Tynnu at y terfyn
Dyna ni felly. Mae Rhodri wedi cael ei ffordd. Doedd hyd yn oed huodledd Neil Kinnock ddim yn gallu darbwyllo'r cynrychiolwyr Llafur i gefni ar y sicrwydd o rym.
Dyw e hi ddim yn feirniadaeth o Lafur Cymru i ddweud bod h'n blaid sydd yn hoff o bŵer. Nid fforwm drafod na chlwb cymdeithasol yw Llafur Cymru ond peiriant gwleidyddol sy'n bodoli i amddiffyn buddiannau ei phobol. O orfod dewis rhwng bod mewn grym a phurdeb pleidiol doedd ond un dewis.
Ond cofiwch, rydym wedi bod yn fan hyn o'r blaen. Nid hwn yw'r tro cyntaf i lywodraeth Lafur addo datganoli er mwyn sicrhâi ei pharhad ei hun ac nid hwn yw'r tro cyntaf chwaeth i gynhadledd Llafur Cymru anwybyddu areithiau tanbaid Neil Kinnock.
Roedd llond pen o wallt coch da Neil nol yn y saithdegau pan arweiniodd yr ymdrechion wnaeth, yn y diwedd, ddryllio datganoli, a thrwy hynny ddymchwel llywodraeth Jim Callaghan. Roedd rhai o'r rhai fu'n gefn iddo yn y cyfnod hwnnw dal gyda ni. Roedd Paul Murphy a Don Touhig yr un mor uchel eu cloch bryd hynny.
A fydd hanes yn cael ei hail-adrodd? A fydd Kinnock a'i griw, yn y diwedd, yn llwyddo i ddifa breuddwydion y datganolwyr unwaith yn rhagor? Mae hynny'n bosib ond, ar ddiwedd y dydd, yn annhebyg.
Y pwynt cyntaf i gofio, wrth gwrs, yw mai Rhodri (neu ei olynydd) ac Ieuan fydd yn penderfynu amseriad y refferendwm. Caiff y bleidlais ddim o'i galw heb rywfaint o sicrwydd ynglŷn â'r canlyniad. Yn y cyfamser fe fydd egni ac adnoddau Llywodraeth Cymru yn gweithio'n ddyfal tuag at y nod o sicrhâi pleidlais gadarnhaol. Does neb yn meddwl y bydd ennill refferendwm yn hawdd ond yn sicr mae'n bosib.
Yn y cyfamser mae brwydr bwysig dros gorff ac enaid Llafur Cymru wedi ei hennill. Mae digwyddiadau ddoe wedi sefydlu Rhodri Morgan fel arweinydd Llafur Cymru- nid y blaid gynulliadol ond y blaid Gymreig ehangach. Gwthiwyd yr aelodau seneddol i'r ymylon. Anwybyddwyd eu pryderon a'u cyngor. Os am brawf o hynny gadewch i ni atgoffa'n hun (am y tro olaf!) o'r hyn a ddywedwyd yn y senedd ar Fawrth y cyntaf eleni.
"Adam Price: Speaking of unholy alliances, will the Secretary of State clarify his earlier comment, and confirm that he was not ruling out a coalition between his party and mine after the election?
Peter Hain: I am ruling it out. There is no prospect of that at all. It is a matter for Rhodri Morgan and Welsh Labour Assembly Members, but I do not think that Welsh Labour would accept it."
Ond fe wnaeth Llafur Cymru dderbyn clymblaid. Fe wnaethpwyd yr hyn oedd yn ymddangos yn amhosib ac yn annerbyniol o bersbectif rhai aelodau Cymreig yn Westminster. Fe ddigwyddodd hynny am reswm syml. I nifer cynyddol o aelodau Llafur Cymru mae Bae Caerdydd bellach yn bwysicach na San Steffan. Mae hynny ynddi ei hun yn dipyn o ryfeddod.
SylwadauAnfon sylw
Vaughan - un o dy flogs gorau. Beth yw'r rheolau ynglyn a chaniatad San Steffan am refferendwm. Efe pleidlais pob aelod neu just y rhai cymreig ? ac oes eisiau mwyafrif mwy na 50% yno ?
Mae angen mwyafrif syml o aelodau Ty'r Cyffredin a Thy'r Arglwyddi (adran 103(4) Deddf Llywodraeth Cymru.)
Maen tramgwydd posib arall ydi adran 103(6) sy'n dweud:
A draft of a statutory instrument containing an Order in Council under subsection (1) [h.y. gorchymyn i gynnal refferendwm) may not be laid before either House of Parliament, or the Assembly, until the Secretary of State has undertaken such consultation as the Secretary of State considers appropriate.
A yw hyn yn rhoi amser penagored i'r Ysg Gwladol i ymgynghori? A allai Ysg gwladol sy'n gwrthwynebu cynnal refferendwm oedi a chymryd ei amser dros ymgynghori? Dwi'n credu mai'r ateb yw y gallasai, ond ddim am byth - byddai adeg yn dod lle byddai ymgynghori diddiwedd gan oedi refferendwm yn afresymol yng ngolwg y gyfraith (heb son am fod yn ffol yn wleidyddol).
Cytuno efo Dewi, mae dy ddadansoddiad fel arfer Vaughan yn dreiddgar a gwybodus - a direidus pan fo angen.
Fel dwi wedi sgwennu ar blog Betsan dwi'n meddwl fydd y Luddites neu Unoliaethwyr Llafur (AS's)yn blocio yr hawl i lywodraeth y Cynulliad ddal refferendwm. Deud na wna nhw i bopeth fydd yn cryfhau y Cynulliad ac felly yn gwanhau pwerau Westminster.
Diolch Emyr - sain'n credu y bydd yr Ysg Gwladol yn oedi gormod - buasai'r rhwyg yn y Blaid Lafur yng Nhymru yn ei lladd ? Fyng nhonsyrn oedd colli'r bleidlais yn Nhy'r cyffredin.
Gwerth darllen y stwff yma o Ogledd Iwerddon lle mai gwleidyddiaeth yn ddifrifol....
Dyna fe, felly - mae'r criw Kinnock-a-dime wedi methu yn eu hymgais i atal llywodraeth gref a radicalaidd rhag cael ei chreu yn y Bae. Gobeithio, felly, y bydd y rhai adweithiol hynny'n rhoi'r ffidil yn y to ac yn derbyn bod yr anghenfil o blaid yr arferent sefyll drosti wedi newid, wedi esblygu, ac wedi magu gwedd gwbl Gymreig yr ochr hon i'r ffin. Efallai, yn wir, y bydd eu safiad yn annog pleidleiswyr yn eu hetholaethau i droi at y Blaid; wedi'r cwbl, mae hynny eisoes wedi digwydd unwaith yn Islwyn!