr oedd pob Sul yn ddathliad o ddyfodiad Iesu i'n byd; a dylid myfyrio dros arwyddocâd y geni ym Methlehem ar bob adeg o'r flwyddyn, nid dim ond ar ganol gaeaf yn unig.

Yn yr un modd fe fynnent hefyd fod pob Sul yn Sul y Pasg ac yn gyfle i ddathlu'r atgyfodiad.

Mewn sawl lle, cynhaliwyd cyngherddau ac eisteddfodau ar y Nadolig ac nid cynnal oedfa arbennig fel sydd wedi dod yn ffasiynol ym mhob traddodiad eglwysig erbyn hyn.

Credai'r hen anghydffurfwyr hefyd nad oedd unrhyw rin arbennig yn perthyn i ddyddiau gŵyl, diwrnodau yr un peth â phob diwrnod arall ydynt.

Ni ddylid ychwaith, meddent, gyfyngu ewyllys da i un tymor byr yn unig, dylid arfer ewyllys da drwy'r flwyddyn gron; yn yr un modd dylid arfer haelioni drwy'r holl dymhorau.

Yn anorfod troi at ddathlu
Gydag amser, fe liniarwyd rhywfaint ar bendantrwydd yr hen anghydffurfwyr i gadw at yr egwyddorion hyn yn ein traddodiad, ac erbyn heddiw mae'r Annibynwyr, fel y mwyafrif o Gristionogion, yn dathlu'r Nadolig fel gŵyl arbennig.

Mewn ffordd yr oedd hyn yn anorfod, ceir cymaint o bwyslais ar yr ŵyl yn ein cymdeithas erbyn hyn byddai'n beth ffôl i beidio â defnyddio hynny er mwyn ceisio lledaenu'r neges am wir ystyr y Nadolig.

Gan fod y mwyafrif llethol yn dathlu'r ŵyl heb ddeall ei harwyddocâd ac heb ddiddordeb yn ei hystyr, onid ein cyfrifoldeb yw ceisio arwain a goleuo gymaint ag y gallwn?

Dod i ganol cyffredinedd bywyd
Er hynny, rhaid cydnabod fod grym yn nadl yr hen anghydffurfwyr.

Y drafferth o neilltuo diwrnod, neu gyfnod, i ganolbwyntio ar ddigwyddiad yw datblygiad y gred ofergoelus fod rhyw rin arbennig yn perthyn i'r diwrnod ei hun.

Byddai credu hynny yn mynd yn groes i ran hollbwysig o neges y Nadolig. Dod i ganol realiti a chyffredinedd bywyd a wnaeth Iesu; pobol gyffredin oedd ei rieni, a realiti tlodi a sicrhaodd ei fod yn cael ei eni yn llety'r anifail.

Realiti creulon gwleidyddiaeth grym y cyfoethog a sicrhaodd ei fod yn gorfod ffoi i'r Aifft gyda'i deulu a byw bywyd yr alltud am gyfnod, cyn dychwelyd i ganol cyffredinedd bywyd Galilea.

T Llew Jones Yn ei gerdd Ar Noson fel Heno y mae'r bardd T. Llew Jones yn pwysleisio taw noson debyg i nosweithiau eraill oedd y noson honno pan aned Iesu ym Methlehem, Jwdea, ychydig dros ddwy fil o flynyddoedd yn ôl.

Ein dathliad ni sy'n rhoi arbenigedd i'r noson.
Noson fel heno oedd hi mewn gwirionedd.
[Darllenwyd cerdd T Llew Jones, Ar Noson fel Heno gan blant yr eglwys.]

  • Cliciwch
  • i ddychwelyd i brif ddalen Oedfa Hermon ac i ddarllen cyflwyniadau eraill draddodwyd yn ystod y gwasanaeth.

  • I'r ddalen nesaf

  • Llusern
    Hanes Crefydd yng Nghymru
    Ebostiwch ni: crefydd@bbc.co.uk


    About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý