Â鶹Éç

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Lincs

Vaughan Roderick | 12:58, Dydd Sadwrn, 7 Gorffennaf 2007

Dim ond Plaid Cymru fyddai'n trefnu cyfarfod hanesyddol mewn pentref lle mae'n amhosib cael signal i ffôn symudol. Mae fy nghydweithwyr mas o'u co’. Wrth i ni ddisgwyl felly dyma ambell i ddolen ddifyr.

Oes 'na ddyn hapusach na Paul Flynn?

"Wales Real Young Labour Party scored a brilliant victory over the tribalists of yesterday's Labour. The Gwent threesome of Kinnock, Murphy and Touhig has been resoundingly defeated. They are out of touch with the Labour Party of modern Wales. It was a victory of hope over cynicism, new optimistic Wales over old sour Wales, pragmatism over tribalism."

Mae'r cyfan yn . Ar y llaw arall mae yn hynod anhapus gan gymharu ffurfio'r glymblaid a chwymp tywysogion Gwynedd!

I'r rheiny sy'n trysori'r siartiau camarweiniol sy'n cael eu cyhoeddi gan y pleidiau adeg etholiad mae 'na ddau berl o is-etholiad Southall i'w gweld yn .

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 15:13 ar 7 Gorffennaf 2007, ysgrifennodd Arfon Jones:

    Vaughan,

    Faint o bolisiau o fewn y ddogfen One Wales sydd angen Orders in Councils i'w gwireddu. Tybed faint o bolisiau Plaid Cymry gaiff ei cymeradwyo yn Westminster fel orders in council, hyn fydd y gwir fesur o lwyddiant y glymblaid. Be ddigwyddith os cawn lywodraeth Geidwadol yn Llundain tro nesa, faint o lwyddiant geith y glymblaid wedyn?

  • 2. Am 18:14 ar 7 Gorffennaf 2007, ysgrifennodd vaughan:

    Arfon,
    Ac eithrio efallai union delerau mesur iaith dw i ddim yn gweld unrhywbeth yn y ddogfen fydd yn achosi trafferth. A dweud y gwir roedd rhaglen ddeddfwriaethol maniffesto Plaid Cymru yn gymharol dila ac mae hynny'n cael ei adlewyrchu yn y ddogfen.

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Â鶹Éç iD

Llywio drwy’r Â鶹Éç

Â鶹Éç © 2014 Nid yw'r Â鶹Éç yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.