Y Cariad a Wrthodwyd
Mae'n ddiwrnod tawel yn y bae ond fel tywydd cyfnewidiol yr haf rhyfedd hwn gallai pethau newid yn ddigon sydyn! Mae Ieuan a Rhodri yma yn swyddfa'r Â鶹Éç i gyfrannu i raglen ffonio i mewn ar Radio Wales- cyfle olaf i werthu'r glymblaid cyn y gynhadledd Lafur a chyfarfod Cyngor Cenedlaethol Plaid Cymru.
Y gynhadledd Lafur yw'r un allweddol ond dw i yn hoff o'r ffaith bod cyngor Plaid Cymru yn cwrdd ym d- y tro cyntaf, dybiwn i, i'r rhan honno o Gymru chwarae rhan allweddol yn ein gwleidyddiaeth ers dymchwel Abaty Ystrad Fflur.
Roeddwn i'n ceisio meddwl am rhiw ddyfyniad bachog o waith Dafydd ap Gwilym i gynnwys yn fan hyn ond er chwilio'n ddyfal ar safle ragorolmethais ddod o hyd i unrhyw beth addas. Ond ar ôl ail-ddarllen un gerdd dw i yn rhiw hanner teimlo fod 'na gymhariaeth yn rhywle rhwng amharodrwydd merched Llanbadarn i gofleidio Dafydd ag agwedd y Democratiaid Rhyddfrydol tuag at glymbleidio! Rhywbeth yn nŵr Ceredigion efallai!
Ta beth, erbyn canol wythnos nesaf fe fydd gan Gymru lywodraeth fwyafrifol. Dyw hyd yn oed yn rheiny, fel Paul Murphy, sy'n cwffio yn erbyn y syniad ddim yn disgwyl cario'r dydd yn y gynhadledd Lafur. Gosod marc mae 'r Aelodau Seneddol gan ei gwneud hi'n eglur na ddylai'r cynulliad feddwl y bydd hi'n hawdd llusgo pwerau ychwanegol i lawr yr M4 boed hynny yn y tymor byr trwy geisiadau am yr hawl i ddeddfu neu yn yr hir dymor trwy refferndwm.