Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig

Â鶹Éç Homepage
Cymru'r Byd

»

Archif Crefydd

Safle Newydd



Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Straeon
Angylion
Disgyblion Ysgol Glan Cleddau
Angylion
Cyflwyniad
Weithiau, bydd pobol yn fy ngalw i'n angel. Bydd pobol yn dweud hyn pan fydda' i wedi bod yn dda, neu pan fydda' i wedi gwneud rhywbeth caredig a chlên.

Ond, os bydda' i wedi bod yn ddrwg, mae'n fwy tebygol iddyn nhw fy nghymharu i gyda'r diafol.

Mae gyda ni heddiw ein syniad o sut bethau ydi angylion. Maen nhw'n ferched, ar y cyfan, sy'n gwisgo dillad gwyn ac sydd â chylch hud yn disgleirio uwch eu pennau. Maen nhw'n hedfan o gwmpas o un lle i'r llall, ac yn gwneud gweithredoedd da.

Creadur gwahanol iawn ydi'r diafol. Mae e'n ddyn sydd wedi ei wisgo mewn coch, mae gydag e farf fechan ar ei ên, ac mae e'n byw mewn cwmwl o dân twym, twym.

Dyw e ddim yn ddyn neis iawn, ac mae e'n mwynhau ein gweld ni'n gwneud pethau drwg ac yn ffraeo gyda'n gilydd.

Ond, yn y Beibl, math o angel yw'r ddau - y da a'r drwg.
Y gwyn a'r coch.
Mae'r ddau yn gymeriadau sy'n siarad gyda ni, ac mae gyda ni'r dewis i wrando arnyn nhw neu beidio.

Yn nrama'r Geni, mae'r angel enwocaf ohonyn nhw i gyd - Gabriel - yn dod i ddweud wrth y bugeiliaid fod Iesu Grist wedi ei eni mewn stabl ym Methlehem.

Yna, mae yna gôr o angylion yn dod i ganu iddyn nhw ar y meysydd, gan ddweud wrthyn nhw am fynd i weld y baban bach sydd wedi ei rwymo mewn cadachau a'i osod i orwedd mewn preseb.

Y côr angylion sy'n tynnu sylw at y digwyddiad mwyaf yn hanes y byd, sef y newyddion da o lawenydd mawr.

Myfyrdod 1
Mae gyda ni bob amser y dewis i wrando neu anwybyddu lleisiau'r angylion sy'n siarad gyda ni. Y lleisiau da a drwg.

Weithiau, mae pobol yn dweud fod y diafol yn eistedd ar un ysgwydd a'r angel ar y llall, ac mai ein gwaith ni yw dewis ar ba un ohonyn nhw i wrando.

Weithiau, mae dilyn yr angel yn cael ei weld fel y peth saff a neis-neis i'w wneud, ac fe all dilyn cyngor y diafol ymddangos yn gyffrous.

Ond doedd yna ddim byd yn ddiflas am ymweliad yr angylion â'r bugeiliaid yn Stori'r Geni.
Dyna lle'r oedd y dynion mawr, cryf yma yn gwarchod eu defaid yn ystod y nos, pan hedfanodd y criw angylion atyn nhw a dweud wrthyn nhw am beidio ag ofni, am mai newyddion da oedd gyda nhw i'w gyhoeddi.

Roedd y bugeiliaid, druan, wedi dychryn ac wedi eu cyffroi, ac fe benderfynon nhw fynd ar eu hunion i weld y baban Iesu. Fe aethon nhw ag oen bychan yn anrheg iddo.

Myfyrdod 2 (o'r gyfrol Does Debyg Iddo Fe, Nick Fawcett, cyf. Olaf Davies, Cyhoeddiadau'r Gair)

Darlleniad (Luc 1: 26-33)

Darlleniad (Luc 1: 35-38)

Gweddi

Ar drothwy Gŵyl y Geni eleni, rydym ni'n gobeithio y clywn ni gân yr angylion eto eleni. Cân sy'n dweud am eni Gwaredwr y byd, a chân sy'n fytholwyrdd.

Tra bod negeseuon eraill yn newid mewn byd o hysbysebion a marchnata, mae neges yr angylion, a glywyd gyntaf erioed ar y llethrau uwchlaw Bethlehem ddwy fil o flynyddoedd yn ôl, yn para'n fyw.

Ein gwaith ni yw gwrando am y gân, a gwneud yn siwr ein bod yn clywed a deall y neges fawr.

Gweddi 2

Fe fu'r angylion yn siarad gyda bugeiliaid, gwÅ·r doeth a gyda merch ifanc, ddiniwed, cyn geni Iesu Grist. Mae Duw yn dal i siarad gyda ni heddiw, drwy angylion o bob math.

Gallwn ninnau fod yn angylion i Dduw, trwy fynd ac adrodd y neges am Iesu Grist wrth ein ffrindiau a'u teulu, ac wrth wneud pethau da a bod yn neis wrth bobol nad ydyn ni'n eu nabod.

Dyna ydi gwir neges y Nadolig. Eleni ac erioed
Amen.


Llusern
Hanes Crefydd yng Nghymru
Ebostiwch ni: crefydd@bbc.co.uk


About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý