Thomas%20Pennant
topDyddiau cynnar
Sgweiar plasty Downing ym mhlwy' Chwitffordd ger Treffynnon oedd Thomas%20Pennant, a hynny am ran helaeth o'i fywyd, ac y mae ei lyfr 'The History of the Parishes of Whiteford and Holywell' yn rhoi darlun o'r ardal hon ar droad y 18fed ganrif.
Yr oedd Pennant yn enwog drwy Ewrop ac America drwy ei lyfrau teithio poblogaidd. Hefyd, roedd yn adnabyddus fel naturiaethwr ac yn un o swolegwyr amlycaf ei oes.
Ganwyd Pennant ym 1726 yn Nhre Eden Owain, yr hynaf o bedwar o blant. Bu farw ei frawd yn ei fabandod ym 1728, a ganwyd iddo chwiorydd o efeilliaid y flwyddyn ganlynol.
Dechreuodd ei addysg ffurfiol fel myfyriwr preswyl yn Ysgol Ramadeg Wrecsam pan oedd yn saith oed. Ym 1740 symudodd i Ysgol yn Fulham ac oddi yno, ym 1744, enillodd fynediad i Goleg y Frenhines yn Rhydychen. Yna, ym 1748, aeth i Goleg Oriel - ond yn rhyfedd iawn gadawodd Rydychen heb raddio.
Hanes Naturiol
Ei ddiddordeb cyntaf oedd daeareg, ac i hybu hyn ymwelodd ag ardaloedd Gororau Cymru, Eryri ac Iwerddon yn chwilio am ffosiliau. Bu hefyd yn cyfnewid enghreifftiau efo casglwyr eraill yn Sisili, Norwy a Sweden, ac y mae gweddillion ei gasgliad bellach yng ngofal yr Amgueddfa Brydeinig - Hanes Naturiol.
Cafodd ei draethodau cyntaf eu cyhoeddi yn Nhrafodaethau Athronyddol y Gymdeithas Frenhinol. Papurau oedd y rhain yn cofnodi canlyniadau arbrofion a wnaeth efo gwahanol fwynau mewn ffwrnais a adeiladodd yn Nowning.
Ei waith mawr cyntaf oedd British Zoology a gychwynnodd ym 1761 ac a'i cyhoeddodd ym 1766. Er i'r cyfanwaith gael ei ysgogi a'i ysgrifennu ganddo i raddau helaeth iawn, y syndod yw, na roddodd Pennant ei enw wrtho.
Rhwng 1769 a 1787 cynhyrchodd sawl cyfrol o bwys ym maes Swoleg - a chyfieithwyd rhai ohonynt i ieithoedd eraill. O ganlyniad i hyn, ym 1791, etholwyd ef yn aelod o Gymdeithas Athronyddol America a chafodd anrhydeddau eraill ledled Ewrop ac America.
Teithiau Thomas
Yn ystod ei oes teithiodd lawer efo'i 'drysor o was' - chwedl Pennant ei hun am ei arlunydd cywrain, Moses Griffith, a hynny yng Nghymru, Prydain a'r Cyfandir ac ym 1778 a 1783 cyhoeddodd mewn tair cyfrol ei waith enwog 'Tours of Wales.'
Ym 1790 cyhoeddodd Account of London - a oedd, yn ôl y cyflwyniad i fod ei waith safonol olaf. Ym 1795 a 1796, fodd bynnag, ysgrifennodd a chyhoeddodd 'The History of the Parishes of Whiteford and Holywell.'
Priododd ddwywaith. Ym 1759 ag Elizabeth Falconer o Gaer - a ganwyd iddynt fab a merch - David ac Arabella. Bu farw Elizabeth, ei briod, yn 1764, o'r frech wen. Ail briododd ym 1777 ag Anne Mostyn, chwaer ei gymydog Syr Roger Mostyn, a ganwyd iddynt hwythau fab a merch, Thomas a Sarah.
Yn ogystal â hyn oll, bu'n sgweiar ac ustus heddwch cydwybodol a dylanwadol yn ei filltir sgwâr fel y tystia'r gofeb fechan hardd iddo yn Eglwys y Plwy', Chwitffordd.
Yn 2007 fe wnaeth y cyflwynwr teledu, Nicholas Crane ddilyn llwybr Thomas%20Pennant ac ail-greu ei daith yn yr Alban yng nghyfres y Â鶹Éç, 'Great British Journeys'.
Diolch i Gymdeithas Thomas%20Pennant am y bywgraffiad yma a gyhoeddwyd yn wreiddiol ar Â鶹Éç Lleol.