Ffynnon Gwenffrewi
topBu pobl yn ymdrochi yn Ffynnon Santes Gwenffrewi, Lourdes Cymru, am dros 1,000 o flynyddoedd. Mae pererinion yn ymweld â'r Gysegrfan gydol y flwyddyn. Dyma'r unig fan ym Mhrydain gyda hanes di-dor o bererindota cyhoeddus ers tair canrif ar ddeg.
Y Bwrlwm Cyntaf
Yn ôl y chwedl, byrlymodd Ffynnon Gwenffrewi gyntaf yn y man lle torrodd Caradog, a oedd yn ceisio ei threisio, ben Gwenffrewi i ffwrdd gyda'i gleddyf.
Cafodd ei chodi o'r farw'n fyw trwy weddïau ei hewythr Sant Beuno, a bu'n byw fel lleian tan ei hail farwolaeth tua 22 o flynyddoedd yn ddiweddarach.
A yw hynny'n wir ai peidio, nid chwedl oedd Gwenffrewi, roedd yn berson o gig a gwaed. Mae'n rhaid ei bod yn ddynes go ungryw gan ei bod wedi ei mawrygu fel santes byth ers ei marwolaeth.
Ceir cofnodion ers y ddeuddegfed ganrif o iachau ar ôl ymdrochi yn y Ffynnon ac mae'n parhau hyd heddiw.
Olion y Pererinion
Mae casgliad da yn y Gysegrfan o faglau pren wedi'u taflu gan bobl a gafodd eu hiachau yn y gorffennol.
Mae adeilad y presennol Cysegrfan yn un ysblennydd deulawr Unionsyth Gothig Diweddar a adeiladwyd ym mlynyddoedd cyntaf y 16eg ganrif ac nid oes mo'i debyg yn y byd.
Mae'n adeilad Rhestredig Gradd I yn ogystal â bod yn Henebyn Rhestredig. Ar safle'r Ffynnon mae Arddangosfa Ddehongliadol yn manylu ar hanes y santes a'i chysegrfan a cheir amgueddfa yng nghyn dŷ Fictorianaidd y gofalwr yn dangos hanes pererindota.
Un o'r Saith Rhyfeddod
Y mae'r baddon yn anweddus o agored ac yr oedd gwraig yn ymdrochi tra'r oeddem ni yn edrych arni...
Dr Johnson ar ymweliad
Mae llwybr ar gael hefyd i alluogi ymwelwyr i arwain eu hunain o amgylch y Gysegrfan.
Mae'r ffynnon yn dal yn brif gyrchfan pererindodau Catholig, ond mae croeso wrth y Ffynnon i ymwelwyr o bob ffydd, neu heb ffydd o gwbl, i rannu'i chymysgedd unigryw o hanes, harddwch a thawelwch.
Un ymwelydd enwog nad oedd yn hoff o'r arferiad bod pawb, merched a dynion, yn ymdrochi gyda'i gilydd oedd yr enwog Dr Johnson wnaeth roi ei farn yn blwmp ac yn blaen.
Mae'r fan sanctaidd hynafol hon yn cael ei chydnabod fel un o Saith Rhyfeddod Cymru.