Â鶹Éç

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Y Gang o bedair

Vaughan Roderick | 12:04, Dydd Mercher, 4 Gorffennaf 2007

Mae Ann Jones, Karen Sinclair ac Irene James newydd ryddhau datganiad yn gwrthwynebu clymblaid a Phlaid Cymru oherwydd diffyg tir athronyddol cyffredin rhwng y ddwy blaid. Maen nhw'n dadlau y byddai'r bwriad i ymgyrchu dros bleidlais Ie mewn refferendwm ar bwerau llawn yn llesteirio’r gwaith o sicrhâi cyfiawnder cymdeithasol. Gyda Lynne Neagle hefyd yn gwrthwynebu clymblaid mae gan Lafur ei "gang o bedair" ei hun felly.

Dwy'r siŵr eich bod yn cofio "gang o bedair" Plaid Cymru sef Helen Mary Jones, Nerys Evans, Bethan Jenkins a Leanne Wood. Eu dadl fawr nhw yn erbyn clymblaid a'r Torïaid oedd diffyg tir athronyddol cyffredin rhwng y ddwy blaid.

Ydych chi'n cofio'r holl ddadleuon ynghyn a 'r angen i sicrhâi rhagor o fenywod mewn gwleidyddiaeth? Roedd yn rhaid gefeillio etholaethau, llunio rhestri menywod yn unig, rhoi blaenoriaeth i fenywod ar y rhestri rhanbarthol, y cyfan er mwyn creu math newydd o wleidyddiaeth. Fe fyddai'r wleidyddiaeth newydd yn fwy cynhwysol oedd y ddadl. Roedd menywod yn debyg o chwilio am gonsensws yn hytrach na dadlau'n ymosodol fel y dynion. Fe fyddai'n golygu rhagor o synnwyr cyffredin a llai o ddadlau er mwyn dadlau.

Wel. Croeso i'r byd go iawn. Wyth gwleidydd yn gweld purdeb eu plaid yn bwysicach na phŵer. Wyth gwleidydd yn gwrthod cyfaddawdu. Wyth gwleidydd am bwdi yn y gornel. A phob un o'r wyth yn fenywod. Beth ddigwyddodd i'r wleidyddiaeth newydd cynhwysol yna tybed?

ON Tynnu blew o drwyn dw i yn fan hyn. Mae'n bosib ddadlau, wrth reswm, bod hyn yn profi bod gwleidyddion benywaidd yn fwy egwyddorol a llai uchelgeisiol na'r rhai gwrwaidd!

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 09:03 ar 5 Gorffennaf 2007, ysgrifennodd Emyr Lewis:

    Ond fe ddylem gofio mai llais Edwina Hart oedd y llais Llafur cyntaf i'w glywed dros y glymblaid goch/werdd - ymyrraeth aeddfed a synhwyrol ar adeg dyngedfennol.

    Ac mae nifer o wrywod hefyd (o'r ddwy Blaid) wedi dweud a sgwennu pethau carfannus iawn yn ddiweddar.


  • 2. Am 12:33 ar 5 Gorffennaf 2007, ysgrifennodd Helen:

    Mae angen cofio mai tri dyn a menyw (Jenkins, Owen, Rogers a Williams) oedd y gang o bedwar a ymadawodd â'r Blaid Lafur i lansio'r SDP tua dechrau'r 80au!

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Â鶹Éç iD

Llywio drwy’r Â鶹Éç

Â鶹Éç © 2014 Nid yw'r Â鶹Éç yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.