Â鶹Éç

Yr Wyddgrug

Yr Wyddgrug
© Hawlfraint a hawliau cronfa ddata'r Goron 2009. Cedwir pob hawl. Rhif Trwydded yr Arolwg Ordnans 100019855

Llwybr cerdded o gwmpas llefydd o bwys yng ngwaith a bywyd y nofelydd Daniel Owen ac adeiladau hanesyddol eraill tref Yr Wyddgrug.

Mae'r rhan fwyaf o'r daith hon ar y gwastad yng nghanol tref Yr Wyddgrug. Mewn achosion lle mae'r daith yn gadael y prif strydoedd mae yna opsiwn A (hawdd) a B (ychydig yn hirach.) Mae sawl maes parcio yn y dref (e.e. Love Lane, Heol y Brenin a Stryd Newydd. (Prisiau'n cychwyn o 20c) Mae cyfleusterau cyhoeddus ym maes parcio Stryd Newydd ger Capel Bethesda.

Am gyfarwyddiadau manwl o'r daith cliciwch ar y ddolen hon i gael fersiwn pdf o'r map a manylion llawn o'r daith.

  1. 1. Cerflun Daniel Owen

    Cerflun Daniel Owen

    Wedi ei wneud o efydd gan W. Goscombe John

  2. 2. Arddangosfa Daniel Owen

    Arddangosfa Daniel Owen

    Yma mae ffenestr liw arbennig ac arddangosfa am fywyd a gwaith y nofelydd

  3. 3. Canolfan Gymunedol Daniel Owen

    Canolfan Gymunedol Daniel Owen

    Yma gwelwch lun trawiadol o waith yr arlunydd P J Crook

  4. 4. Capel Bethesda

    Capel Bethesda

    Dyma'r capel y mynychai Daniel Owen

  5. 5. Y Pentan

    Y Pentan

    Lleoliad siop teiliwr Daniel Owen

  6. 6. Hen Lys Barn

    Hen Lys Barn

    Yma cynhaliwyd achos llys Terfysg yr Wyddgrug yn 1869

  7. 7. Bedd Daniel Owen (Opsiwn B yn unig)

    Bedd Daniel Owen (Opsiwn B yn unig)

    Mae ei fedd ym mynwent y dref

  8. 8. Eglwys Santes Fair

    Eglwys Santes Fair

    Yma mae beddgist yr artist Richard Wilson a phinaclau wedi eu cerfio o wynebau Oliver Cromwell a David Lloyd George

  9. 9. Man geni Daniel Owen (Opsiwn B yn unig)

    Man geni Daniel Owen (Opsiwn B yn unig)

    Carreg goffa yn nodi lleoliad y tÅ· lle'i ganwyd a'r tÅ· a adeiladodd yn hwyrach yn ei fywyd

Awgrymir eich bod yn dilyn y cyfarwyddiadau ar y wefan hon gan gadw at y ffyrdd a nodir yn unig. Dylid cerdded y teithiau mewn cwmni ac yng ngolau dydd, gan wisgo esgidiau addas. Nid yw'r Â鶹Éç yn gyfrifol am iechyd a diogelwch y rhai sy'n ymgymryd â'r teithiau hyn. Paratowyd yn Haf 2009.

Croeso

Yr Wyddgrug - cartref Daniel Owen 'tad y nofel Gymraeg'. Hefyd ar y safle gallwch fynd am dro o gwmpas rhai o leoliadau ffilmio Doctor Who a Torchwood yn Abertawe a Bae Caerdydd neu ddilyn llwybr hanesyddol yng Nghonwy a Machynlleth. Cliciwch ar y dolenni ar y chwith.

This is a guided walk around Mold in Welsh. Click the Vocab button above for language help.

Teithiau cerdded

Derek Brockway

Weatherman Walking

Lluniau a mapiau printiadwy o'r gyfres gyda Derek Brockway.

Cylchgrawn

Llyfrau

Llyfrau

Newyddion, straeon ac adolygiadau o fyd llên.

Blog Hywel Gwynfryn

Hywel Gwynfryn

Crwydro Cymru

Mae Hywel Gwynfryn yn dod i'ch ardal chi i ddarganfod be sy'n arbennig am eich milltir sgwâr.

Â鶹Éç iD

Llywio drwy’r Â鶹Éç

Â鶹Éç © 2014 Nid yw'r Â鶹Éç yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.