Cymdeithas Thomas Pennant
topDod ar draws bedd yr arlunydd, Moses Griffith, mewn cyflwr difrifol ar daith o gwmpas Sir y Fflint a ysgogodd rhai o drigolion y sir i sefydlu cymdeithas i gofio am y naturiaethwr, Thomas Pennant.
Arbed Hanes
Norman Closs Parry, Paul Brighton a'r Dr Paul Evans oedd y tri a benderfynodd bod angen adfer bedd yr arlunydd o Ben LlÅ·n a oedd yn gydymaith ac yn ddarluniwr i Thomas Pennant ar ei deithiau.
Fe gasglon nhw £3,000 i ailosod y bedd a threfnwyd darlith gan y diweddar Bedwyr Lewis Jones.
"O geiniog i geiniog aeth swllt yn bunt," meddai Norman Closs-Parry wrth adrodd yr hanes ac fe ddaeth Cymdeithas Thomas Pennant i fodolaeth.
Yna, yn 1996, dyddiad 200 mlwyddiant cyhoeddi un o lyfrau lleol enwocaf Pennant, The History of the Parishes o Whiteford and Holywell, cyhoeddodd y gymdeithas 5 o deithiau cerdded a sefydlu darlith flynyddol yn enw Thomas Pennant. Cynhelir y ddarlith bob blwyddyn yn yr Hydref.
Cyhoeddwyd yr erthygl yma'n wreiddiol ar wefan Â鶹Éç Lleol.
Gwlad Pennant
Amcanion y gymdeithas ydy hyrwyddo coffadwriaeth deilwng i Thomas Pennant a chodi arian i brosiectau a fydd yn dod â'r ardal i amlygrwydd fel 'Gwlad Pennant'.
Fe wnaethon nhw ddathlu 200 mlwyddiant ei fywyd mewn gwasanaeth arbennig yn 1998.
Mae'r gymdeithas hefyd wedi ymuno â Chyfeillion Llŷn i roi cofeb ar fur hen gartref Moses Griffith yn Nhrygarn, Sarn Mellteyrn. Nod arall y gymdeithas ydy codi cofeb i Thomas Pennant ym mhentref Chwitffordd.
Rhoddodd llywydd y gymdeithas, Dr Goronwy Wynne, ddarlith ddifyr am fywyd Thomas Pennant yn Eisteddfod Sir y Fflint a'r Cyffiniau.
Os hoffech chi gysylltu â'r gymdeithas, ewch i wefan .