麻豆社

Help / Cymorth
芦 Blaenorol | Hafan | Nesaf 禄

Y Frwydr Nesaf - Canolbarth Cymru

Vaughan Roderick | 12:34, Dydd Mercher, 25 Gorffennaf 2007

Wrth fwrw golwg ymlaen at faes y gad yr etholiad cyffredinol go brin fod na frwydrau mwy diddorol na'r rhai yn y canolbarth. Mae'n bosib darogan hyd sicrwydd y bydd Plaid Cymru yn ennill etholaeth newydd Dwyfor Meirionydd ond am y gweddill pwy 芒 wyr?

Yn y rhanbarth hon mae tair o bedair sedd y Democratiaid Rhyddfrydol ac am resymau gwahanol fe allai pob un ohonyn nhw fod yn simsan.

Ceredigion. Beth fedrai ddweud? Hon oedd yr ornest fawr yn etholiadau'r cynulliad ac heb os fe fydd Plaid Cymru a'r Democratiaid Rhyddfrydol yn taflu popeth ati y tro nesaf hefyd. Mae gan y Democratiaid Rhyddfrydol rai manteision o gymharu a'r r芒s gynulliadol. Eu dyn nhw yw deiliad y sedd y tro hwn ac mae mewnfudwyr a myfyrwyr o bant yn debycach o fwrw pleidlais mewn etholiad San Steffan. Ar y llaw arall ni fydd pobol Plaid Cymru yn cysgu fel gwnaethon nhw yn 2005. Yn ogystal fe fydd gan y Democratiaid Rhyddfrydol lai o weithwyr y tro hwn oherwydd yr hyn sy'n digwydd ym Maldwyn. Hyd y gwn i dyw Plaid Cymru ddim wedi deis ei hymgeisydd eto. Pwy sydd orau? Wyneb newydd neu hen law? Mae'n gwestiwn pwysig.

Pwy fyddai wedi proffwydo ddwy flynedd yn 么l y gallai'r caer Rhyddfrydol ym Maldwyn fod dan fygythiad? Dim ond unwaith y mae hi wedi syrthio mewn bron i ganrif a hanner. Eto mae'n ymddangos y gallai Lembit fod yn wynebu 鈥渟torom berffaith鈥 y tro nesaf. Y ffactor gyntaf sydd wedi creu'r sefyllfa yw bywyd preifat yr aelod seneddol ei hun- er efallai nad yw'r gair 鈥減reifat鈥 yn gwbwl addas i ddyn sydd mor hoffo'r camera a'r stiwdio deledu. Nid beirniadu Lembit ydw i trwy godi hyn ond mae 'na beryg amlwg ei fod wedi pechu rhai pobol. Yn enwedig mewn etholiad cynnar gallai hynny gyfri. Mae mawrion y blaid yn y sir yn poeni eu boliau wrth glwyed sibrydion bod Sian yn sgwennu llyfr ac yn becso beth fyddai'n digwydd pe bai'r berthynas 芒 Gabriela yn chwerwi.

Does a wnelo'r ail ffactor ym Maldwyn ddim oll 芒 Lembit. Mae'n deillio o hap a damwain system bleidleisio'r cynulliad a chanlyniad 2007 yng Ngorllewin Caerfyrddin a De Penfro. Oherwydd buddugoliaeth annisgwyl y Toriaid yn yr etholaeth honno fe gollodd Glyn Davies ei sedd restr. Heb os mae'n ymgeisydd delfrydol i'r Ceidwadwyr ym Maldwyn ond peidied neb 芒 meddwl ei fod yn wynebu tasg hawdd. Mae na fynydd o'i flaen. Sicrhaodd Lembit dros hanner y pleidleisiau'r tro diwethaf. Fe fydd yn rhaid i Glyn fwyta i fewn i'r bleidlais honno yn y Drenewydd a'r Trallwm a cheisio gwasgu'r bleidlais Gymraeg yng Ngorllewin y sir sy'n cael ei rhannu rhwng Plaid Cymru a'r Democratiaid Rhyddfrydol.

Fe ddylai Brycheiniog a Maesyfed fod yn haws i'r Democratiaid Rhyddfrydol. Ar 么l brwydr agos yn 2001 fe gynyddodd Roger Williams ei fwyafrif i bron i bedair mil y tro diwethaf. Serch hynny fe enillodd y Ceidwadwyr y bleidlais ranbarthol yn fan hyn eleni. Dw i'n cymryd mai Suzy Davies fydd yr ymgeisydd Ceidwadol unwaith yn rhagor. Roedd ei hymgyrch eleni yn un effeithiol ac yn sicr dyw Roger ddim yn mynd i allu cymryd dim yn ganiataol.

Mae'n anodd gor-ddweud yngl欧n 芒 phwysigrwydd yr ardal yma i'r Democratiaid Rhyddfrydol. Go brin bod na un sedd yng Nghymru y gall y blaid obeithio ei chipio tro nesaf. Fe fyddai colli un neu fwy o'r rhai sydd ganddi yn drychineb yn sgil methiannau 2007. Beth sy'n waeth i'r Blaid yw y gallai'r Etholiad Cyffredinol gael ei gynnal ar yr un diwrnod a'r etholiadau lleol flwyddyn nesaf gan beryglu cynghorwyr y blaid led led Cymru.

Ydy Democratiaid Rhyddfrydol Cymru yn wynebu diwrnod dialedd yn 2008?

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 13:56 ar 25 Gorffennaf 2007, ysgrifennodd Helen:

    Bydd is-etholiad Gungrog, y Trallwng, sydd i'w gynnal fory, yn ddiddorol, am fod neb llai na'r cyn-Aelod Seneddol Ceidwadol, Delwyn Williams (1979-1983), yn sefyll fel ymgeisydd annibynnol!!! Nid bod is-etholiad lleol unigol o anghenraid yn unrhyw bwyntydd at yr hyn a allai ddigwydd mewn etholiad mwy, ond bydd yn ddiddorol gweld a yw'r unigolyn hwnnw'n ddigon poblogaidd i wneud i'r sedd newid dwylo ar 么l bod yn eiddo i'r Dem. Rhydd. O ran etholiad Seneddol, rhaid cyfaddef fod Glyn Davies yn ymgeisydd digon carismataidd, sydd hefyd wedi dysgu Cymraeg yn wych, felly byddai'n cymryd rhywun dewr iawn i ddarogan be fyddai'n digwydd ym Maldwyn pe bai etholiad Seneddol yn fuan.

    Dylai Plaid Cymru, felly, ganolbwyntio ei hymdrechion ar adennill Ceredigion.

  • 2. Am 05:59 ar 28 Gorffennaf 2007, ysgrifennodd Dewi:

    Helen - beth oedd y canlyniad ?

Mwy o鈥檙 blog hwn鈥

麻豆社 iD

Llywio drwy鈥檙 麻豆社

麻豆社 漏 2014 Nid yw'r 麻豆社 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.