Hedd perffaith hedd
Mi ydyn ni'n bobol wareiddiedig yma yn Â鶹Éç y bae. Nid trafod politics yn unig mae gweithwyr Uned Wleidyddol Â鶹Éç Cymru. Big Brother, ffwtbol, Take That, mae gennym ni arbenigwyr ar bopeth yn fan hyn. Trafod barddoniaeth yr oeddem y prynhawn yma, yn fwyaf arbennig ffawd rhyfedd Hedd Wyn.
Taith Ieuan Wyn Jones i Ypres i goffau brwydr Passechendaele sbardunodd y sgwrs a'r her yma gan un aelod o'r uned "Ac eithrio 'Dim ond lleuad borffor...' oes unrhyw un yn gallu dyfynnu un gair o waith Hedd Wyn?" Och gwae ni! Roedd pawb wedi gweld y ffilm, y rhan fwyaf ohonom yn gyfarwydd â’r englynion coffa ond gwaith y dyn ei hun? Dim un englyn, un cwpled, un llinell hyd yn oed.
Mae'r rhyngrwyd yn gwneud hi'n hawdd cyweirio'r sefyllfa a gellir darllen gwaith "y bardd trwm dan bridd tramor" yn . Mae'n werth gwneud. Cefais flas arbennig y gerdd fach hon sy'n addas ar gyfer diwrnod cofio cyflafan Fflandrys.
NID oes gennym hawl ar y sêr,
Na'r lleuad hiraethus chwaith,
Na'r cwmwl o aur a ymylch
Yng nghanol y glesni maith.
Nid oes gennym hawl ar ddim byd
Ond ar yr hen ddaear wyw;
A honno syn anhrefn i gyd
Yng nghanol gogoniant Duw.
SylwadauAnfon sylw
Troellog iawn yw llwybrau bywyd megis gwynt yr hwyr.
Pa le cludir ninnau ganddynt Duw yn yn unig wyr.
Gan Hedd Wyn ? - Mwy perthnasol pob dydd !