Â鶹Éç

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

We're fflyin ddy fflag....

Vaughan Roderick | 13:07, Dydd Mawrth, 31 Gorffennaf 2007

Dw i'n cyffwrdd fy nghap i am dynnu sylw at y stori yma. Mae'r llywodraeth yn Llundain yn paratoi cynlluniau a allai orfodi i adeiladau'r llywodraeth yng Nghymru hedfan Jac yr Undeb rownd y flwyddyn.

Yn ôl y diweddar ar lywodraethi Prydain "Symbols can help to embody a national culture and citizenship. The Union Flag is one of the most recognisable symbols of the UK". Fe fyddai hedfan y faner felly yn fodd i gryfhau cenedligrwydd y DU

Fyddai'r rheolau ddim yn cynnwys adeiladau sydd o dan ofal y cynulliad- dim Jac yr Undeb ar y Senedd felly ond fe allai olygu y byddai'n rhaid i lefydd fel y DVLA yn Nhreforys, y swyddfeydd passport yng Nghasnewydd neu hyd yn oed canolfannau gwaith hedfan y faner. Gellir darllen dogfen ymgynghorol y DCMS yn neu wylio Scooch yn canu "Flying the flag" yn .

Os nad yw'r syniad yn apelio atoch chi mae Peter Cox wedi cychwyn ar wefan Downing Street yn gwrthwynebu'r syniad

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 10:55 ar 1 Awst 2007, ysgrifennodd D. Enw:

    Mwy o genedlaetholdeb Brydeinig gan y Blaid Lafur ... ac mae ganddynt y wyneb i alw Plaid Cymru yn 'genedlaetholwyr'.

    Pryd mae AC am ddechrau galw'r Blaid Lafur yn genedlaetholwyr Prydeinig? Dyna'r disgrifiad cywir ohonynt.

    Beth oedd y ddihareb yn y Beible am y Brych yn llygedyn dy ffrind ... ? Fydd rhaid i mi fynd i Beibl.net, Vaughan!

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Â鶹Éç iD

Llywio drwy’r Â鶹Éç

Â鶹Éç © 2014 Nid yw'r Â鶹Éç yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.