Â鶹Éç

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Wele Gwawriodd

Vaughan Roderick | 10:44, Dydd Gwener, 6 Gorffennaf 2007

Mae'n ddiwrnod tyngedfennol i wleidyddiaeth Cymru. Eto. Dw i ddim yn gwybod faint o weithiau dw i wedi defnyddio'r ystrydeb yna yn ystod yr wythnosau diwethaf. Ond fe wnâi fwyta fy het, fy sgidiau a phob dilledyn arall sy gen i os na chyrhaeddwn ni ddiwedd y saga yn ystod y deuddydd nesaf.

Ond mae 'na un neu ddau o droeon bach i fynd a dyma un ohonyn nhw. Dw i wedi clywed o sawl cyfeiriad y gallai un cyfraniad yn y gynhadledd Lafur y prynhawn yma fod yn allweddol, bod 'na un person a allai ddylanwadu ar y cynrychiolwyr sy'n ansicr eu meddyliau.

Pwy yw'r person hwnnw? Rhodri? Peter Hain? Nage. Mae'n bryd i ni gyd groesawi Alun Michael yn ôl i i fwrlwm gwleidyddiaeth ddatganoledig.

Mae pawb yn cofio, wrth gwrs, am y frwydr ffyrnig rhwng Rhodri ac Alun am arweinyddiaeth y Blaid Lafur Gymreig, ac yn cofio hefyd am fuddugoliaeth drwch blewyn Alun a'i gwymp ddwy flynedd yn ddiweddarach.

Beth sy'n cael ei anghofio yw pa mor deyrngar oedd Rhodri i Alun yn ystod ei gyfnod fel Prif Ysgrifennydd. Er cymaint ei siom bersonol cafwyd y r un gair o gŵyn, yn gyhoeddus nac yn breifat, gan Rhodri. Pan gafodd ei ddyrchafu i'r brif swydd nid ar ei ddwylo fe yr oedd gwaed Alun.

Heddiw fe fydd Alun yn ad-dalu'r ddyled gan ddatgan ei gefnogaeth i'r glymblaid. Fel un o'r ychydig aelodau seneddol Llafur o Gymru sydd wedi llwyddo i gyrraedd yn bellach na'r meinciau cefn ac fel un o brif ladmeryddion "Llafur newydd" fe fydd ei lais yn cyfri.

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 12:43 ar 6 Gorffennaf 2007, ysgrifennodd Americanwr:

    Os ydy pethau'n chwalu'n deilchion i Rhodri dros y penwythnos, siawns mai dyna fydd diwedd ei arweinyddiaeth o ar y blaid Lafur? Fydd dim modd iddo arwain ag yntau wedi dewis y llwybr coch-gwyrdd. Os felly, oes 'na rywun yn sefyll yn y cysgodion yn disgwyl ei gyfle / ei chyfle?

  • 2. Am 16:14 ar 6 Gorffennaf 2007, ysgrifennodd Arfon Jones:

    IWJ ar enfys wrth gwrs...neu Huw Lewis!!
    Ydy Cymru Cymraeg wedi stopio blogio ar y pwnc diddorol yma!!

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Â鶹Éç iD

Llywio drwy’r Â鶹Éç

Â鶹Éç © 2014 Nid yw'r Â鶹Éç yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.