Â鶹Éç

Trysorau Thomas Telford

top
Pontcysyllte

O'r A5 i bont ddŵr Pontcysyllte - dyma gipolwg ar y dreftadaeth beirianyddol a adawodd Thomas Telford yng Ngogledd Ddwyrain Cymru.

Stori Pontcysyllte

Thomas Telford
Thomas Telford

Roedd Thomas Telford yn un o beirianwyr disgleiriaf ei oes ac mae pont ddŵr Pontcysyllte ger Cefn Mawr yn un o'i weithiau mwyaf enwog.

Ef oedd yn gyfrifol am adeiladu ffordd yr A5 o'r Amwythig i Gaergybi sy'n mynd heibio'r Waun, Llangollen ac ymlaen i Gorwen a Cherrigydrudion yn sir Conwy. Mae llywodraeth y Cynulliad wedi adfer y cerrig milltir nodedig sydd yn dal i'w gweld ar fin yr A5 i nodi ei phwysigrwydd.

Gofynnwyd iddo ei hadeiladu yn 1815. Yr oedd yn dasg sylweddol gyda nifer fawr o wahanol adeiladweithiau yn cynnwys Pont Waterloo ym Metws-y-Coed (1816), Pont-y-Borth (1826), a chob Stanley ger Caergybi.

Dathlu Campwaith

Pont Cantlop
Pont Cantlop

Estynnwyd ei benodiad i gynnwys ffordd o Gaer i Fangor, gwaith sy'n cynnwys adeiladu ffyrdd o gwmpas Penmaenmawr a Phenmaenbach, pont grog arall gyda chob hir dros Afon Conwy (1826) a gwelliannau i'r llwybr rhwng Llanelwy a Threffynnon (yn cynnwys Rhuallt!)

Ymysg ei strwythurau eraill yng ngogledd ddwyrain Cymru mae traphont a phont ddŵr y Waun (llun uchod ar y dde). Adeiladwyd y bont ddŵr, y mae ei hanner yn Lloegr a'i hanner yng Nghymru, dros agor Ceiriog rhwng 1796 - 1801. Mae'n 70 troedfedd o uchder a chanddo 10 bwa. Ychwanegwyd traphont y rheilffordd, a ychwanegwyd yn 1846, ac mae'n sefyll 30 troedfedd uwchben Camlas Llangollen.

Telford oedd yr asiant i'r gwmni oedd yn adeiladu'r gamlas a dyna sut y daeth i adeiladu pont ddŵr y Waun a Phontcysyllte.

Yn 2005, dathlwyd 200 mlynedd ers gorffen adeiladu'r bont ddŵr. Yna yn 2009 rhoddwyd Statws Treftadaeth y Byd i Ddyfrbont Pontcysyllte ac un filltir ar ddeg o gamlas Llangollen.


Cestyll

Castell Dolbadarn

Oriel Cestyll

Hanes rhai o gestyll mwyaf adnabyddus a hanesyddol bwysig Cymru.

Crefydd

Delw Cristnogol mewn carreg

Oes y Seintiau

Cymru yng nghyfnod Dewi Sant a'r Cristnogion Celtaidd cynnar.

Mudo

Statue of Liberty

Dros foroedd mawr

Hanes y Cymry a adawodd eu cartrefi i chwilio am fywyd gwell.

Symbolau Cymru

Tair pluen Tywysog Cymru (Llun: Tomasz Przechlewski)

Hunaniaeth?

Y stori y tu ôl i symbolau ac arwyddluniau traddodiadol y Cymry.

Â鶹Éç iD

Llywio drwy’r Â鶹Éç

Â鶹Éç © 2014 Nid yw'r Â鶹Éç yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.