麻豆社

Help / Cymorth

Archifau Gorffennaf 2007

We're fflyin ddy fflag....

Vaughan Roderick | 13:07, Dydd Mawrth, 31 Gorffennaf 2007

Sylwadau (1)

Dw i'n cyffwrdd fy nghap i am dynnu sylw at y stori yma. Mae'r llywodraeth yn Llundain yn paratoi cynlluniau a allai orfodi i adeiladau'r llywodraeth yng Nghymru hedfan Jac yr Undeb rownd y flwyddyn.

Yn 么l y diweddar ar lywodraethi Prydain "Symbols can help to embody a national culture and citizenship. The Union Flag is one of the most recognisable symbols of the UK". Fe fyddai hedfan y faner felly yn fodd i gryfhau cenedligrwydd y DU

Fyddai'r rheolau ddim yn cynnwys adeiladau sydd o dan ofal y cynulliad- dim Jac yr Undeb ar y Senedd felly ond fe allai olygu y byddai'n rhaid i lefydd fel y DVLA yn Nhreforys, y swyddfeydd passport yng Nghasnewydd neu hyd yn oed canolfannau gwaith hedfan y faner. Gellir darllen dogfen ymgynghorol y DCMS yn neu wylio Scooch yn canu "Flying the flag" yn .

Os nad yw'r syniad yn apelio atoch chi mae Peter Cox wedi cychwyn ar wefan Downing Street yn gwrthwynebu'r syniad

Mwydro ar Ddydd Mawrth

Vaughan Roderick | 12:45, Dydd Mawrth, 31 Gorffennaf 2007

Sylwadau (2)

Pethau rhyfedd yw iaith ac ymwybyddiaeth genedlaethol. Gall y ddau beth fod yn gyfystyr a'i gilydd fel yn achos y Boeriaid neu'n bethau cyfan gwbwl digyswllt fel yn y Swistir. Mae Cymru, am wn i, rhywle yn y canol gyda'r Gymraeg yn hanfod cenedligrwydd i rai ac yn ffactor ymylol i eraill.

Dyma i chi stori ryfedd y des i ar ei draws yn y. Mae llywodraeth Dwyrain Timor wedi mabwysiadu Portwgeeg fel iaith swyddogol er nad yw'r rhan fwyaf o bobol yn gallu ei siarad ac er mai hi oedd iaith y p诺er trefedigaethol.

Dewis o bedair iaith oedd gan y llywodraeth. Yn gyntaf rhoddwyd ystyriaeth i'r iaith frodorol, Tetum. Ym marn y llywodraeth doedd yr iaith honno ddim yn gymwys i'w defnyddio ar gyfer busnes swyddogol. Dw i'n ei chael hi'n anodd credu na ellid gwneud unrhyw iaith yn gymwys at unrhyw bwrpas trwy fathu termau ac yn y blaen ond dyna ni, dyna oedd barn y llywodraeth. Gwrthodwyd y syniad o ddefnyddio Saesneg gan fod y wlad yn ofni dod o dan fawd Awstralia ac wrth reswm, roedd defnyddio Bahaseg, iaith concwerwyr gwaedlyd Indonesia, yn gwbwl wrthun.

Roedd hynny'n gadael Portwgeeg- yr iaith a wnaed yn anghyfreithlon gan lywodraeth Jakarta nad yw'n cael ei siarad gan fawr o neb o dan ddeugain! Wrth gwrs efallai bod yr addewidion o gymorth ariannol ac addysgiadol o Bortiwgal ei hun yn gwneud gwahaniaeth!

Dyw'r bydd dim wedi talu llawer o sylw i Dde-ddwyrain Asia ers diwedd rhyfel Fietnam. Dy'n ni'n clywed fawr ddim, er enghraifft, am yr ormes waedlyd sydd wedi parhau am ddegawdau bellach yng Ngorllewin Papua. Dim ond pam y mae twristiaid yn cael eu lladd yn Bali y mae unrhyw sylw yn cael ei rhoi.

Mae hynny'n gamgymeriad. Mae 'na fwy o Fwslemiaid yn byw yn Indonesia nac mewn unrhyw wlad arall. Yn draddodiadol mae eu ffydd yn un gymedrol ond ers blynyddoedd bellach bu cenhadon eithafol y Wahabi yn ceisio estyn eu dylanwad a'u credo i'r wlad. Dyma un o'r gwledydd lle mae'r frwydr am galon ac enaid Islam yn cael ei hymladd- un o frwydrau allweddol y ganrif hon.

Y Frwydr Nesaf- Dwyrain Morgannwg

Vaughan Roderick | 17:41, Dydd Llun, 30 Gorffennaf 2007

Sylwadau (5)

Wrth edrych ar y rhagolygon etholiadol yn Nwyrain Morgannwg mae'n anodd rhagweld y bydd mwy na dwy sedd yn newid dwylo. Fe fydd angen gwaith caled iawn dros gyfnod hir os oes unrhyw un am lacio gafael y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghanol Caerdydd a go brin y bydd Plaid Cymru yn bygwth cadarnleoedd Llafur y cymoedd ar 么l methu gwneud hynny yn etholiad y cynulliad.

Y Ceidwadwyr sy'n bygwth Llafur yn y ddwy sedd allweddol yn fan hyn sef Gogledd Caerdydd a Bro Morgannwg. O'r ddwy Gogledd Caerdydd, sedd Jonathan Morgan yn y cynulliad, yw'r fwyaf addawol i'r Tor茂aid. Er nad yw wedi ei ddewis yn swyddogol eto Jonathan Evans fydd ymgeisydd y Tor茂aid. Mae'n ddewis perffaith ar gyfer yr etholaeth. Yn gymhedrol ac yn gwrtais, yn Gymreig heb fod yn rhu Gymreig, mae'n siwtio'r lle i'r dim.

Y cwestiwn mawr yw a fydd Julie Morgan yn sefyll eto? Y teimlad dw i'n cael yw y bydd hi'n mentro unwaith yn rhagor os ydy'r etholiad yn dod yn weddol o fuan. Wedi'r cyfan mae gan Rhodri bedair blynedd i fynd yn y cynulliad ac mae Julie ychydig o flynyddoedd yn iau na'i gwr. Dyw byw'n llawn amser ym Mwnt ddim yn apelio eto! Serch hynny gallai pethau newid os nad oes na etholiad cyn 2009.

Mae Bro Morgannwg yn dalcen caletach i'r Ceidwadwyr. Roedd y canlyniad yn etholiad y cynulliad yn rhyfeddol o agos a does dim dwy waith yn fy meddwl i y byddai'r Ceidwadwyr wedi cipio'r sedd pe bai Alun Cairns wedi mentro sefyll yn yr etholaeth. Alun fydd yr ymgeisydd yn yr etholiad cyffredinol ond mae gen i deimlad efallai ei fod wedi colli ei gyfle. Ar ddiwedd y dydd fe fydd popeth yn dibynnu ar y patrwm Prydeinig yn fan hyn.

Lincs

Vaughan Roderick | 14:06, Dydd Sul, 29 Gorffennaf 2007

Sylwadau (5)

Mae byd y blogs yn dawel. Mae hynny i ddisgwyl efallai ar drothwy Mis Awst. Dyma gasgliad eclectig o ddolenni i gadw ni i fynd.

Dim ond yn ddiweddar y des i ar draw . Aralleiriad o'r testament newydd i ddysgwyr a phobol ifanc yw'r safle. Fy hen gyfaill coleg Arfon Jones sy'n gyfrifol. Dw i'n deall y cymhellion yn iawn ond rwy'n fwy o ddyn William Morgan fy hun! Dyma flas o waith Arfon. Barnwch chi.

"Pan oeddwn i'n blentyn, roeddwn i'n siarad iaith plentyn, yn meddwl fel plentyn, a deall plentyn oedd gen i. Ond ers i mi dyfu鈥檔 oedolyn dw i wedi stopio ymddwyn fel plentyn. A dyna sut mae hi 鈥 dyn ni ond yn gweld adlewyrchiad ar hyn o bryd (fel edrych mewn drych metel); ond byddwn yn dod wyneb yn wyneb maes o law. Ychydig iawn dyn ni'n ei wybod ar hyn o bryd; ond bydda i鈥檔 cael gwybod y cwbl bryd hynny, yn union fel y mae Duw yn gwybod y cwbl amdana i. Ar hyn o bryd mae gynnoch chi dri peth sy鈥檔 aros: ffydd, gobaith a chariad. Ond y mwya ohonyn nhw ydy cariad."

Rhag eich cywilydd os nad oeddech yn gwybod mae o 1 Corinthiaid.13 y daw honna!

Dw i ddim am gymryd gwyliau yr haf yma ond dw i wedi penderfynu lle dw i am fynd nesaf. Bosnia. Ag eithrio efallai dinistrio cerfluniau Buddah Bamyan gan y Taliban a fu na fandaliaeth mwy torcalonnus erioed yn enw crefydd na dinistrio pont 鈥淪tari Most鈥 ym Mostar gan Catholigion eithafol? Nawr-wedi ei hadfer gan yr Undeb Ewropeaidd ac mae Bosnia wedi cychwyn . Bant a ni felly.

Wrth sgwennu am swydd newydd Rhuanedd Richards y dydd o'r blaen fe wnaeth hi daro fi faint o gyn-ddisgyblion Ysgol Rhydfelen sy'n gysylltiedig 芒 gwleidyddiaeth. Yno y cafodd Jon Owen Jones, Simon Thomas, Delyth Evans a Felix Aubel eu haddysg heb son am newyddiadurwyr fel Betsan Powys a Russel Issac. Dw i wedi cynnwys dolen i'r casgliad yma o o'r blaen ond roedd hynny peth amser yn 么l. Mae nhw'n werth eu gweld hyd yn oed os nad ydych yn gyn-ddisgybl.

Y frwydr fawr nesaf- Gorllewin Morgannwg

Vaughan Roderick | 13:08, Dydd Sadwrn, 28 Gorffennaf 2007

Sylwadau (1)

Ar 么l canfod dwsin o seddi ddiddorol yn y Gymru wledig mae'n bryd troi i'r de diwydiannol nesaf sydd o hyd yn frith o gadarnleoedd Llafur. Yn rhanbarth Gorllewin De Cymru er enghraifft dim ond un sedd seneddol sydd o ddiddordeb.

Ar lefel y cynulliad gallai Castell Nedd fod yn ddifyr tro nesaf yn enwedig os ydy Gwenda Thomas yn ymddeol a Bethan Jenkins yn penderfynu mentro mewn etholaeth yn hytrach na rhanbarth. Ond yn seneddol does dim peryg o gwbwl i Peter Hain. Mae hynny ond yn gadael Gorllewin Abertawe fel sedd a allai newid dwylo.

Gorllewin Abertawe yw'r unig etholaeth (ac eithrio Wrecsam efallai) lle mae gan y Democratiaid Rhyddfrydol obaith o gipio sedd. Y dasg i'r blaid yw ceisio gwasgu'r bleidlais Geidwadol. Gallai hynny fod yn anodd os ydy'r Ceidwadwyr yn mabwysiadu Rene Kinzett wnaeth sefyll dros y Democratiaid Rhyddfrydol y tro diwethaf fel eu hymgeisydd nhw. Ers newid ei liw mae Rene yn dwli tynnu blew o drwyn ei gyn-blaid.

Ar yr ochr Lafur mae'r strancs rhyfedda wedi bod wrth ddewis ymgeisydd i olynu tad T欧'r Cyffredin, Alan Williams. Fe benderfynodd y blaid gynnal y gynhadledd ddewis yn gynnar ar 么l i un o'r darpar ymgeiswyr, Dr. Parvaiz Ali, ddechrau recriwtio aelodau'n egniol ymhlith y lleafrifoedd ethnig. Rhaid pwysleisio nad oedd Dr. Ali yn gwneud unrhyw beth oedd yn groes i reolau'r blaid ond canlyniad ei ymdrechion oedd cynhadledd oedd wedi ei pholareiddio ar hyd llinellau ethnig. Fe enillodd Dr. Ali'r y bleidlais gyntaf yn y gynhadledd ond heb fwyafrif digonol. Dim ond yn y bleidlais olaf un gyda'r 鈥渂leidlais wen鈥 wedi cronni u tu cefn i un ymgeisydd y collodd y meddyg.

Geraint Davies cyn aelod seneddol Croydon Central yw'r ymgeisydd newydd. Gallai hynny fod yn newyddion drwg i'r Democratiaid Rhyddfrydol. Dw i'n meddwl bod hi'n deg i ddisgrifio Geraint fel Peter Black y Blaid Lafur. Dyw e ddim yn ddyn carismataidd na lliwgar ond fe wnaiff e weithio a gweithio a gweithio i sicrhai ei fod yn cadw'r sedd. Mae'r ffaith ei fod wedi symud ei deulu o Croydon i Abertawe er mwyn ceisio am yr enwebiad yn brawf o'i ddycnwch ac ymroddiad. Heb os fe fydd Geraint yn ceisio matsio'r Democratiaid Rhyddfrydol taflen am daflen, deiseb am ddeiseb yn ystod yr ymgyrch ac fe fydd e'n ddyn anodd iawn i guro.

SPADS ETO

Vaughan Roderick | 20:18, Dydd Gwener, 27 Gorffennaf 2007

Sylwadau (6)

Mae'n swyddogol erbyn hyn. Fy nghyfaill a chydweithiwr Rhuanedd Richards yw ail gynghorydd arbennig (SPAD) Plaid Cymru. Dw i'n gwybod ers rhai dyddiau ond fe wnaeth Rhuanedd ofyn i mi beidio dweud a dyw pechu SPAD cyn iddo fe neu hi gychwyn yn y swydd ddim yn syniad da!

Dyma'r eildro i gyd-gyflwynydd i mi dderbyn swllt y llywodraeth. Roedd prif-gynghorydd Rhodri Morgan Jo Kiernan a finnau arfer cyflwyno 鈥淕ood Morning Wales鈥 ac wrth gwrs Rhuanedd oedd yn cyflawni'r un dasg ar 鈥淒au o'r Bae鈥.

I'r rheiny sydd ddim yn ei nabod mae Rhuanedd yn ferch i'r Barnwr Phil Richards ac fe safodd ei thad a'i mam fel ymgeiswyr seneddol i Blaid Cymru yng Nghwm Cynon. Fel fi, cafodd ei haddysg yn Ysgol Rhydfelen. Trwy ryfedd cyd-ddigwyddiad roedd hi a Dafydd Trystan (sydd ar fin gadael ei swydd fel prif weithredwr Plaid Cymru) yn yr un flwyddyn a nhw oedd prif-ddisgyblion yr ysgol.

Fedrai ddim dweud cymaint o golled yw Rhuanedd i'r 麻豆社 a chymaint o gaffaeliad fydd hi i Blaid Cymru. Does neb yn gweithio'n galetach na Rhuanedd. Yn ogystal a chwyflwyno 鈥淒au o'r Bae鈥 a 鈥淢aniffesto鈥 hi oedd cydlynydd ystafell newyddion y 麻豆社 yn y bae yn ogystal a bod yn uwch-gynhyrchydd S4C2. Mae'n ganddi hi a'i gwr Steve fab a merch ifanc ac hi yw ysgrifennydd Mudiad Ysgolion Meithrin yn Rhondda Cynon Taf. Mae'r ffordd y mae menywod fel Rhunaedd yn llwyddo i wneud cymaint tra'n goddef y prima donnas gwrywaidd o'u cwmpas yn ryfeddod cyson i mi.

Mae na un peth ffodus yn hyn oll. Dw i'n nabod Rhuanedd ers oedd hi yn ei chlytiau a pham oedd hi'n dair oed fe wnes i weithio allan ffordd o wybod os oedd hi'n dweud celwydd. Gallai hynny fod yn ddefnyddiol.

Spads

Vaughan Roderick | 23:14, Dydd Iau, 26 Gorffennaf 2007

Sylwadau (3)

Dw i wedi clywed o sawl cyfeiriad bod Simon Thomas wedi ei bennodi fel SPAD (cynghorydd arbennig) i weinidogion Plaid Cymru ym Mae Caerdydd. Dw i'n cymryd bod hynny yn golygu na fydd e'n sefyll yng Ngheredigion yn yr Etholiad Cyffredinol. Mae'n debyg y bydd Dafydd Wigley ac Eurfyl ap Gwilym yn gweithio fel SPADS di-d芒l. Fe fydd 'na SPAD (cyflogedig) arall. Am resymau 芒 ddaw yn amlwg yn ystod y dyddiau nesaf fedrai ddim rhannu'r enw (nid fi, gyda llaw!)

Y Frwydr Nesaf - Caerfyrddin a Phenfro

Vaughan Roderick | 14:09, Dydd Iau, 26 Gorffennaf 2007

Sylwadau (4)

Os ydy canlyniadau'r etholiad cyffredinol nesaf yn y canolbarth yn allweddol i ddyfodol y Democratiaid Rhyddfrydol mae'r hyn ddigwyddiff yn etholaethau Penfro a Shir Gar o'r pwys mwyaf i Blaid Cymru.

Mae'n anodd credu erbyn hyn fod etholaeth Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr a'i rhagflaenydd Caerfyrddin ar un adeg yn dalcen caled i Blaid Cymru. Do, fe'i henillwyd hi yn 1966 a Hydref 1974 ond eithriadau oedd y buddugoliaethau hynny. Dros y degawd diwethaf mae Rhodri Glyn Thomas ac Adam Price wedi llwyddo i'w throi hi'n gadarnle gyda mwyafrifoedd tebyg i etholaethau Gwynedd. Ond os ydy Plaid Cymru o ddifri yn gobeithio bod yn blaid fwyaf Cymru mae'n rhaid iddi geisio ennill etholaethau eraill y ddwy sir.

Nid bod hi'n hawdd, ond Llanelli yw'r hawsaf o'r tair i'w chymryd. Yn etholiad 2005 enillodd Nia Griffith 46.5% o'r bleidlais. Pleidleisiodd 26.6% i'r Tor茂aid neu'r Democratiaid Rhyddfrydol. Yn etholiadau'r cynulliad fe lwyddodd Plaid Cymru i wasgu'r bleidlais honno i lawr i 13.8%. Pe bai hi'n gallu gwneud hynny mewn etholiad seneddol fe fyddai'r sedd o fewn ei gafael. Ond mae 'na ddau gwestiwn anodd- a fydd hi'n bosib gronni'r bleidlais wrth-Lafur yn sgil ffurfio'r glymblaid ym Mae Caerdydd ac ydy'r blaid yn fodlon gamblo'r sedd gynulliadol trwy ddwyn persw芒d ar Helen Mary Jones i ymgeisio am y sedd seneddol?

Ymhellach i'r Gorllewin mae Preseli a Gorllewin Caerfyrddin a De Penfro yn rasys dau geffyl ar lefel seneddol ond yn rasys tri cheffyl yn etholiadau'r cynulliad. Y nod i Blaid Cymru yn y ddwy sedd yn yr etholiad cyffredinol yw bod yn gystadleuol ac adeiladu ei threfniadaeth. Yn y cyfamser fe fydd y Ceidwadwyr yn ceisio eu gorau glas i dynhau eu gafael ar y sedd ogleddol a chipio'r un ddeheuol.

Fe fydd Llafur yn gorfod penderfynu p'un ai i fod yn ymosodol neu'n amddiffynnol. Chwaraeodd dewis gwael o ymgeisydd ei ran mewn colli Preseli. Gyda ymgeisydd gwell (Tamsin Dunwoody efallai?) gallai hon fod yn ras agos ond mae na ddadleuon cryf dros ganolbwyntio'r adnoddau ar gadw sedd Nick Ainger.

Er ei fod yn ddyn hyfryd ac yn aelod seneddol cydwybodol roedd gan Nick fwyafrif o lai na dwy fil y tro diwethaf ac mae'r drefniadaeth Geidwadol wedi ei thrawsnewid er gwell gan y newydd-ddyfodiaid y bu Syr Eric Howells mor sur yn eu cylch. Yn sgil eu buddugoliaeth yn 2007 mae hon yn darged amlwg i'r Tor茂aid.

Lincs

Vaughan Roderick | 15:36, Dydd Mercher, 25 Gorffennaf 2007

Sylwadau (0)

I'r rheiny ohonom sy'n becso am y Gymraeg mae hi wastad yn bleser darllen am iaith leiafrifol arall sy'n llwyddo adfywio. Dw i'n ddiolchgar i 鈥渙 bell鈥 am dynnu fy sylw at y o Seland Newydd. Mae'n ymddangos ar 么l blynyddoedd o golli tir mae'r iaith frodorol 鈥渢e reo鈥 ar gynnydd.

Anaml iaw di i'n sgwennu tudalen 鈥渓incs鈥 heb gynnwys cyfeiriad at . Ydych chi'n cofio'r stori yma am Chris Bryant a chyhoeddiadau dwyieithog mewn gorsafoedd rheilffordd? Fe gefnogwyd Chris gan Paul Murphy a Don Touhig. Mae yn berl.

"Not that this one is anything to do with stations. It's the defeated anti Red-Green coalition MPs soothing the hurt of their bloody noses by putting the boot into the Welsh Language. A new Welsh Language Act is one of the coalition's aims. Sad really that our two Gwent ex-ministers and papal knights cannot find anything more useful to fill their lives. Cheer up, Don and Paul and return to serious politics."

Un o bleserau bach fy mywyd yw dilyn gwleidyddiaeth rhyfedd a rhyfeddol yr Unol Daleithiau. Mae hwn yn gyfaddefiad trist ond dw i wrth fy modd yn gwylio'r hysbysebion 鈥渄ros y top鈥 sy'n nodwedd'r ymgyrchoedd. Mae o'r ras i ddewis llywodraethwr yn Louisiana yn glasuron. Diddorol yw nodi mai slogan y Democratiad yw "Make a difference". Oedd Plaid Cymru wedi cofrestri'r hawlfraint, tybed?

Y Frwydr Nesaf - Canolbarth Cymru

Vaughan Roderick | 12:34, Dydd Mercher, 25 Gorffennaf 2007

Sylwadau (2)

Wrth fwrw golwg ymlaen at faes y gad yr etholiad cyffredinol go brin fod na frwydrau mwy diddorol na'r rhai yn y canolbarth. Mae'n bosib darogan hyd sicrwydd y bydd Plaid Cymru yn ennill etholaeth newydd Dwyfor Meirionydd ond am y gweddill pwy 芒 wyr?

Yn y rhanbarth hon mae tair o bedair sedd y Democratiaid Rhyddfrydol ac am resymau gwahanol fe allai pob un ohonyn nhw fod yn simsan.

Ceredigion. Beth fedrai ddweud? Hon oedd yr ornest fawr yn etholiadau'r cynulliad ac heb os fe fydd Plaid Cymru a'r Democratiaid Rhyddfrydol yn taflu popeth ati y tro nesaf hefyd. Mae gan y Democratiaid Rhyddfrydol rai manteision o gymharu a'r r芒s gynulliadol. Eu dyn nhw yw deiliad y sedd y tro hwn ac mae mewnfudwyr a myfyrwyr o bant yn debycach o fwrw pleidlais mewn etholiad San Steffan. Ar y llaw arall ni fydd pobol Plaid Cymru yn cysgu fel gwnaethon nhw yn 2005. Yn ogystal fe fydd gan y Democratiaid Rhyddfrydol lai o weithwyr y tro hwn oherwydd yr hyn sy'n digwydd ym Maldwyn. Hyd y gwn i dyw Plaid Cymru ddim wedi deis ei hymgeisydd eto. Pwy sydd orau? Wyneb newydd neu hen law? Mae'n gwestiwn pwysig.

Pwy fyddai wedi proffwydo ddwy flynedd yn 么l y gallai'r caer Rhyddfrydol ym Maldwyn fod dan fygythiad? Dim ond unwaith y mae hi wedi syrthio mewn bron i ganrif a hanner. Eto mae'n ymddangos y gallai Lembit fod yn wynebu 鈥渟torom berffaith鈥 y tro nesaf. Y ffactor gyntaf sydd wedi creu'r sefyllfa yw bywyd preifat yr aelod seneddol ei hun- er efallai nad yw'r gair 鈥減reifat鈥 yn gwbwl addas i ddyn sydd mor hoffo'r camera a'r stiwdio deledu. Nid beirniadu Lembit ydw i trwy godi hyn ond mae 'na beryg amlwg ei fod wedi pechu rhai pobol. Yn enwedig mewn etholiad cynnar gallai hynny gyfri. Mae mawrion y blaid yn y sir yn poeni eu boliau wrth glwyed sibrydion bod Sian yn sgwennu llyfr ac yn becso beth fyddai'n digwydd pe bai'r berthynas 芒 Gabriela yn chwerwi.

Does a wnelo'r ail ffactor ym Maldwyn ddim oll 芒 Lembit. Mae'n deillio o hap a damwain system bleidleisio'r cynulliad a chanlyniad 2007 yng Ngorllewin Caerfyrddin a De Penfro. Oherwydd buddugoliaeth annisgwyl y Toriaid yn yr etholaeth honno fe gollodd Glyn Davies ei sedd restr. Heb os mae'n ymgeisydd delfrydol i'r Ceidwadwyr ym Maldwyn ond peidied neb 芒 meddwl ei fod yn wynebu tasg hawdd. Mae na fynydd o'i flaen. Sicrhaodd Lembit dros hanner y pleidleisiau'r tro diwethaf. Fe fydd yn rhaid i Glyn fwyta i fewn i'r bleidlais honno yn y Drenewydd a'r Trallwm a cheisio gwasgu'r bleidlais Gymraeg yng Ngorllewin y sir sy'n cael ei rhannu rhwng Plaid Cymru a'r Democratiaid Rhyddfrydol.

Fe ddylai Brycheiniog a Maesyfed fod yn haws i'r Democratiaid Rhyddfrydol. Ar 么l brwydr agos yn 2001 fe gynyddodd Roger Williams ei fwyafrif i bron i bedair mil y tro diwethaf. Serch hynny fe enillodd y Ceidwadwyr y bleidlais ranbarthol yn fan hyn eleni. Dw i'n cymryd mai Suzy Davies fydd yr ymgeisydd Ceidwadol unwaith yn rhagor. Roedd ei hymgyrch eleni yn un effeithiol ac yn sicr dyw Roger ddim yn mynd i allu cymryd dim yn ganiataol.

Mae'n anodd gor-ddweud yngl欧n 芒 phwysigrwydd yr ardal yma i'r Democratiaid Rhyddfrydol. Go brin bod na un sedd yng Nghymru y gall y blaid obeithio ei chipio tro nesaf. Fe fyddai colli un neu fwy o'r rhai sydd ganddi yn drychineb yn sgil methiannau 2007. Beth sy'n waeth i'r Blaid yw y gallai'r Etholiad Cyffredinol gael ei gynnal ar yr un diwrnod a'r etholiadau lleol flwyddyn nesaf gan beryglu cynghorwyr y blaid led led Cymru.

Ydy Democratiaid Rhyddfrydol Cymru yn wynebu diwrnod dialedd yn 2008?

Y Frwydr Nesaf

Vaughan Roderick | 12:21, Dydd Mawrth, 24 Gorffennaf 2007

Sylwadau (11)

Yn sgil dau is-etholiad siomedig i'r Ceidwadwyr a chyda'r arolygon barn yn awgrymu bod Llafur yn 么l dros ddeugain pwynt mae'r tebygrwydd o etholiad cyffredinol yn gynnar yn 2008 yn cynyddu. Mae'n bryd i ni droi ein llygaid at San Steffan felly.

Y peth cyntaf i ddweud yw y byddai etholiad cynnar yn dipyn o hunllef i'r pleidiau Cymreig. Oherwydd etholiadau'r cynulliad prin yw'r ymgeiswyr sydd wedi eu dewis a phrin yw'r adnoddau hefyd. Serch hynny fe fydd na lawer mwy o etholaethau diddorol yng Nghymru nac sy'n arferol mewn Etholiad Cyffredinol hynny yn rhannol oherwydd bod gwleidyddiaeth mwy cystadleuol y cynulliad yn dechrau dylanwadu ar yr ornest seneddol.

Mae 'na ormod i drafod mewn un erthygl felly dros y dyddiau nesaf fe wnai edrych ar Gymru rhanbarth wrth ranbarth gan gychwyn yn y Gogledd.

Yr hyn sy'n rhyfeddol yw y gallai'r rhan fwyaf o seddi'r Gogledd newid dwylo'r tro nesaf. Dim ond un sedd sy'n gallu cael eu cyfri yn gwbwl ddiogel sef Alun a Glannau Dyfrdwy ond fe fyddai angen amgylchiadau ffafriol iawn i'r Democratiaid Rhyddfrydol gipio Wrecsam ac mae'n anodd credu na fydd David Jones yn cadw eu afael ar Orllewin Clwyd. Dyw gogwydd at Lafur ddim yn amhosib, wrth gwrs, ond mae'n anhebyg yn fy marn i.

Tair sedd hynod ddiddorol yw Delyn, Dyffryn Clwyd a De Clwyd. Yn 2005 roedd y canlyniadau yn y tair yn hynod o debyg gyda Llafur yn ennill oddeutu 45% o'r bleidlais a'r Tor茂aid yn ail cymharol s芒l gyda o gwmpas chwarter y pleidleisiau. Ond fe ddaeth y Ceidwadwyr yn hynod agos i gipio Delyn a'r Dyffryn yn etholiad y cynulliad. Dw i'n tybio y gallai'r un ymgeiswyr sefyll eto yn y gobaith y bydd y eu henwau mwy adnabyddus o gymorth wrth gau'r bwlch. Serch hynny y 鈥渟wing鈥 Brydeinig fydd y ffactor allweddol yn y seddi hyn. Os ydy David Cameron ar ei ffordd i Downing Street gallai'r Tor茂aid eu hennill, os ydy Gordon Brown yn llwyddo dylai Llafur fod yn ddiogel.

Mae ffactorau lleol a Chymreig yn bwysicach yng ngweddill etholaethau'r Gogledd. Er i Blaid Cymru ennill Aberconwy yn etholiad y cynulliad dw i'n fodlon mentro swllt neu ddau mai ras rhwng y Ceidwadwyr a Llafur fydd hon yn seneddol. Mae colli Bangor a Dyffryn Ogwen o'r etholaeth yn ergyd drom i Lafur ac fe fyddwn yn synnu pe na bai Guto Bebb yn dod yn agos at gipio hon.

Roeddwn i, fel eraill, yn amau y byddai sedd newydd Arfon yn un bur ymylol rhwng Llafur a Phlaid Cymru mewn etholiadau seneddol. Cafwyd dim tystiolaeth o hynny yn etholiad y cynulliad er cymaint ymdrechion Martin Eaglestone. Serch hynny mae angen gair i gall ar Blaid Cymru yn fan hyn. Does ond angen edrych ar Aberconwy a Llanelli i wybod nad yw buddugoliaeth cynulliadol yn gwarantu buddugoliaeth seneddol. Fe fyddai'n gamgymeriad i Blaid Cymru gymryd Arfon yn ganiataol.

Beth fedrai ddweud am Ynys M么n? Dau air. Peter Rogers. Oni bai am ymyrraeth Peter dw i'n weddol sicr y byddai Plaid Cymru wedi cipio'r ynys yn 2005 er gwaethaf amharodrwydd traddodiadol yr etholwyr i ddiorseddi deiliaid y sedd. Beth wnaeth ddigwydd tro nesa? Duw...a Peter Rogers...a wyr!

Plu ar wal

Vaughan Roderick | 14:56, Dydd Llun, 23 Gorffennaf 2007

Sylwadau (6)

Does dim clem gen i pryd na pham y cychwynnodd y busnes rhyfedd o newid enwau tafarndai ond mae wedi bod yn bla ers blynyddoedd bellach gyda enwau hanesyddol yn diflannu er mwyn i rhiw 鈥渟lug & lettuce鈥 neu 鈥淲alkabout bar鈥 gymryd eu lle.

Y tafarn sydd wedi dioddef waethaf yn hyn oll yw'r un gyferbyn ac Eglwys Sant Ioan yng nghanol Caerdydd . Pan agorwyd y tafarn nol yn 1731 y 鈥淭ennis Courts鈥 oedd enw'r lle ac fe barodd yr enw hwnnw tan chwedegau'r ganrif ddiwethaf. Yna gyda pherchnogion newydd yn cynnig bwydydd soffistigedig y cyfnod (鈥減rawn cocktails鈥, 鈥淏lack Forest gateaux鈥 a'u tebyg) fe newidiwyd yr enw i'r 鈥淏ucanneer鈥. Yn ddiweddarach yr 鈥淥wain Glynd诺r鈥 oedd enw'r lle, yna'r RSVP ac yna'r 鈥淥wain Glynd诺r鈥 eto.

Heddiw sylwais fod y lle newydd ei rannu'n ddau. Mae un hanner yn dwyn enw Glynd诺r o hyd a'r hanner arall yn dafarn o'r enw 鈥淵 Tair Pluen鈥 - arwydd y Tywysog Du a'n Tywysogion Normanaidd a Seisnig wrth gwrs.

Yr eironi enfawr yw bod y tafarn newydd yn amlwg wedi ei anelu at ddenu Cymry Cymraeg. Tra bod arwyddion a bwydlenni yr Owain Glynd诺r i gyd yn uniaith Saesneg mae arwyddion a bwydlenni y 鈥淭air Pluen鈥 yn uniaith Gymraeg.

Hwn yw'r tro cyntaf i hyn ddigwydd yng Nghaerdydd hyd y gwn i. Mae na 鈥渄afarnau Cymraeg鈥 wedi bodoli ers degawdau wrth gwrs, naill ai rhai answyddogol fel y Conway a'r Cornwall neu rhai mwy bwriadol fel y Mochyn Du a'r Cayo ond hwn yw'r cyntaf, i mi wybod, sy'n hepgor unrhyw ddefnydd o'r Saesneg.

Pob lwc i bwy bynnag sy'n bia'r lle ond mae angen ail-feddwl ynghylch yr enw!

Un etholiad bach arall...

Vaughan Roderick | 12:18, Dydd Gwener, 20 Gorffennaf 2007

Sylwadau (0)

Roedd 'na is-etholiad yn Abertawe ddoe yn ward Llansamlet. Dyma'r canlyniad;

Llafur 鈥 769 (37.0%)

Dem. Rhydd 鈥 581 (28.0%).

Plaid 鈥 283 (13.6%)

BNP 鈥 226 (10.8%)

Ann 鈥 221 (10.6%)

Roedd hwn yn ganlyniad lled dda i'r Democratiaid Rhyddfrydol ac un sal i Blaid Cymru o gymharu a 2004;

Ann. 1176, Llafur1 1063, Llafur2 1062, Llafur3 975, Llafur4 939, Plaid Cymru 770, Dem. Rhydd. 598, Ceid1 566,
Ceid2 509, Ceid3 504.

Mae diffyg ymgeisydd Ceidwadol yn rhyfedd ac fe fydd presenoldeb a phleidlais y BNP yn testun pryder i'r pleidiau eraill. Fe fydd Llafur yn ddigon hapus o ystyried amgylchiadau rhyfedd ymadawiad Lawrence Bailey.

Un tro bach olaf

Vaughan Roderick | 19:08, Dydd Iau, 19 Gorffennaf 2007

Sylwadau (0)

Roeddwn i'n gwybod y byddai na un tro bach arall. Amser cinio cawsom wybod aelodau'r llywodraeth newydd. Yn eu plith roedd Carwyn Jones y "Cwnsler Cyffredinol, Arweinydd y T欧 a Gweinidog Busnes". Dyna union eiriau'r datganiad swyddogol.

Fel y nodais yn gynharach roedd hi'n ymddangos bod hynny yn groes i Fesur Llywodraeth Cymru. Gesiwch beth. Mae Carwyn wedi colli ei job fel "gweinidog busnes"- neu'r teitl o leiaf! Efe fydd yn gwneud y gwaith o dan y teitlau eraill ond yn swyddogol ac yn gyfreithiol fydd e ddim yn weinidog. "Camgymeriad bach" yn 么l rhyw un a ddylai wybod.

Dyna ni felly. Fe fyddaf yn blogio yn achlysurol yn ystod yr Haf felly galwch heibio. Roedd atebion Darren i'r cwis yn gwbwl gywir, gyda llaw.

Cnoi cil am y cabinet

Vaughan Roderick | 16:26, Dydd Iau, 19 Gorffennaf 2007

Sylwadau (0)

Nid fy mod yn un i frolio, wrth gwrs ond gan ei bod mewn cyfnod lle mae'r 麻豆社 yn ymddiheuro ar ras wyllt am bob math o bethau teg yw nodi mai darllenwyr y blog hwn gafodd y manylion cyntaf am gynnwys y cabinet newydd. Doeddwn i ddim yn gwybod popeth ond roedd popeth wnes i rannu da chi yn gywir. Y dyddiau hyn, credwch fi, mae hynny'n bwysig!

Y peth cyntaf i nodi yw bod Rhodri ac Ieuan wedi llwyddo i chwyddo nifer aelodau'r llywodraeth trwy ddehongliad clyfar o'r rheolau sefydlog. Fel mae "Awen" yn nodi mewn sylwad yn gynharach heddiw uchafswm maint y llywodraeth yw 13 sef y Prif Weinidog a deuddeg gweinidog ond mae 'na 14 o aelodau yn y llywodraeth newydd. Llwyddwyd i wneud hynny trwy benodi Carwyn Jones i r么l ddwbl fel arweinydd y cynulliad a Chwnsel Cyffredinol, prif swyddog cyfreithiol y cynulliad. Ar y wyneb mae hynny'n ymddangos yn groes i sy'n dweud hyn;

"A person holding office as the First Minister, a Welsh Minister appointed under section 48 or a Deputy Welsh Minister may not be appointed as the Counsel General or designated under subsection (6); and the Counsel General or a person so designated may not be appointed to any of those offices."

Fe fydd hi'n ddiddorol gweld sut mae Rhodri wedi llwyddo i ddod o gwmpas y mesur!

Fe fydd y penodiad hwn yn fel ar fysedd Carwyn. Heb gyfrifoldebau adrannol fe fydd ganddo'r amser a'r llwyfan i adeiladu ei broffil fel olynydd naturiol Rhodri Morgan.

O safbwynt cyfrifoldebau Plaid Cymru mae'n ddiddorol gweld bod dwy o'u hadrannau sef yr economi a diwylliant yn ddigon tebyg i'r rhai oedd gan y Democratiaid Rhyddfrydol rhwng 2001 a 2003. Mae'n amlwg mae cadw ei gafael ar y gwasanaethau cyhoeddus allweddol fel iechyd ac addysg yw'r flaenoriaeth i Rhodri mewn trafodaethau clymblaid. Roedd Materion Gwledig yn adran amlwg arall i gynnig i Blaid Cymru. Fe fydd hi'n ddiddorol gweld a fydd Elin Jones a Rhodri Glyn Thomas yn denu'r protestiadau traddodiadol yn y Sioe a'r 'Steddfod.

Yn 么l y disgwyl, mae Ieuan wedi dewis gwobrwyo teyrngarwch wrth ddewis ei bobol. Efallai y bydd yn meddwl fy mod yn ymosod ar r么l menywod mewn gwleidyddiaeth trwy ddweud hynny ond mae angen i arweinydd Plaid wybod ei fod yn penodi gweinidogion sy'n fodlon ymddwyn mewn modd disgybledig a chyfrifol. Fe ddysgodd Huw Lewis yr un wers ac mae penderfyniad Leighton Andrews i newid ei feddwl a chefnogi'r glymblaid bellach yn ymddangos yn str么c wleidyddol glyfar iawn.

Fe fydd hi'n beth amser cyn i ni ddeall sut yn union y bydd y cabinet newydd yn gweithio. Mae'r ffiniau rhwng rhai o'r swyddi newydd yn annelwig, yn fwriadol felly byswn i'n tybio. Yn lle, er enghraifft, mae'r ffin rhwng "materion gwledig" a "chynaladwyedd"? Mae 'na ambell i berthynas bersonol fydd yn ddiddorol hefyd. Melys yw nodi bod Leighton yn ddirprwy i Ieuan. O am fod yn bry ar wal!

Sibrydion

Vaughan Roderick | 18:24, Dydd Mercher, 18 Gorffennaf 2007

Sylwadau (4)

...o ffynonellau dibynadwy... Ieuan fydd y Gweinidog Datblygu Economaidd, Andrew Davies fydd y gweinidog cyllid gyda chyfrifoldeb dros ddiwygio'r gwasanaethau cyhoeddus. Mae Brian Gibbons wedi goroesi gan gymryd cyfrifoldeb am lywodraeth leol a chyfiawnder cymdeithasol.

Newyddion- o'r diwedd!

Vaughan Roderick | 16:52, Dydd Mercher, 18 Gorffennaf 2007

Sylwadau (0)

Mae Huw Lewis yn gadael y llywodraeth. Carodd ei ddiswyddo gan Rhodri Morgan y prynhawn yma.

Ef oedd y dirprwy weinidog oedd yn gyfrifol am raglen flaenau'r cymoedd. Fe hefyd oedd yr unig weinidog i'w gwneud hi'n eglur ei fod yn gwrthwynebu'r glymblaid.

Mae Mr Lewis wedi dweud wrth y 麻豆社 mae ef yw'r unig weinidog fydd yn gadael y llywodraeth yn gyfan gwbwl.

Cwis

Vaughan Roderick | 14:41, Dydd Mercher, 18 Gorffennaf 2007

Sylwadau (6)

Maen nhw nawr yn dweud bod cyhoeddi'r cabinet yn annhebyg heddiw. Fedrai ddim dweud wrthoch chi pa mor rhwystredig ydyn ni yma yn y Bae gan fod ein gwyliau yn cychwyn unwaith y ceir cyhoeddiad.

Mae 'na ambell i aelod cynulliad o gwmpas heddiw, rhai yn disgwyl am alwad ff么n gan Rhodri neu Ieuan, eraill yn gobeithio gweld Kylie sy'n ffilmio Doctor Who tafliad carreg o'r senedd, eraill eto yma i ymgymryd 芒'r gwaith o symud eu swyddfeydd o fewn T欧 Crughywel.

Ceisio sicrh芒i bod aelodau'r gwahanol bleidiau ar yr un coridorau a'i gilydd yw nod y symud, ond mae ambell i un wedi bod yn cwyno am eu swyddfeydd newydd gyda hwylustod wrth gyrraedd y pontydd sy'n arwain i'r senedd yn ffactor allweddol.

Unwaith yn rhagor y Democratiaid Rhyddfrydol sydd wedi colli mas. Awgrymodd un Tori creulon wrthyf y dylid gosod swyddfeydd y Democratiaid Rhyddfrydol ar Ynys Echni, o ystyried maint eu dylanwad yn y trydydd cynulliad. Doniol, ond annheg.

Ta beth, mae'n bryd cael cwis gyda'r atebion i gyd yn ymwneud a'r Democratiaid Rhyddfrydol neu eu rhagflaenwyr.

1. Beth sy'n cysylltu Dad's Army a Rinka?

2. Pam a phryd y cafodd Caerdydd y llysenw "The city of dreadful knights" ?

3. Yn 1950 enillodd y Rhyddfrydwyr naw sedd. Sawl un ohonyn nhw oedd yng Nghymru?

4. Cyn ennill Ceredigion, ym mha etholaeth safodd Geraint Howells fel ymgeisydd Rhyddfrydol?

5. Fe gefnodd tri aelod seneddol o Gymru ar Lafur i ymuno a'r SDP. Enwch nhw.

Oes 'na bwynt?

Vaughan Roderick | 10:28, Dydd Mercher, 18 Gorffennaf 2007

Sylwadau (1)

Mae cynnig seneddol Chris Bryant wedi cyflawni'r hyn yr oedd e'n gobeithio. Cafodd grin dipyn o sylw yn y wasg ac ar y we ac yn y b么n dyna yw unig bwrpas cyflwyno "early day motion". Rhiw fath ar ddeiseb seneddol yw'r cynigion hyn, cynigion sydd byth yn cael eu trafod ond sy'n fodd o dynnu sylw at bwnc neu fod yn brawf o gryfder teimladau. Yn 么l swyddfa wybodaeth T欧鈥檙 Cyffredin mae'n costi dros chwe chan mil o bunnau'r flwyddyn i gyhoeddi'r cynigion yma heb gyfri'r gost olygyddol o'u paratoi. Ydy hynny'n ddefnydd call o arian cyhoeddus?

Mae'n hawdd amau hynny wrth ddarllen ambell i gynnig. Cymerwch hwn fel enghraifft.

"That this House recognises the 33 years of public service given to the people of Glasgow by Councillor Susan Baird CBE, JP, D. Univ, OSJ, DL, who represented the Parkhead and Braidfauld wards on Glasgow District Council and Glasgow City Council from 1974 until 2007; notes that she was a distinguished Lord Provost of the city from 1988 to 1992, hosted the Glasgow Garden Festival in 1988 and the European City of Culture in 1990 and in 1992 was awarded the St. Mungo Award for services to the city; and wishes her a long, happy and healthy retirement."

Dw i'n si诺r fod y Cyng. Baird yn berson i'w hedmygu. Ond, mewn gwirionedd, oedd angen cynnig seneddol yn ei chanmol a hithau eisoes yn "CBE, JP, D. Univ, OSJ, DL"?

Mae cynigion eraill, wrth reswm yn fwy gwerthfawr. Gellir pori trwy'r rhai cyfredol yn . Hyd yn oed os ydyn nhw ar adegau yn cael eu defnyddio at ddibenion pitw ar y cyfan mae pob arf sydd gan aelod meinciau cefn yn San Steffan yn rhywbeth i'w werthfawrogi.

Yn sicr mae Chris Bryant yn hoff ohnyn nhw. Yn y sesiwn bresennol mae e wedi cyflwyno deg o gynigion ei hun ac wedi arwyddo dros gant o rai eraill. Mae 'na system debyg yn y cynulliad lle gall aelodau cyflwyno "datganiadau barn ysgrifenedig". Gellir darllen y rheiny yn .

Fel yn San Steffan mae cynnwys y datganiadau barn yn amrywiol ond yr hyn sy'n drawiadol yw eu bod yn bethau cymharol brin hwyrach oherwydd bod aelodau cynulliad yn cael cymaint mwy o gyfleoedd i godi materion yn y siambr na'r aelodau yn Westminster.

Ar goll ar y we

Vaughan Roderick | 14:27, Dydd Mawrth, 17 Gorffennaf 2007

Sylwadau (4)

Os ydych chi'n disgwyl yn eiddgar am y penodiadau cabinet mae gen i newyddion drwg. Mae fory yn debycach na heddiw a Dydd Iau yn bosibilrwydd. Och gwae ni!

Cyfle i bostio ambell i linc felly. Dw i wedi canmol blog o'r blaen. Cefnogwr Llafur yw'r awdur ac mae'n un o'n blogwyr mwyaf meddylgar gan herio'r consensws chwith-canol, cenedlaetholgar sy'n nodweddi'r rhithfro Gymreig. Fe wnes i fwynhau'r erthygl yn fawr. Mae Normal Mouth yn gwbwl cywir wrth ddweud bod cynrychiolaeth gyfrannol, er yn "decach" o safbwynt dosranni seddi, yn gallu bod yn hynod annheg wrth ddosbarthu grym gan wobrwyo pleidiau bach. Mae'r cwestiwn yma ganddo yn enghraifft dda o'i bwynt. "Consider that the Lib Dems occupied 22% of cabinet places on 13% of the vote in 2000 鈥 almost as disproportionate as Labour鈥檚 60% of seats on 32% of the vote."

Un enghraifft o'r pwynt yw'r consesiynau y mae'r Blaid Werdd yn Iwerddon wedi sicrh芒i gan Fianna Fail yn sgil yr etholiadau diweddar yn y weriniaeth. Mae'r yn enghraifft ryfeddol o'r ffordd y mae gwleidyddiaeth a chymdeithas y wlad honno yn newid. Pwy fyddai wedi meddwl nol yn nyddiau de Valera neu Haughie y byddai arweinydd Fianna Fail rhiw ddydd yn dweud hyn; "Our sexual orientation is not an incidental attribute. It is an essential part of who we are. All citizens, regardless of sexual orientation, stand equal in the eyes of our laws,Sexual orientation cannot, and must not, be the basis of a second-class citizenship."

Fe fydd dilynnwyr gwleidyddiaeth Gogledd Iwerddon yn gyfarwydd a safle rhagorol . Mae ganddo sylw diddorol am gyfarfod Belfast ddoe. Mae'n dyfynnu o'r Irish Times i awgrymu y gellid gweld y cyfarfod fel cyfle i Unoliaethwyr yn hytrach na rhiw fath o barti dathlu i bleidiau cenedlaethol y gwledydd Celtaidd.

"Some observers tend to see this as a 鈥淐eltic鈥 ganging-up against Westminster. Its real potential, however, might be in enabling unionists to counter an exclusively North-South focus which republicans hoped would presage further constitutional change."

Mae'n wir wrth gwrs bod Cyngor Prydain-Iwerddon wedi ei greu ar gais yr unoliaethwyr i geisio tynnu Weriniaeth i mewn i fframwaith gwleidyddol oedd yn cynnwys pob rhan o'r ynysoedd yma. Yn wir "Cyngor yr Ynysoedd" oedd yr enw rhamantus gwreiddiol. Serch hynny go brin y byddai unrhyw un wedi rhagweld y sefyllfa lle'r oedd pump o'r saith prif weinidog neu ddirprwy brif weinidog oedd yn bresennol yn genedlaetholwyr.

Mae 'na erthygl ddiddorol arall am y cyfarfod yn ar flog rhagorol "."


Pwy fase'n credu?

Vaughan Roderick | 10:16, Dydd Mawrth, 17 Gorffennaf 2007

Sylwadau (7)

Ydych chi'n cofio dadl fawr yr aelodau seneddol Llafur hynny oedd yn gwrthwynebu clymblaid a Phlaid Cymru? Gadewch i mi eich atgoffa. Honnodd yr aelodau hynny y byddai'r cytundeb yn golygu y byddai'r cynulliad yn gwastraffu ei amser yn trafod materion cyfansoddiadol yn hytrach na'r hyn oedd yn bwysig i bobol Cymru sef ei gwasanaethau cyhoeddus a'r economi.

Dyma ddywedodd aelod y Rhondda ;

鈥淚 think the people of Wales are far more interested in issues that affect them like the state of local schools and the services provided by their GP surgeries than the rather anoraky subject of lawmaking powers for the Assembly.鈥

Gan hoelio ei sylw yn llwyr ar y pynciau sy'n poeni pobol Cymru mae Mr Bryant wedi cyflwyno'r.

That this House notes that the announcements at all railway stations in Wales are made in Welsh first and then in English; wholly supports the policy of bilingual announcements; but believes that it would be far more sensible and far more convenient for passengers, whether regular commuters or local visitors, if announcements at each station were made first in the language used by the majority of the local population.

Ambell i syniad

Vaughan Roderick | 10:26, Dydd Llun, 16 Gorffennaf 2007

Sylwadau (3)

Llanfihangel-y-pwll, Llanfihangel-yn-y-gwaelod, Michaelstone-le-pit. Am le mor fach mae gan y pentref hwn ddigonedd o enwau. Mae 'na ddigon o glowt gwleidyddol yma hefyd. Yn Llanfihangel y mae cartref y Prif Weinidog, Rhodri Morgan, a chartref deheuol y Llywydd, Dafydd Elis Thomas. Yr aelod Ceidwadol Andrew Davies sy'n ffermio'r tir o gwmpas cartref Rhodri. Yr aelod Plaid Cymru Chris Franks yw'r cynghorydd lleol a draw yn fan cw mae t欧 Huw Roberts a oedd yn gynghorydd arbennig i Ron Davies yn y Swyddfa Gymreig.

Rhyw ddydd, efallai, y bydd 'na garreg coffa ar d欧 Rhodri- reit ar bwys yr arwydd tafarn sy'n gymaint o ddryswch i gerddwyr ar y llwybr cyhoeddus gerllaw. Yn sicr mae gan y t欧 ei le mewn hanes. Yn 么l y chwedloniaeth yn fan hyn y gwnaeth mam Julie ddryllio gobeithion Rhodri o swydd yn y Swyddfa Gymreig trwy gyfarch arweinydd yr wrthblaid fel hyn 鈥 I know who you are- you're that Lionel Blair鈥.

Nid Tony Blair yw'r unig westai o bwys i fwynhau'r lletygarwch yn Llanfihangel. Nol ym Mis Mai roedd Gweinidog Iechyd Seland Newydd Pete Hodgson yn aros yma, gan gynghori Llafur Cymru yngl欧n a dulliau pleidiau'r wlad honna o glymbleidio.

O bryd i gilydd yn ystod y cyfnod cythryblus ers yr etholiad mae Rhodri wedi gwahodd criw bach o newyddiadurwyr i'w d欧 i'n briffio ac i drafod y symudiadau diweddara. Dros bitsa neu farbiciw ceisiodd esbonio'r sefyllfa o'i safbwynt e a'n holi ni am y teimladau yn y pleidiau eraill.

Fel byswch yn disgwyl roedd Rhodri yn gyson groesawgar a bonheddig ond roedd ganddo un gwyn weddol gyson. Y gwyn honno oedd nad oedd wasg a'r cyfryngau yn scriwtineiddio'r pleidiau eraill i'r un graddau a Llafur. Y teimlad oedd bod Plaid Cymru yn arbennig wedi gwneud addewidion gwario oedd yn amhosib eu cyflawni a bod neb yn y wasg na'r cyfryngau wedi ei herio. Yn yr un modd ychydig iawn oedd wedi ei sgwennu ynghylch yr hyn yr oedd Llafur yn gweld fel gwendidau a chamsyniadau amlwg yn y cytundeb enfys.

Y rheswm rwy'n codi hwn yn fan hyn yw oherwydd fy mod yn meddwl bod na elfen o wirionedd yn y cyhuddiad. Dw i ddim yn meddwl am eiliad bod 'na gynllwyn gwrth-Lafur ymhlith newyddiadurwyr ond yr hyn sy na yw diffyg arbenigedd annibynnol i bwyso a mesur addewidion pleidiol.

Ar lefel Brydeinig mae na adrannau coleg ac academyddion di-rif yn astudio pob cymal o bob maniffesto. Os oes na addewid gwag yn eich rhaglen fe fydd yr Intitute of Fiscal Studies neu eu debyg yn eich dal chi mewn chwinciad.

Yng Nghymru does na ddim byd tebyg. Y duedd felly i newyddiadurwyr yw cofnodi cyhuddiad ac ymateb a gadael i'r cyhoedd benderfynu rhyngddynt. Dw i ddim yn meddwl bod hynny'n ddigon da. Dros y pedir blynedd nesa mae angen i ni fel newyddiadurwyr a'r gwleidyddion feddwl am ffyrdd i wella'r sefyllfa.

Un ffordd o wneud hynny byddai i rhywun fel y 麻豆社 gomisiynu asesiad anibynnol o faniffestos y plediau ond dw i'n amau y byddai'r gorfforaeth yn amharod i wneud hynny rhag ofn iddi 鈥渇ynd yn rhan o'r stori鈥. Ffordd arall o gyflawni'r un peth byddai caniatau i weision sifil roi cyngor i'r gwrthbleidiau am gyfnod penodol cyn etholiad. Mae hynny'n digwydd mewn rhai gwledydd ac fe adawodd John Major i hynny ddigwydd yn San Steffan yn 1997 gan synhwyro ei fod am golli'r etholiad.

Fe roddodd gweision sifil eu barn am gytundeb yr 鈥渆nfys鈥 ond roedd hynny ar ddiwedd y broses. Oes na unrhyw reswm dros eu gwahardd rhag rhoi cyngor niwtral yn gynharach na hynny?

Rhannu cyfrinachau

Vaughan Roderick | 10:42, Dydd Gwener, 13 Gorffennaf 2007

Sylwadau (1)

Mae hi fel y bedd yn y senedd. O'n cwmpas mae 'na ddigon o fwrlwm. Mae 'na Farchnad Ffermwyr wrth ymyl yr Eglwys Norwyeg, ffair ym Mharc Britania a Gw欧l Fwyd yn y Basn Hirgrwn. Ond yn y senedd a Th欧 Crughywel dim byd. Neb. Zilch.

Mae un rhifyn o "Dau o'r Bae" da ni i fynd ac wedyn fe fyddwn yn diffodd y trydan yn swyddfeydd y 麻豆社 tan yr Hydref. Oce, mae'r cabinet i ddod ond coda bach yw hwnna mewn gwirionedd. Mae'n bryd i ni felly geisio tynnu llinynnau'r misoedd diwethaf ynghyd gan rannu ambell i beth nad oeddwn yn gallu datgelu ar y pryd.

Fe wnawn ni gychwyn gyda stori oedd, yn fy marn i, yn drobwynt yn yr ymgyrch etholiadol ac yn allweddol i bopeth a ddigwyddodd wedyn. Yn y b么n hanfod y stori oedd bod Llafur yn ystyried clymbleidio a Phlaid Cymru pe bai'n methu ennill mwyafrif. Gwadwyd y stori yn ffyrnig gan Lafur gan ei bod yn tanseilio prif thema ei hymgyrch sef y peryg y byddai cynulliad crog yn arwain at lywodraeth yn cael ei harwain gan y Ceidwadwyr.

Mae sawl un wedi gofyn ers hynny o ble ddaeth y stori. Fedrai ddim datgelu'r ffynonellau i gyd ond, fel yn y rhan fwyaf o straeon o'r fath, roedd hi'n tarddu o fwy nac un person. Cywaith newyddiadurol oedd hi, mater o osod jig-so at ei gilydd.

Yr awgrym cyntaf oedd pan gafodd Rhuanedd wen ddireidus gan un aelod Llafur blaenllaw pan awgrymodd y gallai'r ddwy blaid ddod ynghyd. Ces i Betsan awgrym cellweirus gan berson Llafur arall nad y Democratiaid Rhyddfrydol oedd unig ddewis Llafur o fethu ffurfio llywodraeth. Roedd hynny'n ddigon i'n perswadio i ddechrau tyrchu.

Ces i wybod gan ffynhonnell ym Mharc Cathays bod y gwasanaeth sifil yn paratoi rhaglenni deddfwriaethol ar gyfer tair llywodraeth posib sef Llafur, Llafur/Dem. Rhydd. a Llafur/Plaid Cymru. Yna cawsom wybod gan rai o ffigyrau blaenllaw Plaid Cymru eu bod yn fodlon ystyried cydweithio a Rhodri Morgan mewn llywodraeth. Hwn, cofiwch, mewn cyfnod pan oedd y blaid yn ymgyrchu o gyda'r slogan "Rhowch gic i Lafur newydd".

Pan ofynnwyd yn breifat i ffigwr blaenllaw arall o Lafur Cymru gadarnhau fod coch/gwyrdd yn bosib fe wnaeth hynny. Nid camgymeriad oedd y cyfaddefiad. Roedd 'na ofn ar y pryd ymhlith rhai aelodau Llafur bod 'na beryg bod y tactegau Llafur yn peryglu eu rhyddid i weithredu ar 么l yr etholiad. Hynny yw bod Llafur trwy daranu鈥檔 gyson am y peryg o lywodraeth enfys yn gwneud y posibilrwydd hwnnw yn fwyfwy real. Roedd rhai o sylwadau Peter Hain arbennig yn peri pryder.

Yn hynny o beth, dw i o'r farn ei f/bod e/hi yn gywir. Dw i'n meddwl y byddai hi wedi bod yn anodd iawn i Lafur atgyfodi'r syniad o glymblaid coch/gwyrdd pe na bai'r posibilrwydd hynny wedi ei wyntyllu yn ystod yr ymgyrch.

A chyda鈥檙 machlud yn ddi-ffael ...

Vaughan Roderick | 11:02, Dydd Iau, 12 Gorffennaf 2007

Sylwadau (2)

Wyth mlynedd oed yw'r cynulliad ond dyw hynny ddim yn golygu nad yw'r lle wedi magu ei draddodiadau ei hun. Un o rheiny yw'r sesiwn yfed flynyddol yn iard gwrw'r Eli Jenkins ar 么l sesiwn lawn ola鈥 y cynulliad cyn yr haf. Mae hwn yn draddodiad ardderchog gan ei fod yn rheol mai'r gwleidyddion sy'n talu am y ddiod a'r newyddiadurwyr sy'n ei slochian. Ar y cyfan mae'r gwleidyddion yn ddigon hael ond mi oedd wyneb Alun Cairns yn bictiwr ar 么l iddo sylweddoli ei fod wedi prynu diod i un o swyddogion y Blaid Lafur trwy gamgymeriad!

Dyw iard yr Eli ddim mor grand 芒 Chatham House ond dw i'n tybio bod yr un rheolau mewn grym yngl欧n ag ail-adrodd straeon a glywir yno. Er hynny teg yw dweud, dw i'n meddwl, mai manylion y cabinet newydd oedd ar feddyliau pawb gyda mawr drafod pwy fyddai mewn a phwy fyddai mas o dan y drefn newydd.

Does gen i ddim unrhyw fath o "inside track" yn fan hyn ond mae 'na ambell i enw sy'n cael ei grybwyll yn gyson. Brian Gibbons a John Griffiths yw ddau weinidog Llafur sy'n cael ei henwi amlaf fel y rhai a allai wynebu'r fwyell. Rhodri Glyn Thomas a Jocelyn Davies yw'r ddau enw sy'n cael eu crybwyll fwyaf fel aelodau posib o'r cabinet.

Rhaid i mi ddweud, doeddwn i ddim yn sylweddoli tan neithiwr faint o ddrwgdeimlad sy'n parhau ymhlith aelodau Plaid Cymru tuag at y pedwar aelod wnaeth geisio dryllio'r enfys. Yng ngeiriau un aelod "Leanne yw Leanne ac mae'n bryd i Bethan a Nerys dyfu fyny ond mae ymddygiad Helen Mary yn anfaddeuol". Am y rheswm hynny y disgwyl gan rai yw na fydd un o berfformwyr cyhoeddus gorau'r blaid yn cael ei gwobrwyo wrth i'r llywodraeth newydd gael ei ffurfio.

Hedd perffaith hedd

Vaughan Roderick | 17:48, Dydd Mercher, 11 Gorffennaf 2007

Sylwadau (1)

Mi ydyn ni'n bobol wareiddiedig yma yn 麻豆社 y bae. Nid trafod politics yn unig mae gweithwyr Uned Wleidyddol 麻豆社 Cymru. Big Brother, ffwtbol, Take That, mae gennym ni arbenigwyr ar bopeth yn fan hyn. Trafod barddoniaeth yr oeddem y prynhawn yma, yn fwyaf arbennig ffawd rhyfedd Hedd Wyn.

Taith Ieuan Wyn Jones i Ypres i goffau brwydr Passechendaele sbardunodd y sgwrs a'r her yma gan un aelod o'r uned "Ac eithrio 'Dim ond lleuad borffor...' oes unrhyw un yn gallu dyfynnu un gair o waith Hedd Wyn?" Och gwae ni! Roedd pawb wedi gweld y ffilm, y rhan fwyaf ohonom yn gyfarwydd 芒鈥檙 englynion coffa ond gwaith y dyn ei hun? Dim un englyn, un cwpled, un llinell hyd yn oed.

Mae'r rhyngrwyd yn gwneud hi'n hawdd cyweirio'r sefyllfa a gellir darllen gwaith "y bardd trwm dan bridd tramor" yn . Mae'n werth gwneud. Cefais flas arbennig y gerdd fach hon sy'n addas ar gyfer diwrnod cofio cyflafan Fflandrys.

NID oes gennym hawl ar y s锚r,
Na'r lleuad hiraethus chwaith,
Na'r cwmwl o aur a ymylch
Yng nghanol y glesni maith.

Nid oes gennym hawl ar ddim byd
Ond ar yr hen ddaear wyw;
A honno syn anhrefn i gyd
Yng nghanol gogoniant Duw.

Sibrydion o'r siambr

Vaughan Roderick | 14:28, Dydd Mercher, 11 Gorffennaf 2007

Sylwadau (4)

Roedd hi'n brynhawn rhyfedd yn siambr heddiw wrth i Ieuan Wyn Jones gymryd yr awenau fel dirprwy brif weinidog. Yn yr oriel roedd 'na bedair cenhedlaeth o deulu Ieuan o'i fam i'w wyres fach. Hefyd yn bresennol roedd rhai o hen stejers Plaid Cymru gan gynnwys y bytholwyrdd Glyn James a fu'n llais unig dros ei blaid am ddegawdau yn y Rhondda.

Roedd pob un o aelodau cynulliad Plaid Cymru yn bresennol, wrth reswm. Roedd hynny i'w disgwyl. Roedd pob un Ceidwadwr yno hefyd a phob un Democrat Rhyddfrydol.

Ond nid Rhodri oedd yr unig aelod oedd yn absennol o'r meinciau Llafur. Dim Huw Lewis. Dim Anne Jones. Dim Lynne Neagle. Dim Karen Sinclair. Fe adawodd Irene James y siambr wrth i Ieuan godi ar ei draed.

Y rheswm am absenoldeb rhai o'r aelodau yn 么l y Llywydd oedd eu bod yn mynychu cyfarfod pwyllgor busnes. Mae ambell aelod arall yn pendroni pa bwyllgor sydd ond yn cynnwys yr union aelodau Llafur hynny oedd yn gwrthwynebu鈥檙 glymblaid. Cwestiwn da.

SIOC!

Vaughan Roderick | 11:19, Dydd Mercher, 11 Gorffennaf 2007

Sylwadau (8)

Mae un o bapurau Llundain wedi sylwi ar wleidyddiaeth Cymru. Yn y mae Michael White yn dweud hyn;

"Not many people in England seem to care very much, but nationalist politics within the British (or is it Atlantic?) Isles take a significant step forward today when a politician called Ieuan Wyn Jones is appointed deputy first minister of Wales."

Wel efallai y byddai ots da pobol yn Lloegr pe bai Michael a'i debyg yn talu mwy o sylw neu yn cofio bod gan eu papurau ddarllenwyr yng Nghymru.

Un o'r rheiny sy'n gwybod fawr ddim am Gymru yw Arglwydd Glentoran llefarydd newydd y Ceidwadwyr ar Gymru yn Nh欧鈥檙 Arglwyddi. Hwn, heb os, yw dyfyniad y dydd;

"As far as the politics of Wales is concerned, as of 48 hours ago I knew absolutely nothing. I now know nothing, plus a bit. I know nothing about the politics but I know quite a lot about the geography, having climbed most of the mountains."


Hirddydd Haf

Vaughan Roderick | 11:03, Dydd Mercher, 11 Gorffennaf 2007

Sylwadau (2)

Mae dyddiau'r c诺n yn nesu pan fyddwn ni'r newyddiadurwr yn chwilota am rywbeth, unrhyw beth, i lenwi'n bwletinau a'n papurau. Roeddwn i'n meddwl bod canlyniadau arolwg Beaufort yn ddiddorol heb fod yn ysgytwol ond mae'r Western Mail wedi eu dyrchafu i fod yn brif stori. Cofiwch os mai "Deadly Toy Dog" y Daily Post oedd y dewis arall i arwain y papur dw i'n meddwl y byswn i wedi heipio'r p么l hefyd!

Yr hyn y mae'r arolwg, ynghyd ac un diweddar y 麻豆社, yn awgrymu yw y bydd y llywodraeth newydd yn mwynhau dipyn o fis mel a chyda cadoediad gwleidyddol yr Haf ar fin cyrraedd fe fydd hi'n rhai misoedd eto cyn i unrhyw graciau ddechrau ymddangos.

Mae un broblem bosib wedi ei datrys. Gyda chydsyniad y Tor茂aid fe fydd Dafydd Elis Thomas a Rosemary Butler yn parhau fel llywydd a dirprwy llywydd. Er nad yw'r pwnc ar yr agenda fe fydd cynnig i'r perwyl hwnnw yn cael ei gyflwyno yn ystod sesiwn lawn y cynulliad heddiw.

Gallai hynny fod yn bwysig yn y dyfodol. Gyda Dafydd a Rosemary wedi eu gwahardd rhag pleidleisio 39 yw cyfanswm pleidleisiau'r llywodraeth, un yn brin o'r ddwy ran o dair sydd angen o bryd i gilydd. Y ffactor hynny ynghyd a chynnig cadeiryddiaeth y Pwyllgor Archwilio i David Melding wnaeth ddarbwyllo'r Ceidwadwyr i ildio ei hawl i eistedd yn y set fawr.

Siop Rithwir Jack Brown

Vaughan Roderick | 17:06, Dydd Mawrth, 10 Gorffennaf 2007

Sylwadau (0)

Ar gais y Western Mail mae Karl Williams wedi llunio prisiau ar gyfer pwy fyddai'n olynu Rhodri pe bai'n gorfod rhoi'r gorau i'w swydd oherwydd ei iechyd. Dyma nhw.

Carwyn Jones 1-3
Jane Davidson 7-2
Andrew Davies 6-1
Huw Lewis 10-1
Edwina Hart 12-1
Jane Hutt 16-1

Os oedd y prisiau yma ar gael fe fyddwn i yn mentro feifar ar Edwina!

笔脭尝!

Vaughan Roderick | 16:41, Dydd Mawrth, 10 Gorffennaf 2007

Sylwadau (0)

Mae Plaid Cymru wedi cyhoeddi canlyniadau arolwg barn diweddaraf cwmni Beaufort sydd yn awgrymu bod Llafur a Phlaid Cymru wedi ennill tir ers etholiadau'r cynulliad a bod y Tor茂aid a'r Democratiaid Rhyddfrydol wedi syrthio n么l rhywfaint. Dw i'n edmygydd o waith Beaufort ac mae'r sampl o fil yn hen ddigon i fod yn ddilys. Serch hynny mae angen dipyn o gyd-destun yn fan hyn.

O gymharu 芒'r canlyniadau go iawn mae Beaufort yn gyson wedi bod yn hael i Llafur a braidd yn llawdrwm ar y Ceidwadwyr. Nid gwendid yn y fethodoleg sy'n benna gyfrifol am hyn ond parodrwydd ac amharodrwydd cefnogwyr y ddwy blaid i droi mas i bleidleisio mewn etholiad go iawn. Ta beth. Dyma'r canlyniadau;

Llafur; 45.2%
Plaid Cymru; 24.3%
Ceidwadwyr; 12.6%
Dem Rhydd; 10.1%
Eraill; 7.8%

Etholiad 2007

Llafur; 32.2%
Plaid Cymru; 22.4%
Ceidwadwyr; 22.4%
Dem. Rhydd.; 14.8%

Mawrth 2007 (Beaufort)

Llafur; 42.1%
Plaid Cymru; 20%
Ceidwadwyr; 18.2%
Dem. Rhydd.: 12.5%
Eraill: 4.9%

Penblwydd hapus i Leo a'i fesur!

Vaughan Roderick | 15:27, Dydd Mawrth, 10 Gorffennaf 2007

Sylwadau (4)

Oherwydd ei r么l ym methiant cynlluniau datganoli 1979 a'i safiad cyson yn erbyn "gwastraffu" arian cyhoeddus ar yr Iaith Gymraeg dw i'n synhwyro na fyddai Leo Abse yn cael ei ystyried yn arwr gwleidyddol gan y rhan fwyaf o ddarllenwyr y blog yma.

Serch hynny fe wnaeth Leo gyflawni llawer, llawer mwy na'r rhan fwyaf o aelodau seneddol meinciau cefn. Prin yw'r aelodau sy'n llwyddo i lywio un mesur aelod preifat i'r llyfr statud - a dyw'r mesurau hynny gan amlaf ddim yn rhai dadleuol na hanesyddol.

Fe lwyddodd Leo Abse i gyflawni'r gamp dwywaith gan lwyddo i gyflwyno dwy fesur hynod bwysig a dadleuol. Y mesur cyntaf oedd y "Matrimonial Causes Act (1963)". Gwneud ysgariad yn haws oedd nod y mesur. Cyn hynny peth digon prin oedd ysgariad ym Mhrydain. Er da neu er drwg fe arweiniodd y mesur at ffrwydrad mewn ysgaru gyda'r nifer flynyddol o ysgariadau'n treblu rhwng 1963 a 1970.

Ddeugain mlynedd union yn 么l fe gyflawnodd Leo gamp hyd yn oed yn fwy dewr ac amhoblogaidd. Yn wyneb gwrthwynebiad chyrn y mwyafrif llethol o'r etholwyr ac ymgyrchu grymus gan yr eglwysi fe gyrhaeddodd y "Sexual Law Reform Act (1967)" y llyfr statud. Bwriad y mesur oedd cyfreithloni gweithredoedd hoyw rhwng oedolion (21+) mewn amgylchiadau preifat. Mae darllen y cofnod o鈥檙 dadleuon heddiw yn dipyn o ysgytwad gyda geiriau fel "disgusting," "loathsome" a "not real men" yn cael eu taflu o gwmpas T欧鈥檙 Cyffredin.

Mewn cyfweliad diweddar a'r fe ddisgrifiodd Leo y tactegau seneddol ddefnyddiwyd ganddo i sicrh芒i llwyddiant y mesur. Y llwyddiant pwysicaf oedd darbwyllo'r Ysgrifennydd Cartref Roy Jenkins i warantu bod 'na ddigon o amser seneddol ar gyfer y mesur. Ar 么l gwneud hynny roedd yn rhaid defnyddio twyll i sicrh芒i cefnogaeth aelodau seneddol. Doedd 'na ddim son am gariad na chydraddoldeb yn areithiau seneddol Leol Abse. Fe wnaeth e esbonio pam yn ei gyfweliad;

'The thrust of all the arguments we put to get it was, "Look, these people, these gays, poor gays, they can't have a wife, they can't have children, it's a terrible life. You are happy family men. You've got everything. Have some charity." Nobody knew better than I what bloody nonsense that was."

O'i ddarllen heddiw mae'r mesur yn un digon llipa ac mewn rhai ffyrdd yn chwerthinllyd o ryfedd. Roedd hi'n gyfreithlon i forwyr, er enghraifft, gael rhyw a theithwyr, neu a morwyr tramor ond dim a'i gilydd! Doedd na ddim amddiffyniad chwaeth rhag discrimineiddio gan gyflogwyr na darparwyr gwsanaethau. Yn wir roedd yn rhaid aros tan eleni am ddeddfwriaeth o'r fath.

Ond roedd mesur Leo yn un o fesurau rhyddfrydol mwyaf yr ugeinfed ganrif ac yn un o'r ffactorau sy'n sicrhai mai chwedegau'r ganrif ddiwethaf oedd un o'r degawdau pwysicaf yn ein hanes cymdeithasol. Hyd heddiw mae 'na wleidyddion sy'n diawlio'r degawd hwnnw gan honni bod popeth sydd o le ar ein cymdeithas ni heddiw yn deillio o gamgymeriadau'r cyfnod.

Beth bynnag am hynny, ac yntau yn dathlu ei ben-blwydd yn 90 eleni, gall Leo Abse frolio ei fod wedi gwneud bywyd yn haws ac yn hapusach i gannoedd o filoedd o bobol. Does dim llawer o wleidyddion yn gallu dweud hynny.

Cyd-ddigwyddiad

Vaughan Roderick | 12:36, Dydd Mawrth, 10 Gorffennaf 2007

Sylwadau (0)

Oherwydd bod Rhodri yn yr ysbyty Jane Hutt fydd yn ateb ei sesiwn gwestiynau鈥檙 prynhawn yma. Trwy ryfedd gyd-ddigwyddiad hwn yw'r cwestiwn cyntaf;

1. Jenny Randerson (Canol Caerdydd): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am Wasanaethau Damwain ac Achosion Brys yng Nghaerdydd.

Fe ddylai wybod!

Ymlaen a ni...

Vaughan Roderick | 10:40, Dydd Mawrth, 10 Gorffennaf 2007

Sylwadau (0)

Gyda phopeth ar stop o herwydd salwch Rhodri roedd hi'n ddiwrnod i'r ardd ddoe. Maddeuwch i mi am beidio bostio ond roedd y winwydden yn bygwth goresgyn hanner Sir Forgannwg a'r pysgod aur yn dechrau codi braw ymhlith nofwyr Amity.

Ta beth mae'n ddydd Mawrth, diwrnod y cynadleddau newyddion.

10.15 Llafur; Dywedodd Jane Hutt ei bod wedi cwrdd 芒 Rhodri neithiwr a bod y Prif Weinidog mewn hwyliau da. Fe fydd Ieuan Wyn Jones yn cael ei benodi fel ei ddirprwy yfory. Ei ddyletswydd gyntaf fydd cynrychioli Cymru yn y gwasanaethau coffa yn Passchendaele yng Ngwlad Belg i nodi nawdeg mlynedd ers trydedd frwydr Ypres. Yn y frwydr waedlyd honno y bu farw Hedd Wyn ynghyd 芒 miloedd o filwyr Cymreig eraill. Fe fydd gweddill y penodiadau yn ymddangos ymhen rhai dyddiau yn dilyn trafodaethau rhwng Ieuan a Rhodri.

11.00 Y Ceidwadwyr; Fe ddywedwyd ambell beth diddorol iawn yng nghynhadledd y Ceidwadwyr. Efallai mai'r peth mwyaf arwyddocaol oedd y cyhoeddiad y byddai'r blaid yn fodlon cymryd rhan yn y confensiwn cyfansoddiadol sydd i'w sefydlu o ganlyniad i gytundeb Cymru'n Un. Fe aeth Nick Bourne allan o'i ffordd hefyd i ganmol Ieuan Wyn Jones. Wrth ei longyfarch ar ei benodi鈥檔 ddirprwy brif weinidog disgrifiodd Ieuan fel "arweinydd da iawn i'w blaid" ac yn ddyn y gellid "ymddiried ynddo a dibynnu arno". Dyw'r enfys ddim cweit wedi diflannu eto!

12.00 Plaid Cymru; Dywedodd Ieuan fod y pedair blynedd diwethaf wedi bod yn "daith ryfeddol" iddo fe'n bersonol. Ychwanegodd ei fod yn bwriadu gwneud datganiad yn siambr y cynulliad yfory yn amlinellu blaenoriaethau'r llywodraeth newydd.

Y Bore Wedyn

Vaughan Roderick | 11:15, Dydd Sul, 8 Gorffennaf 2007

Sylwadau (8)

Dydd Sul yn y bae. Y Sul olaf y bydd yn rhai i mi weithio tan yr Hydref -gobeithio!

Mae'n bryd hel meddyliau. Fe wn芒i drafod y llywodraeth newydd yn y man ond mae 'na gwestiynau pwysig i'r ddwy wrthblaid hefyd. Am y tro cyntaf yn hanes y cynulliad mae'r gwrthbleidiau yn wynebu llywodraeth a mwyafrif sylweddol. Ar yr un pryd mae trefniadau newydd y cynulliad yn golygu bod y llywodraeth honno'n fwy grymus. Fe fydd hon yn llywodraeth a fyddai'n gallu anwybyddu ei gwrthwynebwyr a'u gwthio i'r ymylon pe bai'n dymuno gwneud hynny.

Dw i am adael y Democratiaid Rhyddfrydol i'r naill ochor. Mae trafferthion y blaid honno yn haeddu sylw, ond, am y tro, mae ei r么l yn y cynulliad yn ymylol a dweud y lleiaf. Yr wrthblaid ddiddorol yw'r Blaid Geidwadol sy'n wynebu dewisiadau pwysig dros yr Haf.

Y penderfyniad strategol pwysig yw sut i ddelio a Phlaid Cymru yn ystod y cyfnod sydd i ddod. Un posibilrwydd yw ceisio portreadu'r blaid fel gweision bach i'r blaid Lafur gan honni bod 'na ddim gwahaniaeth rhwng coch a gwyrdd ac mai'r Ceidwadwyr sy'n cynnig y "gwir ddewis". Trwy wneud hynny'r gobaith byddai darbwyllo nifer o gefnogwyr gwrth-Lafur Plaid Cymru i droi at y Ceidwadwyr.

Y dewis arall yw ceisio hollti'r glymblaid trwy chwilio am wahaniaethau rhwng y ddwy blaid sy'n ei ffurfio. Fe fyddai'r dacteg hon yn golygu canmol "gonestrwydd" Plaid Cymru ac awgrymu bod Llafur wedi eu twyllo. Mae'n ddigon hawdd rhagweld y rhethreg " mae Plaid Cymru yn gwneud ei gorau ond mae llaw farwaidd Llafur yn ei gwneud hi'n amhosib iddi gyflawni dim..." ayb ayb/

Y dacteg gyntaf fyddai'r hawsaf a'r un fyddai'n plesio Ceidwadwyr ar lawr gwlad ond mae'n bosib mai'r ail fyddai'r mwyaf proffidiol gan gadw'r drws yn agored i'r enfys ymhen pedair blynedd. Beth bynnag yw'r dewis, i'r naill dacteg neu'r llall weithio mae'n rhaid i'r blaid barhau i ddatblygu ei delwedd newydd fel plaid wirioneddol Gymreig sy'n ymroddedig i ddatganoli.

Un ffordd i wneud hynny fyddai gosod cynnig yn y cynulliad yn weddol o fuan yn galw am refferendwm cynnar ar bwerau llawn i'r cynulliad. Beth fyddai'r llywodraeth yn gwneud wedyn tybed?

Neshau at y lan

Vaughan Roderick | 17:56, Dydd Sadwrn, 7 Gorffennaf 2007

Sylwadau (3)

225-18. Beth bynnag arall sydd 'na i ddweud does dim gwadu bod Ieuan wedi gwneud jobyn da wrth werthi'r cytundeb i aelodau ei blaid. Mae'n help, wrth gwrs, i beidio bod yn or-ddemocrataidd. Go brin y byddai'r mwyafrif mor sylweddol pe bai'r ddau gytundeb clymblaid wedi eu gosod gerbron.

Ai hwn oedd y penderfyniad cywir? Nid fi yw'r person i farnu. Yn sicr roedd y cynrychiolwyr ym Mhontrhydfendigaid yn blest i weld y blaid yn dod yn rhan o lywodraeth am y tro cyntaf. Mae 'na beryglon a phryderon, wrth reswm, ond roedd 'na beryglon mewn canlyn yr enfys hefyd. O leiaf , o'r diwedd, daeth pen ar bennod os nad ar y stori gyfan.

Fe fydd na gyfle i bwyso a mesur yn ystod y dyddiau nesaf ond ar 么l naw wythnos o sgwennu am y broses hon heb s么n am wythnosau'r ymgyrch cyn hynny rwy'n haeddu br锚c. Dw i'n mynd am ddrinc! Gwelai chi fory!

Lincs

Vaughan Roderick | 12:58, Dydd Sadwrn, 7 Gorffennaf 2007

Sylwadau (2)

Dim ond Plaid Cymru fyddai'n trefnu cyfarfod hanesyddol mewn pentref lle mae'n amhosib cael signal i ff么n symudol. Mae fy nghydweithwyr mas o'u co鈥. Wrth i ni ddisgwyl felly dyma ambell i ddolen ddifyr.

Oes 'na ddyn hapusach na Paul Flynn?

"Wales Real Young Labour Party scored a brilliant victory over the tribalists of yesterday's Labour. The Gwent threesome of Kinnock, Murphy and Touhig has been resoundingly defeated. They are out of touch with the Labour Party of modern Wales. It was a victory of hope over cynicism, new optimistic Wales over old sour Wales, pragmatism over tribalism."

Mae'r cyfan yn . Ar y llaw arall mae yn hynod anhapus gan gymharu ffurfio'r glymblaid a chwymp tywysogion Gwynedd!

I'r rheiny sy'n trysori'r siartiau camarweiniol sy'n cael eu cyhoeddi gan y pleidiau adeg etholiad mae 'na ddau berl o is-etholiad Southall i'w gweld yn .

Tynnu at y terfyn

Vaughan Roderick | 08:08, Dydd Sadwrn, 7 Gorffennaf 2007

Sylwadau (6)

Dyna ni felly. Mae Rhodri wedi cael ei ffordd. Doedd hyd yn oed huodledd Neil Kinnock ddim yn gallu darbwyllo'r cynrychiolwyr Llafur i gefni ar y sicrwydd o rym.

Dyw e hi ddim yn feirniadaeth o Lafur Cymru i ddweud bod h'n blaid sydd yn hoff o b诺er. Nid fforwm drafod na chlwb cymdeithasol yw Llafur Cymru ond peiriant gwleidyddol sy'n bodoli i amddiffyn buddiannau ei phobol. O orfod dewis rhwng bod mewn grym a phurdeb pleidiol doedd ond un dewis.

Ond cofiwch, rydym wedi bod yn fan hyn o'r blaen. Nid hwn yw'r tro cyntaf i lywodraeth Lafur addo datganoli er mwyn sicrh芒i ei pharhad ei hun ac nid hwn yw'r tro cyntaf chwaeth i gynhadledd Llafur Cymru anwybyddu areithiau tanbaid Neil Kinnock.

Roedd llond pen o wallt coch da Neil nol yn y saithdegau pan arweiniodd yr ymdrechion wnaeth, yn y diwedd, ddryllio datganoli, a thrwy hynny ddymchwel llywodraeth Jim Callaghan. Roedd rhai o'r rhai fu'n gefn iddo yn y cyfnod hwnnw dal gyda ni. Roedd Paul Murphy a Don Touhig yr un mor uchel eu cloch bryd hynny.

A fydd hanes yn cael ei hail-adrodd? A fydd Kinnock a'i griw, yn y diwedd, yn llwyddo i ddifa breuddwydion y datganolwyr unwaith yn rhagor? Mae hynny'n bosib ond, ar ddiwedd y dydd, yn annhebyg.

Y pwynt cyntaf i gofio, wrth gwrs, yw mai Rhodri (neu ei olynydd) ac Ieuan fydd yn penderfynu amseriad y refferendwm. Caiff y bleidlais ddim o'i galw heb rywfaint o sicrwydd yngl欧n 芒'r canlyniad. Yn y cyfamser fe fydd egni ac adnoddau Llywodraeth Cymru yn gweithio'n ddyfal tuag at y nod o sicrh芒i pleidlais gadarnhaol. Does neb yn meddwl y bydd ennill refferendwm yn hawdd ond yn sicr mae'n bosib.

Yn y cyfamser mae brwydr bwysig dros gorff ac enaid Llafur Cymru wedi ei hennill. Mae digwyddiadau ddoe wedi sefydlu Rhodri Morgan fel arweinydd Llafur Cymru- nid y blaid gynulliadol ond y blaid Gymreig ehangach. Gwthiwyd yr aelodau seneddol i'r ymylon. Anwybyddwyd eu pryderon a'u cyngor. Os am brawf o hynny gadewch i ni atgoffa'n hun (am y tro olaf!) o'r hyn a ddywedwyd yn y senedd ar Fawrth y cyntaf eleni.

"Adam Price: Speaking of unholy alliances, will the Secretary of State clarify his earlier comment, and confirm that he was not ruling out a coalition between his party and mine after the election?

Peter Hain: I am ruling it out. There is no prospect of that at all. It is a matter for Rhodri Morgan and Welsh Labour Assembly Members, but I do not think that Welsh Labour would accept it."

Ond fe wnaeth Llafur Cymru dderbyn clymblaid. Fe wnaethpwyd yr hyn oedd yn ymddangos yn amhosib ac yn annerbyniol o bersbectif rhai aelodau Cymreig yn Westminster. Fe ddigwyddodd hynny am reswm syml. I nifer cynyddol o aelodau Llafur Cymru mae Bae Caerdydd bellach yn bwysicach na San Steffan. Mae hynny ynddi ei hun yn dipyn o ryfeddod.

Llafur- y canlyniad

Vaughan Roderick | 19:59, Dydd Gwener, 6 Gorffennaf 2007

Sylwadau (4)

O blaid y glymblaid; 78.43%
Yn erbyn; 21.57%

Undebau
O blaid; 95.83%
Yn erbyn; 4.17%

Pleidiau Lleol
O blaid; 61.02%
Yn erbyn; 38.98%

S4C2

Vaughan Roderick | 11:36, Dydd Gwener, 6 Gorffennaf 2007

Sylwadau (1)

Dyma drefn darlledu gwasanaeth 麻豆社 Cymru o'r Cynulliad Cenedlaethol ar S4C2 yr wythnos nesaf:

Mawrth 10fed o Orffennaf

1230-1330 Sesiwn Gwestiynau i'r Prif weinidog gafodd ei chynnal ar y 3ydd o Orffennaf (Wedi'i harwyddo)
1345-1700 Sesiwn Lawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Datganiad Busnes
Datganiad am y Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol arfaethedig ynghlych plant sy'n agored i niwed

Mercher 11fed o Orffennaf

0929-1045 Pwyllgor Iechyd, Lles a Llywodraeth Leol
Ethol Cadeirydd
Cyflwyniad
Rol y Pwyllgor
Materion posib i'w scriwtineiddio gan y Pwyllgor

1045-1215 Pwyllgor Menter a Dysgu
Ethol y Cadeirydd
Cynlluniau ar gyfer scriwtineiddio y Mesur Teithio i ddisgyblion
Cynlluniau ar gyfer Ymchwiliadau Polisi
Gweithdrefnau y Pwyllgor

1229- 1730 Sesiwn Lawn
Busnes y Llywodraeth 1230 - 1400
Cwestiynau i'r Gweinidog Cynaliadwyedd a Datblygu Gwledig (Jane Davidson)
Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg, Diwylliant a'r Iaith Gymraeg (Carwyn Jones)
Busnes heblaw am fusnes y Llywodraeth 1400-1730
Cwestiynau i'r Comisiwn
Cynnig i gymeradwyo Cynllun Iaith Gymraeg y Comisiwn
Dadl Plaid Cymru: Trafnidiaeth Cynaladwy
Dadl y Democratiaid Rhyddfrydol; Hawliau gofalwyr
Y Ddadl Fer: Galeri - Stori o lwyddiant (Alun Ffred Jones)

Iau 12 o Orffennaf

0900-0930 Is-bwyllgor Datblygu Gwledig
Ethol Cadeirydd
Ystyried pwnc ymchwiliad scritiwni cyntaf y pwyllgor
0930-1000 Pwyllgor Cynaliadwyedd
Ystyried pwnc ymchwiliad scritiwni cyntaf y pwyllgor
1330-1530 Pwyllgor Archwilio
Ethol cadeirydd
Cynllun LG

Wele Gwawriodd

Vaughan Roderick | 10:44, Dydd Gwener, 6 Gorffennaf 2007

Sylwadau (2)

Mae'n ddiwrnod tyngedfennol i wleidyddiaeth Cymru. Eto. Dw i ddim yn gwybod faint o weithiau dw i wedi defnyddio'r ystrydeb yna yn ystod yr wythnosau diwethaf. Ond fe wn芒i fwyta fy het, fy sgidiau a phob dilledyn arall sy gen i os na chyrhaeddwn ni ddiwedd y saga yn ystod y deuddydd nesaf.

Ond mae 'na un neu ddau o droeon bach i fynd a dyma un ohonyn nhw. Dw i wedi clywed o sawl cyfeiriad y gallai un cyfraniad yn y gynhadledd Lafur y prynhawn yma fod yn allweddol, bod 'na un person a allai ddylanwadu ar y cynrychiolwyr sy'n ansicr eu meddyliau.

Pwy yw'r person hwnnw? Rhodri? Peter Hain? Nage. Mae'n bryd i ni gyd groesawi Alun Michael yn 么l i i fwrlwm gwleidyddiaeth ddatganoledig.

Mae pawb yn cofio, wrth gwrs, am y frwydr ffyrnig rhwng Rhodri ac Alun am arweinyddiaeth y Blaid Lafur Gymreig, ac yn cofio hefyd am fuddugoliaeth drwch blewyn Alun a'i gwymp ddwy flynedd yn ddiweddarach.

Beth sy'n cael ei anghofio yw pa mor deyrngar oedd Rhodri i Alun yn ystod ei gyfnod fel Prif Ysgrifennydd. Er cymaint ei siom bersonol cafwyd y r un gair o g诺yn, yn gyhoeddus nac yn breifat, gan Rhodri. Pan gafodd ei ddyrchafu i'r brif swydd nid ar ei ddwylo fe yr oedd gwaed Alun.

Heddiw fe fydd Alun yn ad-dalu'r ddyled gan ddatgan ei gefnogaeth i'r glymblaid. Fel un o'r ychydig aelodau seneddol Llafur o Gymru sydd wedi llwyddo i gyrraedd yn bellach na'r meinciau cefn ac fel un o brif ladmeryddion "Llafur newydd" fe fydd ei lais yn cyfri.

Y Cariad a Wrthodwyd

Vaughan Roderick | 11:55, Dydd Iau, 5 Gorffennaf 2007

Sylwadau (0)

Mae'n ddiwrnod tawel yn y bae ond fel tywydd cyfnewidiol yr haf rhyfedd hwn gallai pethau newid yn ddigon sydyn! Mae Ieuan a Rhodri yma yn swyddfa'r 麻豆社 i gyfrannu i raglen ffonio i mewn ar Radio Wales- cyfle olaf i werthu'r glymblaid cyn y gynhadledd Lafur a chyfarfod Cyngor Cenedlaethol Plaid Cymru.

Y gynhadledd Lafur yw'r un allweddol ond dw i yn hoff o'r ffaith bod cyngor Plaid Cymru yn cwrdd ym d- y tro cyntaf, dybiwn i, i'r rhan honno o Gymru chwarae rhan allweddol yn ein gwleidyddiaeth ers dymchwel Abaty Ystrad Fflur.

Roeddwn i'n ceisio meddwl am rhiw ddyfyniad bachog o waith Dafydd ap Gwilym i gynnwys yn fan hyn ond er chwilio'n ddyfal ar safle ragorolmethais ddod o hyd i unrhyw beth addas. Ond ar 么l ail-ddarllen un gerdd dw i yn rhiw hanner teimlo fod 'na gymhariaeth yn rhywle rhwng amharodrwydd merched Llanbadarn i gofleidio Dafydd ag agwedd y Democratiaid Rhyddfrydol tuag at glymbleidio! Rhywbeth yn n诺r Ceredigion efallai!

Ta beth, erbyn canol wythnos nesaf fe fydd gan Gymru lywodraeth fwyafrifol. Dyw hyd yn oed yn rheiny, fel Paul Murphy, sy'n cwffio yn erbyn y syniad ddim yn disgwyl cario'r dydd yn y gynhadledd Lafur. Gosod marc mae 'r Aelodau Seneddol gan ei gwneud hi'n eglur na ddylai'r cynulliad feddwl y bydd hi'n hawdd llusgo pwerau ychwanegol i lawr yr M4 boed hynny yn y tymor byr trwy geisiadau am yr hawl i ddeddfu neu yn yr hir dymor trwy refferndwm.

Manion

Vaughan Roderick | 14:36, Dydd Mercher, 4 Gorffennaf 2007

Sylwadau (3)

Un ergyd olaf dros yr enfys

"Mae cael sefydlogrwydd yn hollbwysig i Lywodraeth Cymru. Mae'n ymddangos nad yw Rhodri Morgan hyd yn oed gallu sicrh芒i sefydlogrwydd o fewn y Blaid Lafur." - Nick Bourne

Ateb y Cwis

Doedd neb yn gwbwl cywir er bod nifer yn iawn am y prif ateb. I'ch atgoffa hwn oedd y cwestiwn.

1.Mab Gwilym, seren Llanddewi a chyfaill Carlo.
2.Meddyg yn Walford, llofrudd yn Efrog Newydd a chwyrnwr yn Harlech.
3.Apostol amheus, tad Iago a stemar Sodor.

Rhowch y tri at ei gilydd a phwy sy 'da chi?

Dyma'r atebion

1. Dafydd ap Gwilym, Dafydd o "Little Britain" a Dafydd Iwan.
2. Tom Ellis (Dr. Cousins yn "Eastenders"), Brett Easton Ellis (awdur "American Psycho") ac Ellis Wynne (y bardd cwsg).
3. Yr Apostol Thomas, R.S Thomas a Tomos y Tanc.

Dafydd Elis Thomas

Y Gang o bedair

Vaughan Roderick | 12:04, Dydd Mercher, 4 Gorffennaf 2007

Sylwadau (2)

Mae Ann Jones, Karen Sinclair ac Irene James newydd ryddhau datganiad yn gwrthwynebu clymblaid a Phlaid Cymru oherwydd diffyg tir athronyddol cyffredin rhwng y ddwy blaid. Maen nhw'n dadlau y byddai'r bwriad i ymgyrchu dros bleidlais Ie mewn refferendwm ar bwerau llawn yn llesteirio鈥檙 gwaith o sicrh芒i cyfiawnder cymdeithasol. Gyda Lynne Neagle hefyd yn gwrthwynebu clymblaid mae gan Lafur ei "gang o bedair" ei hun felly.

Dwy'r si诺r eich bod yn cofio "gang o bedair" Plaid Cymru sef Helen Mary Jones, Nerys Evans, Bethan Jenkins a Leanne Wood. Eu dadl fawr nhw yn erbyn clymblaid a'r Tor茂aid oedd diffyg tir athronyddol cyffredin rhwng y ddwy blaid.

Ydych chi'n cofio'r holl ddadleuon ynghyn a 'r angen i sicrh芒i rhagor o fenywod mewn gwleidyddiaeth? Roedd yn rhaid gefeillio etholaethau, llunio rhestri menywod yn unig, rhoi blaenoriaeth i fenywod ar y rhestri rhanbarthol, y cyfan er mwyn creu math newydd o wleidyddiaeth. Fe fyddai'r wleidyddiaeth newydd yn fwy cynhwysol oedd y ddadl. Roedd menywod yn debyg o chwilio am gonsensws yn hytrach na dadlau'n ymosodol fel y dynion. Fe fyddai'n golygu rhagor o synnwyr cyffredin a llai o ddadlau er mwyn dadlau.

Wel. Croeso i'r byd go iawn. Wyth gwleidydd yn gweld purdeb eu plaid yn bwysicach na ph诺er. Wyth gwleidydd yn gwrthod cyfaddawdu. Wyth gwleidydd am bwdi yn y gornel. A phob un o'r wyth yn fenywod. Beth ddigwyddodd i'r wleidyddiaeth newydd cynhwysol yna tybed?

ON Tynnu blew o drwyn dw i yn fan hyn. Mae'n bosib ddadlau, wrth reswm, bod hyn yn profi bod gwleidyddion benywaidd yn fwy egwyddorol a llai uchelgeisiol na'r rhai gwrwaidd!

Kim, Kinnock a Iori

Vaughan Roderick | 10:18, Dydd Mercher, 4 Gorffennaf 2007

Sylwadau (2)

Dw i ddim ar y cyfan yn berson eiddigeddus cyn belled ac mae cael sg诺ps yn y cwestiwn. Serch hynny dw i yn difaru mai Martin Shipton gafodd afael ari'w blaid leol yn damnio ac yn diawlio'r glymblaid bosib a Phlaid Cymru. Dyma flas ohoni.

鈥淎ll of these aspirations are, of course, at the heart of the nationalist agenda. They lead ultimately to separation and independence... It is ironic that the very same party that for so long held at bay the separatists and cultural and political nationalists is prepared, now, to provide for their former enemies an Assembly vehicle that transports those same nationalists to the gates of independence.鈥

Mae darllen geiriau Kim yn dwyn i gof y fath o iaith a dadleuon a ddefnyddiwyd gan Neil Kinnock a gwrthwynebwyr datganoli yn 1979 ac yn bellach yn 么l dadleuon Iori Thomas, Ness Edwards a'u tebyg. Dyw'r fath dadleuon na'r fath iaith ddim wedi bod yn ffasiynol yng nghylchoedd Llafur ers blynyddoedd. Yn wir mae rhai yn dadlau mai ffrwyth dychymyg newyddiadurwyr yw'r gred fod gan y Blaid asgell unoliaethol/Brydeinig ac asgell genedlaethol/Gymreig.

Roedd gan Leighton Andrews hyn i ddweud ar ei yn ddiweddar;

"There have been a number of strange claims made over recent weeks that Welsh Labour is somehow divided between a 'unionist' and a 'nationalist' or 'Welsh' wing... At the margins of Welsh Labour you may find one or two people who believe it, but I know of nobody in an elected position who subscribes to the view.
Labour is a unionist party. I remember, for example, when Carwyn Jones launched his Institute of Welsh Affairs pamphlet on the future of Welsh Labour a few years ago, he said himself that Labour is a unionist party at the launch."

Mae Leighton yn gwbwl cywir mewn un ystyr, wrth gwrs. Dw i ddim yn meddwl bod 'na unrhyw un o fewn Llafur Cymru sy'n cefnogi annibyniaeth i Gymru ond mae'n amlwg bod Kim yn credu bod 'na wahaniaeth barn sylfaenol a hanesyddol o fewn y blaid. Yn ei lythyr mae'n dweud hyn;

鈥淗e (Ron Davies) was intent upon reviving the old nationalist dream of a Wales without party political divisions 鈥 a Wales in which the great and the good would speak 鈥榮elflessly鈥 for the 鈥榞werin鈥 or 鈥榬eal鈥 people of Wales. This species of proto-nationalism is shared by significant sections of the chattering classes, inside and outside of the Welsh Assembly and, I鈥檓 sorry to say, amongst some in the UK Parliament."

Nawr, wrth gwrs, mae newyddiadurwyr a sylwebyddion yn symleiddio'r gwahaniaethau yma. Yn ystod streic y glowyr roedd Kim Howells yn ffigwr allweddol wrth sefydlu cynulliad "answyddogol" i gefnogi'r streic, yr arwydd gyntaf bod y mudiad Llafur yn ail-gofleidio'r syniad o ddatganoli ar 么l 1979. Mae hi hefyd yn wir i ddweud mai system bleidleisio'r cynulliad yn hytrach na'r cynulliad ei hun sy'n ei gythruddo.

Mae Leighton hefyd ar adegau yn gallu bod yn dipyn o "Nat-basher" ond roedd e'n ymgyrchydd brwd dros bleidlais "Ie" yn 1979 a 1997 ac mae'n ddatganolwr wrth redd. Efallai ei fod e'n iawn i ddweud fod rhannu鈥檙 blaid yn ddwy asgell yn annheg ond yn sicr mae 'na wahanol ffrydiau o fewn y Blaid ffrydiau sy'n dyddio n么l i'r dadleuon cynnar yngl欧n 芒 hunanlywodraeth yn nyddiau Keir Hardy a'r ILP. Mae llythyr Kim yn brawf o wytnwch un o'r ffrydiau hynny.

Rhyfedd o fyd!

Vaughan Roderick | 16:12, Dydd Mawrth, 3 Gorffennaf 2007

Sylwadau (2)

Mae Ming Campbell wedi bod yn adrefnu ei gabinet ac mae Lembit wedi cael dyrchafiad. Ef bellach yw llefarydd menter a busnes y blaid. Wel, roedd Lembit wastad yn barod i fentro! Roger Williams yw'r llefarydd newydd ar faterion Cymreig.

Arhoswch am eiliad. Lembit yw arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru- ond nid Lembit fydd yn llefaru ar Gymru yn Nh欧鈥檙 Cyffredin. Onid yw hynny braidd yn od? Ar 么l dweud hynny mae'r Blaid Felyn wedi colli'r gallu i'n synnu dros y misoedd diwethaf!

Pan ofynnais i un Lib Dem a fyddai hyn yn gorfodi'r Blaid Gymreig i ystyried newid ei harweinydd fe wnaeth e wenu. "Fe ddylet ti wybod erbyn hyn nad oes modd yn y byd i orfodi'n haelodau ni i wneud unrhyw beth!" meddai.

Datganiadau di-ri

Vaughan Roderick | 14:36, Dydd Mawrth, 3 Gorffennaf 2007

Sylwadau (0)

Un peth ar 么l y llall heddiw.

Newyddion drwg i Siambo. Mae'r gweinidog cefn gwlad wedi penderfynu bwrw ymlaen a'r bwriad i'w ddifa.

Fe fydd y gweinidog iechyd Edwina Hart yn gwneud datganiad yngl欧n 芒 gwasanaethau niwrolegol yfory. Rwy'n deall y bydd y gweinidog yn cyhoeddi adolygiad o wasanaethau ledled Cymru gyda'r bwriad o sicrh芒i bod y ddwy ganolfan bresennol yn Abertawe a Chaerdydd yn parhau i ddarparu'r gwasanaeth. Y bwriad i gau uned Treforys wrth gwrs oedd un o bynciau llosg mawr yr etholiad yng Ngorllewin De Cymru.

Cynhadleddau Dydd Mawrth

Vaughan Roderick | 11:55, Dydd Mawrth, 3 Gorffennaf 2007

Sylwadau (0)

10.15; Llafur. Mae swyddogion y grwpiau Llafur ym Mae Caerdydd a San Steffan yn cwrdd heddiw. Cyfaddefodd Jane Hutt ei bod hi'n disgwyl i'r cyfarfod bod yn un "bywiog" ond mynnodd fod cyfarfodydd ar lawr gwlad yn "bositif".
Wrth drafod yr ymosodiadau diweddar gan derfysgwyr dywedodd Jane fod yn rhaid i bawb sylweddoli y gallai Cymru fod yn darged. Dywedodd y byddai'r fforwm aml ffydd yn cwrdd cyn bo hir i drafod y sefyllfa.

11.00; Y Ceidwadwyr; Tipyn o sbort yng nghynhadledd y Ceidwadwyr wrth drafod newidiadau cabinet David Cameron. Mae rhai o newydd-ddyfodiaid 2005 wedi cyrraedd cabinet yr wrthblaid erbyn hyn. Eto i gyd mae aelod o Loegr, Cheryl Gillan, yn parhau'n brif lefarydd ar Gymru. Cwestiwn syml felly i Nick Bourne. Ai agweddau'r aelodau seneddol tuag at ddatganoli oedd yn gyfrifol am y penderfyniad neu ddiffyg talent? Fe wenodd yn rhadlon gan fynnu ei fod wrth ei fodd a'r penodiad ond yn dymuno pob lwc i'r aelodau Cymreig wrth i f芒n swyddi gael eu llenwi. Yn ddiweddarach dywedodd un AC wrtha鈥檌 ei fod yn disgwyl i Cheryl gadw'r swydd tan yr etholiad nesaf yn y gobaith y bydd Jonathan Evans yn ennill Gogledd Caerdydd ac yn gallu cymryd awenau鈥檙 blaid seneddol Gymreig.

12.00 Plaid Cymru; Mae Ieuan yn gwrthod dweud sawl gweinidog fyddai gan Blaid Cymru mewn llywodraeth glymblaid. Ond roedd ganddo rybudd i'r aelodau Llafur hynny sydd yn ceisio cyflwyno gwelliannau i'r cytundeb. "Mae'r ddogfen yn sefyll neu'n syrthio fel ac y mae hi" meddai.

Cymry Caint

Vaughan Roderick | 11:07, Dydd Llun, 2 Gorffennaf 2007

Sylwadau (1)

Does gen i ddim clem pam ond mae'n ymddangos bod pobol Swydd Gaint yn hoff o wleidyddion o Gymru. Mae o Abertawe wedi cynrychioli Dover yn y senedd ers 1997 ac wrth gwrs mae yn cynrychioli Folkestone. O'r ddau Gwyn sydd wedi cadw ei acen orau! Er da neu er drwg mae gan aelod Medway Bob Marshall Andrews gysylltiad a Chymru hefyd. Ef yw perchennog y t欧 鈥淭elytubby鈥 adnabyddus yn Sir Benfro

Nawr mae Ceidwadwyr Gillingham wedi dewis cyn gadeirydd myfyrwyr Llafur Cymru, Rehman Chishti, fel eu hymgeisydd mewn sedd hynod ymylol. Safodd Rehman i Lafur yn erbyn Francis Maude yn 2005 ond fe adawodd y Blaid flwyddyn yn 么l gan esbonio i'r mai polis茂au cyfraith a threfn y llywodraeth oedd wrth wraidd ei benderfyniad;

"Blair's government is simply concerned with headline grabbing initiatives. The latest is the so-called "Respect Agenda". I find it hard to respect a Government which has presided over a rise in gun crime, an increase in drug offences, and almost 600,000 more incidents of violent crime. It was also this authoritarian Government which proposed the Glorifying Terrorism Bill. As a barrister I don't know what this is supposed to mean."

Ar ddiwedd mis cythryblus i David Cameron mae hwn yn newyddion da i'w brosiect. Fe fydd cefnogwyr Cameron yn mynnu bod y ffaith bod Ceidwadwyr ardal fel Gillingham wedi dewis cyn-aelod Llafur o leiafrif ethnig yn brawf bod y blaid yn newid mewn gwirionedd

Cwis

Vaughan Roderick | 08:54, Dydd Llun, 2 Gorffennaf 2007

Sylwadau (8)


Mae'n bosib eich bod wedi sylwi bod Betsan wedi diflannu o bryd i gilydd yn ystod yr wythnosau diwethaf. Peidiwch becso. Dyw Ms. Powys ddim yn slacio. Mae hi wedi bod yn recordio'r gyfres nesaf o 鈥淢astermind鈥 ar gyfer S4C. Mae hynny yn rhoi esgus i fi atgyfodi'r cwis!

1.Mab Gwilym, seren Llanddewi a chyfaill Carlo.
2.Meddyg yn Walford, llofrudd yn Efrog Newydd a chwyrnwr yn Harlech.
3.Apostol amheus, tad Iago a stemar Sodor.

Rhowch y tri at eu gilydd a phwy sy 'da chi?

Pregeth!

Vaughan Roderick | 13:14, Dydd Sul, 1 Gorffennaf 2007

Sylwadau (3)

Am wn i, dw i'n ddigon tebyg i'r rhan fwyaf o bobol yng Nghymru yn yr oes 么l-grefyddol hon. Dw i'n tueddu meddwl am grefydd fel peth llesol sy'n gallu bod yn gysur hawdd mewn cyfyngder. Cyn belled a mae unrhyw ffydd bersonol yn y cwestiwn dw i'n fwy o agnostig nac o anffyddiwr gan fentro i'r Capel a'r Mosg ar fympwy.

Dw i'n joio'r Nadolig ac yn ymprydio yn ystod Ramadan (ond am resymau teuluol ac yn ymwneud a hunan-ddisgyblaeth yn fwy nac unrhyw gymhelliad crefyddol). Rhiw fath o grefydd 鈥減ick and mix鈥 sy gen i felly, crefydd fyddai ddim yn plesio Cristion 鈥済o-iawn鈥 na Mwslim 鈥済o iawn鈥 ond pwy sydd i ddweud bod eu fersiwn nhw o 鈥済o iawn鈥 yn fwy cywir na'n fersiwn i?

Yna, o bryd i gilydd, mae wyneb creulon, cul crefydd yn ymddangos ac yn gwneud i ddyn gofyn ydy hi'n bryd in ni gefni ar rai yr holl fusnes crefydd ma?

Does dim angen rhestri'r digwyddiadau. Maent yn llenwi'n papyrau'n gyson. Cafwyd enghreifftiau yn Llundain a Glasgow yr wythnos hon.

Mae geiriau'n llai niweidiol na bomiau wrth reswm. Ond o bryd i gilydd mae pethau'n cael eu dweud gan grefyddwyr sydd yn ymddangos yn gwbwl hurt a didostur i'r rhan fwyaf ohonom.

Y penwythnos yma mae miloedd o bobol yn cysgu mewn neuaddau a llety dros dro yn sgil y llifogydd diweddar. Dw i'n sicr bod na sawl ficer a gweinidog, sawl Eglwys, Mosg a Theml yn gwneud eu gorau i helpu ond mae gan Esgob Caerliwelydd (lle roedd 'na lifogydd difrifol y llynedd) bethau pwysicach ar ei feddwl. Dyma sydd ganddo i ddweud am y llifogydd yn y ;

"This is a strong and definite judgment because the world has been arrogant in going its own way. We are reaping the consequences of our moral degradation, as well as the environmental damage that we have caused. We are in serious moral trouble because every type of lifestyle is now regarded as legitimate. In the Bible, institutional power is referred to as 'the beast', which sets itself up to control people and their morals. Our government has been playing the role of God in saying that people are free to act as they want, The sexual orientation regulations are part of a general scene of permissiveness. We are in a situation where we are liable for God's judgment, which is intended to call us to repentance."

Ie, dyna chi. Mae Afon Hafren yn llifo trwy ystafelloedd byw trigolion Upton On Severn oherwydd bod y llywodraeth (y bwystfil!) wedi cyflwyno rheolau i wneud bywyd ychydig yn haws i leiafrifoedd rhywiol.

Mae'n ddigon hawdd chwerthin ar ben rhywbeth fel hyn wrth gwrs. Mae obsesiwn yr Eglwys Anglicanaidd a phobol hoyw wedi bod yn rhiw fath o j么c cenedlaethol Prydeinig ers degawdau. Ond cofiwch mae'r dyn yn credu hyn. Mewn gwirionedd. Wir yr.

Nid bod Esgob Caerliwelydd yn fygythiad i unrhyw un, wrth gwrs. Ond mae 'na beryglon amlwg mewn mynnu bod rhywbeth cwbwl afresymol yn wir ar sail dogma grefyddol. Mae'n iawn i ddiscrimineiddio yn erbyn pobol hoyw oherwydd bod Duw yn dweud hynny. Mae'n iawn i fi ladd yn enw ffydd oherwydd bod Duw yn dweud hynny. Beth yw'r gwahaniaeth?

Diolch byth ein cynrychiolwyr democrataidd sy'n llunio'n deddfau ar sail rheswm. Mae gen i fwy o ffydd yn y Senedd a'r Cynulliad nac yn yr Esgobion a'r Mullahs.

Mwy o鈥檙 blog hwn鈥

麻豆社 iD

Llywio drwy鈥檙 麻豆社

麻豆社 漏 2014 Nid yw'r 麻豆社 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.