Â鶹Éç

Wrecsam a'r Fro

top
Neuadd Erddig

Ardal ar y ffin â Lloegr sydd â sawl hanes diddorol i'w adrodd am yr enwogion a fagwyd yn y cylch.

Balchder Lleol

Canol y dre
Canol y dre

Wrth geisio cyfleu natur glos y gymdeithas yn Wrecsam, disgrifiwyd y dref gan un o hen olygyddion papur newydd lleol fel "pentref a oedd wedi anghofio tyfu'i fyny."

Dros ganrif cyn hynny yr oedd George Borrow wedi cyhuddo Wrecsam o beidio ag edrych yn Gymreig gan ychwanegu hefyd nad oedd ei thrigolion ychwaith "yn meddu ar edrychiad nac iaith y Cymry."

Yn 1854 oedd hynny, ac er gwaethaf twf rhyfeddol mewn addysg Gymraeg yn yr ardal, Saesneg ydi'r iaith a glywir fwyaf ar y stryd hyd heddiw. Serch hynny, fel dangosodd Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam 2011, mae yna falchder mawr ymhlith y trigolion lleol, boed hwy'n medru'r iaith Gymraeg neu beidio, am eu Cymreictod a chefnogaeth frwd i ddiwylliant Cymreig.

Yr arwydd Cymraeg sy'n cael y flaenoriaeth uwchben mynedfeydd Marchnad y Bobl yno ac y mae'r dref yn gyrchfan i nifer o gefnogwyr pêl-droed Cymraeg ar brynhawniau Sadwrn. Dyma gartref "Y Cochion" neu'r "Robins" a sylwodd gyntaf ar alluoedd Ian Rush fel pêl-droediwr.

Tref yn gweddnewid

Coleg Iâl
Coleg Iâl

Mae'r dref wedi ei gweddnewid yn ddiweddar gyda chanolfan siopa braf a strydoedd i gerddwyr yn unig. Mae yna le helaeth i eistedd a hamddena mewn sgwâr y tu allan i'r Guildhall hefyd.

Mae marchnad boblogaidd yma ar ddyddiau Llun a marchnad gwerthu nwyddau fferm ganol yr wythnos.

Tafarn ac eglwys yw adeiladau hynotaf canol y dref - gwesty mawreddog yr olwg y Wynnstay ac Eglwys St Giles yr adlewyrchir ffurf ei thŵr ym Mhrifysgol Iâl yn yr Unol Daleithiau er parch i Elihu Yale yr enwyd prifysgol enwocaf America ar ei ôl, ac sydd wedi claddu gerllawr eglwys yn Wrecsam.

O'r brifysgol honno yn America y daeth y garreg goffa iddo sydd ar fur yr eglwys ger ei fedd.

Er mai yn Boston y ganwyd Elihu, o Blas-yn-Iâl ger Wrecsam y mudodd ei dad i'r America yn 1637.

Tref Haearn a Phlwm

Eglwys Sant Giles
Eglwys Sant Giles

Mae mynediad i Eglwys Sant Giles - sy'n cael ei hystyried yn un o saith rhyfeddod Cymru - drwy giatiau haearn trawiadol a wnaed gan weithwyr haearn enwog o'r ardal yn y ddeunawfed ganrif, Robert a John Davies.

Nid yw Wrecsam heb enwogion eraill ychwaith. Yn Neuadd Acton y ganwyd y Barnwr Jeffreys, y crogwr enwog.

Yn Wrecsam hefyd y dienyddiwyd Richard Gwyn, ysgolfeistr o Lanidloes, yn 1584, wedi ei gyhuddo o frad oherwydd ei ddaliadau Pabyddol.

Y mae Wrecsam yn ganolbwynt i nifer o bentrefi diwydiannol fel Rhostyllen, Y Bers, Coed-poeth a'r Mwynfa neu Minera lle mae gweddillion hen weithfeydd plwm wedi eu hadfer ar gyfer ymwelwyr.

Y mae'r Bwlchgwyn yn cael ei ddisgrifio fel y pentref uchaf yng Nghymru er nad yw'n ymddangos felly!

Enwogion Wrecsam

Wrecsam c.1930 (Llun: Cymdeithas Ddinesig Wrecsam)
Marchnad Wrecsam c.1930 (Llun: Cymdeithas Ddinesig Wrecsam)

I gyfeiriad Caer y mae hen waith glo Gresffordd lle bu tanchwa mor ddychrynllyd yn y tridegau, ac syn dal yn rhan o gof gwerin yr ardal.

Ardal hyfryd yw Dyffryn Clywedog gyda'i llwybrau i gerddwyr ac yn arwain i hen waith haearn Y Bers a sefydlwyd yn yr ail ganrif ar bymtheg i greu peli gynnau mawr i'r brenhinwyr yn ystod y Rhyfel Cartref.

Yma hefyd y dyfeisiwyd math newydd o ganon a ddefnyddiwyd yn Rhyfel Cartref America ac yn erbyn Napoleon yn Ewrop. Yng Nghanolfan treftadaeth Y Bers y mae ystafell i goffáu y gŵr y tu ôl i hyn oll, John "Iron-mad" Wilkinson.

Atyniad lleol poblogaidd arall ydi plasty Erddig lle mae deunawfed ganrif ei adeiladu yn cael ei hail-fyw er difyrrwch i ymwelwyr.


Â鶹Éç iD

Llywio drwy’r Â鶹Éç

Â鶹Éç © 2014 Nid yw'r Â鶹Éç yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.