Â鶹Éç

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Cnoi cil am y cabinet

Vaughan Roderick | 16:26, Dydd Iau, 19 Gorffennaf 2007

Nid fy mod yn un i frolio, wrth gwrs ond gan ei bod mewn cyfnod lle mae'r Â鶹Éç yn ymddiheuro ar ras wyllt am bob math o bethau teg yw nodi mai darllenwyr y blog hwn gafodd y manylion cyntaf am gynnwys y cabinet newydd. Doeddwn i ddim yn gwybod popeth ond roedd popeth wnes i rannu da chi yn gywir. Y dyddiau hyn, credwch fi, mae hynny'n bwysig!

Y peth cyntaf i nodi yw bod Rhodri ac Ieuan wedi llwyddo i chwyddo nifer aelodau'r llywodraeth trwy ddehongliad clyfar o'r rheolau sefydlog. Fel mae "Awen" yn nodi mewn sylwad yn gynharach heddiw uchafswm maint y llywodraeth yw 13 sef y Prif Weinidog a deuddeg gweinidog ond mae 'na 14 o aelodau yn y llywodraeth newydd. Llwyddwyd i wneud hynny trwy benodi Carwyn Jones i rôl ddwbl fel arweinydd y cynulliad a Chwnsel Cyffredinol, prif swyddog cyfreithiol y cynulliad. Ar y wyneb mae hynny'n ymddangos yn groes i sy'n dweud hyn;

"A person holding office as the First Minister, a Welsh Minister appointed under section 48 or a Deputy Welsh Minister may not be appointed as the Counsel General or designated under subsection (6); and the Counsel General or a person so designated may not be appointed to any of those offices."

Fe fydd hi'n ddiddorol gweld sut mae Rhodri wedi llwyddo i ddod o gwmpas y mesur!

Fe fydd y penodiad hwn yn fel ar fysedd Carwyn. Heb gyfrifoldebau adrannol fe fydd ganddo'r amser a'r llwyfan i adeiladu ei broffil fel olynydd naturiol Rhodri Morgan.

O safbwynt cyfrifoldebau Plaid Cymru mae'n ddiddorol gweld bod dwy o'u hadrannau sef yr economi a diwylliant yn ddigon tebyg i'r rhai oedd gan y Democratiaid Rhyddfrydol rhwng 2001 a 2003. Mae'n amlwg mae cadw ei gafael ar y gwasanaethau cyhoeddus allweddol fel iechyd ac addysg yw'r flaenoriaeth i Rhodri mewn trafodaethau clymblaid. Roedd Materion Gwledig yn adran amlwg arall i gynnig i Blaid Cymru. Fe fydd hi'n ddiddorol gweld a fydd Elin Jones a Rhodri Glyn Thomas yn denu'r protestiadau traddodiadol yn y Sioe a'r 'Steddfod.

Yn ôl y disgwyl, mae Ieuan wedi dewis gwobrwyo teyrngarwch wrth ddewis ei bobol. Efallai y bydd yn meddwl fy mod yn ymosod ar rôl menywod mewn gwleidyddiaeth trwy ddweud hynny ond mae angen i arweinydd Plaid wybod ei fod yn penodi gweinidogion sy'n fodlon ymddwyn mewn modd disgybledig a chyfrifol. Fe ddysgodd Huw Lewis yr un wers ac mae penderfyniad Leighton Andrews i newid ei feddwl a chefnogi'r glymblaid bellach yn ymddangos yn strôc wleidyddol glyfar iawn.

Fe fydd hi'n beth amser cyn i ni ddeall sut yn union y bydd y cabinet newydd yn gweithio. Mae'r ffiniau rhwng rhai o'r swyddi newydd yn annelwig, yn fwriadol felly byswn i'n tybio. Yn lle, er enghraifft, mae'r ffin rhwng "materion gwledig" a "chynaladwyedd"? Mae 'na ambell i berthynas bersonol fydd yn ddiddorol hefyd. Melys yw nodi bod Leighton yn ddirprwy i Ieuan. O am fod yn bry ar wal!

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Â鶹Éç iD

Llywio drwy’r Â鶹Éç

Â鶹Éç © 2014 Nid yw'r Â鶹Éç yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.