Â鶹Éç

Taith Cymreig Mendelssohn

top
Mendelssohn

Teithiodd y cyfansoddwr Mendelssohn yn helaeth drwy ogledd-ddwyrain Cymru, fel mae'r Hanesydd Cerddoriaeth, Dr Rhian Davies, yn egluro.

Blodau Cymru'n ysbrydoli

Ddoe roedd hi'n ddiwrnod braf, hynny yw, dim ond teirgwaith y gwlychais i!

Mendelssohn

Mae'n hysbys iawn mai ymweliad Mendelssohn â'r Alban ysbrydolodd yr Hebrides Overture, ond chafodd ymweliad y cyfansoddwr â Chymru rai wythnosau'n ddiweddarach fawr o sylw o gwbl.

Daeth Mendelssohn i Brydain 10 gwaith. Pan oedd yn Llundain, yn ystod ei ymweliad cyntaf ym mis Ebrill 1829, fe'i cyflwynwyd i beiriannydd mwngloddiol o'r enw John Taylor. Ym mis Awst, ar ôl dychwelyd o'r Alban, bwriadai Mendelssohn hwylio i Iwerddon, ond fe'i rhwystrwyd gan dywydd garw. Felly fe deithiodd i gartref Taylor, sef Coed Du Hall yn Rhydymwyn, ger yr Wyddgrug. Yn ôl disgrifiad Mendelssohn safai'r plasty hwn ar lawnt eang lefn wedi'i hamgylchynu â blodau.

Carnasiwn, rhosynnau, a phlanhigyn crwydrol â blodau siâp trymped oedd yn tyfu o gwmpas y plasty. Y blodau hyn ysbrydolodd ddau o'r tri Ffantasi ar gyfer piano, a gyfansoddwyd yn anrheg i ferched Taylor; Anne, Susan a Honora. Mae'r trydydd Ffantasi'n dwyn i gof y nant fach, lle byddai Mendelssohn a'r merched weithiau'n gorffwys wrth gerdded neu farchogaeth o gwmpas y stad.

Cyfeillion Cymreig

Llangollen
Yr Hen Langollen (llun:Photochrome)

Yn ystod y cyfnod hwn fe ddrafftiodd Mendelssohn ddarn ar gyfer yr organ, i'w chwarae ym mhriodas ei chwaer Fanny ym mis Hydref, a darn theatr, Die Heimkehr aus der Fremde (Son and Stranger/Return of the Roamer), Op. 89, i ddathlu priodas arian ei rieni ym mis Rhagfyr. Mae'r aria i'r bas 'I am a roamer', sy'n boblogaidd ar lwyfan cyngerdd ac weithiau'n ddarn prawf eisteddfodol, yn rhan o'r gwaith hwn.

Gan ddefnyddio Coed Du fel canolfan, teithiodd Mendelssohn yn helaeth drwy ogledd Cymru, gan ymweld â Bangor, Caernarfon, Corwen, Bro Ffestiniog, Abaty Glyn y Groes a Threffynnon. Fe nododd ambell fotiff cerddorol ym Meddgelert a Chapel Curig ac ymysg ei frasluniau mae Brücke über den Menay (Pont dros y Fenai) a dynnwyd ar ddydd Sul, Awst 23 1829, a llun o Gastell Conwy a dynnwyd y dydd Mercher canlynol.

Mae llythyron cynhwysfawr Mendelssohn at ei deulu yn sôn am y cyfnod yng Nghymru. Un tro clywodd delynor a chwaraewr hyrdi-gyrdi'n perfformio mewn gwesty yn Llangollen. Mewn sylw enwog a di-flewyn ar dafod, honnodd fod y profiad mor boenus, nes rhoi'r ddannoedd iddo!

Caru Cymru

Ond roedd yna brofiadau mwy dymunol hefyd, fel y nododd Anne Taylor:

"Fe ddathlodd 'nhad ei ben-blwydd yn ystod ymweliad Mr Mendelssohn. Aethon ni ar daith grand i bwll mwyn i fyny yn y bryniau, gan fynd â phabell, a chinio i'r mwynwyr. Roedd sawl araith a llwncdestun, ac fe ymunodd Mendelssohn yn yr hwyl, yn union fel petai e'n un ohonon ni."

Hefyd roedd ymateb Mendelssohn i'w arhosiad yng Nghymru ar y cyfan yn bositif iawn. "Mae Cymru'n wlad ryfeddol o hardd," ysgrifennodd at ei dad, "ond mae'r ddalen hon mor fach, bydd raid i fi ei disgrifio i ti pan gwrddwn ni."

Ym mhentref Rhydymwyn mae plac sy'n coffáu ymweliad Mendelssohn â Choed Du.

Dr Rhian Davies


Cestyll

Castell Dolbadarn

Oriel Cestyll

Hanes rhai o gestyll mwyaf adnabyddus a hanesyddol bwysig Cymru.

Crefydd

Delw Cristnogol mewn carreg

Oes y Seintiau

Cymru yng nghyfnod Dewi Sant a'r Cristnogion Celtaidd cynnar.

Mudo

Statue of Liberty

Dros foroedd mawr

Hanes y Cymry a adawodd eu cartrefi i chwilio am fywyd gwell.

Symbolau Cymru

Tair pluen Tywysog Cymru (Llun: Tomasz Przechlewski)

Hunaniaeth?

Y stori y tu ôl i symbolau ac arwyddluniau traddodiadol y Cymry.

Â鶹Éç iD

Llywio drwy’r Â鶹Éç

Â鶹Éç © 2014 Nid yw'r Â鶹Éç yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.