Â鶹Éç

Dyffryn Clwyd

top
Eglwys San Pedr, Rhuthun

Ardal a gysylltir ag Owain Glyndŵr ac â llawer o ddigwyddiadau hanesyddol yw Dyffryn Clwyd. Dyma gyfle i ddod i adnabod peth o hanes y fro.

Y Gaer Goch

Sgwâr y Dref c.1900 (Llun:Roger Edwards)
Sgwâr y Dref c.1900 (Llun:Roger Edwards)

Saif Rhuthun yng nghesail bryniau Dyffryn Clwyd. Tref wedi ei hadeiladu ar fryn ydyw, fel Dinbych. Amddiffynfeydd oedd y ddwy dref yn wreiddiol a adeiladwyd i warchod Dyffryn Clwyd. Mae'r enw 'Rhuthun' wedi datblygu o'r ddau air 'rhudd' a 'din' ac felly'n golygu Caer Goch.

Credir fod y cyfeiriad at liw coch wedi dod o liw'r tywodfaen sydd yn y ddaear. Mae hwn i'w weld yn lliw'r adeiladau hefyd.

Mae'r elfen 'rhudd' i'w weld yn yr enw 'Llanrhudd' yn ogystal, sef yr eglwys goch. Mae'r eglwys hon i'w gweld ar gyrion tref Rhuthun a hi oedd eglwys gyntaf y dref honno.

Castell Rhuthun

Castell Rhuthun (llun:Roger Edwards)
Castell Rhuthun (llun:Roger Edwards)

Un o brif nodweddion Rhuthun wrth gwrs yw'r castell. Mae adfeilion y castell ymhlith yr hynaf yng Nghymru. Dechreuwyd ei adeiladu yn 1277 ar orchymyn Edward I pan roddodd gantref Dyffryn Clwyd i Ddafydd ap Gruffudd, brawd Llywelyn.

Ond yn 1282 dechreuodd Dafydd wrthryfel yn erbyn Edward. Canlyniad hyn oedd i Ddafydd orfod trosglwyddo'r cantref a'r castell i Reginald de Grey, Ustus Caer. Bu de Grey a'i deulu mewn grym am dros ddau gan mlynedd a throdd Dyffryn Clwyd yn gantref Seisnig yn y cyfnod hwn.

Ar Fedi 18fed 1400 ymosododd Owain Glyndŵr ar dref a chastell Rhuthun. Dewisodd ymosod ar Ruthun oherwydd ei phwysigrwydd fel canolfan gyfreithiol. Wedi hyn dim ond y castell ac ychydig o adeiladau oedd yn dal i sefyll.

Yn 1646 bu gwarchae ar y castell am 11 wythnos a chafodd ei ddymchwel. Yn 1826 daeth y teulu Cornwallis-West i fyw yma a bu'r teulu yn byw yma hyd 1921.Yn ddiweddarach daeth y castell yn ysbyty enwog, ond heddiw gwesty moethus sydd yma.

Barau Haearn

Un o ystafelloedd y carchar
Un o ystafelloedd y carchar

Ond nid y castell yw'r unig nodwedd hynafol yn y dref. Roedd Sgwâr Sant Pedr yn bwysig yn y Canol Oesoedd. Yma roedd y tafarnau ac yma y câi drwgweithredwyr eu dienyddio. Bu'r dienyddiad olaf yn 1679, pan grogwyd offeiriad Pabyddol. Cafodd ei dynnu a'i chwarteru.Gwelir sawl tystiolaeth o bwysigrwydd cyfreithiol Ruthun yn y dref heddiw.

Yn Stryd Clwyd roedd carchar Rhuthun a adeiladwyd yn 1775 i wasanaethu Sir Ddinbych. Yn 1886 adeiladwyd bloc Fictoraidd yng nghefn y carchar wedi ei seilio ar gynllun Pentonville. Bu'r dienyddiad olaf yn 1903 a chaewyd y carchar yn 1916.

Bu Coch Bach y Bala yn y carchar hwn, ond llwyddodd i ddianc. Pan oedd carcharorion wedi llwyddo i ddianc, galwyd bechgyn o Ysgol Rhuthun i'w hymlid.

Yn y dref hefyd gellir gweld yr hen lys barn. Dyma adeilad deniadol a adeiladwyd yn nechrau'r 15fed ganrif. Cynhaliwyd brawdlysoedd yn Rhuthun am flynyddoedd cyn iddynt gael eu disodli gan Lys y Goron, Yr Wyddgrug.

Carreg Brenin Arthur

Hen Wlad fy Nhadau
Hen Wlad fy Nhadau

Nodwedd hynafol arall yw'r garreg 'Maen Huail' y tu allan i Exmewe Hall, lle mae Banc Barclays erbyn hyn. Mae sôn mai ar y garreg hon y dienyddiodd y Brenin Arthur ŵr oedd yn cystadlu ag ef am ferch.

Yn ogystal mae'n rhaid cyfeirio at yr adeilad lle mae Siop Nain heddiw. Mae'n dyddio o'r 15fed ac yma yr argraffwyd Hen Wlad fy Nhadau, yr Anthem Genedlaethol am y tro cyntaf yn 1860 gan yr argraffydd Isaac Clarke.

Mae'r ardal yn cynnwys nifer o bentrefi Dyffryn Clwyd yn ogystal â threfi Rhuthun a Chorwen.

Mae'n ardal eang ac yn ymestyn o Langwyfan a Llandyrnog yn y gogledd i Gorwen a Cherrigydrudion yn y de.

Dechreuwn yn y gogledd felly ac yn Rhewl, pentref sydd wedi ei leoli ar lannau afon Clywedog, i'r gogledd o Ruthun ar ffordd Dinbych. Yma gellir gweld Tramwyfa'r Foneddiges Bagot sydd i fyny yng Ngheunant Clywedog. Dyma ffordd breifat tirfeddianwyr lleol ac fe âi'r goets Edwardaidd ar ei hyd. Erbyn hyn mae'n un o nodweddion hyfrytaf y dyffryn.

O gwmpas yr ardal

Eirth Eryri (llun: Roger Lambert)
Eirth Eryri (llun: Roger Lambert)

Dau adeilad diddorol yn Rhewl yw'r capel a'r dafarn leol. Yn y capel hwn ers talwm gellid clywed pregethau'r enwog Emrys ap Iwan. Roedd y Drovers Arms wedyn yn fan gorffwys i borthmyn a'u hanifeiliaid ar ôl teithiau hir.

I'r gogledd o'r pentref mae Pont Rhyd y Gwaed. Yn ôl chwedl fe lifodd y rhan hon o'r afon yn goch gyda gwaed unwaith pan wrthdrawodd Brenhinwyr a Seneddwyr yn ystod y Rhyfel Cartref.

Ychydig filltiroedd o Rhewl mae pentrefi Llangynhafal a Llandyrnog. Mae Llangynhafal wedi cadw'i gymeriad gwledig. Pentref bychan ydyw gydag eglwys a hen dÅ·'r ysgol. Yn Llandyrnog ar y llaw arall gellir gweld olion diwydiannol gan fod yma hufenfa ac mae'r adeiladau mawrion i'w gweld o gryn bellter.

I'r dwyrain o Langynhafal mae bryngaerau Moel Arthur a Moel Fenlli ac wrth gwrs Moel Famau. O gopa Moel Famau gellir gweld golygfeydd anhygoel o Ddyffryn Clwyd yn ogystal ag Eryri, Cader Idris, yr Arenig a'r Berwyn. Mae'r mynydd yn codi 1,864 troedfedd uwchben lefel y môr.

Y Fuwch Frech

Moel Famau
Moel Famau

Mae Moel Fenlli a Moel Famau'n cyfarfod ym mwlch Pen Barras, roedd hwn yn rhan o'r hen ffordd rhwng Rhuthun a'r Wyddgrug. Ar hyd y ffordd yma roedd y goets fawr a'r Post Brenhinol yn teithio.

Ar gopa'r mynydd mae tŵr a godwyd yn 1810 i ddathlu teyrnasiad Siôr III. Disgynnodd rhan helaeth o'r tŵr mewn storm yn 1896. Rhaid nodi hefyd fod Clawdd Offa yn rhedeg trwy Barc Gwledig Moel Famau.

Yng nghesail y bryniau hyn mae pentrefi Llanbedr Dyffryn Clwyd, Llanfair Dyffryn Clwyd a Llanarmon-yn-Iâl. Pentrefi wedi datblygu o amgylch eglwysi unwaith eto. Yn Llanarmon-yn-Iâl mae beddrod Gruffydd ap Llywelyn o'r bedwaredd ganrif ar ddeg.

Tua'r de yn agos i'r A5 mae nifer o bentrefi gwledig. Un o'r rhain yw Llanfihangel Glyn Myfyr ger Cerrigydrudion. Mae chwedl ddiddorol yn gysylltiedig â'r pentref hwn, ardal y canwr Trebor Edwards a'r diweddar John Edwards, nofelydd a chyfieithydd. Dyma chwedl y fuwch frech oedd yn byw yn fforest Clocaenog gerllaw. Roedd y fuwch yn darparu llefrith i drigolion yr ardal ond fe'i twyllwyd gan wrach, does dim rhyfedd i'r fuwch adael yr ardal a mynd i diroedd eraill.

Wrth deithio tua'r de wedyn mae pentrefi gwledig Llangwm a Betws Gwerful Goch. Mae Llangwm yn enwog am ei haelwyd a sefydlwyd ym mis Ebrill 1941 a sydd wedi bod y cystadlu'n frwd mewn eisteddfodau dros y blynyddoedd. Mae Betws Gwerful Goch wedi ei enwi ar ôl y Dywysoges Gwerfyl o Feirionydd oedd yn byw yn y ddeuddegfed ganrif. Roedd ganddi wallt coch a hi oedd wyres y Brenin Owain Gwynedd.

Corwen ac Owain Glyndŵr

Cofeb i Owain Glyndŵr yng Nghorwen

Yn yr ardal hon hefyd mae tref Corwen ac fel Rhuthun mae iddi ddigon o hanes. Gwelir nifer o adeiladau diddorol ar y sgwâr sydd wrth gwrs yn fan cyfarfod i drigolion lleol. Ar y sgwâr mae hen adeilad hardd banc y Nat West, gwesty Owain Glyndŵr a chofgolofn i'r arwr cenedlaethol hwn.

Ceir nifer o bethau yng Nghorwen i goffáu Owain Glyndŵr. I'r dwyrain o Gorwen saif Tomen Owain Glyndŵr. Mae hwn yn rhan o'r adeilad fu unwaith yn gartref iddo. Yn ogystal gellir gweld olion Sycharth, y llys enwog y canodd Iolo Goch iddo a chartref Owain Glyndŵr ger Llansilin.

Yn ogystal mae cysylltiad pwysig rhwng Owain Glyndŵr ag Eglwys Corwen, a saif y tu ôl i sgwâr y dref. Uwchben drws gogleddol yr eglwys mae croes ar ffurf cyllell a elwir yn 'Dagr Glyndŵr'. Yn ôl y sôn gwnaethpwyd hwn pan daflodd yr arwr ei arf o Fryn Pen-y-Pigyn y tu ôl i'r eglwys.

Eglwys arall yng Nghorwen yw Eglwys Carrog. Flynyddoedd yn ôl fe'i golchwyd gan lif mawr wedi i afon Dyfrdwy newid ei llwybr. Mae'r eglwys newydd uwchben yr afon sydd erbyn hyn dan reolaeth.

Ni ellir gadael Corwen heb gyfeirio at y pafiliwn enwog lle cynhelir nifer o gyngherddau pwysig. Dyma un o neuaddau mwyaf gogledd Cymru a safle cyntaf Eisteddfod yr Urdd. Bob blwyddyn cynhelir cystadleuaeth cneifio defaid yn y pafiliwn gan ddenu cystadleuwyr byd enwog o leoedd mor bell ag Awstralia a Seland Newydd.


Cestyll

Castell Dolbadarn

Oriel Cestyll

Hanes rhai o gestyll mwyaf adnabyddus a hanesyddol bwysig Cymru.

Crefydd

Delw Cristnogol mewn carreg

Oes y Seintiau

Cymru yng nghyfnod Dewi Sant a'r Cristnogion Celtaidd cynnar.

Mudo

Statue of Liberty

Dros foroedd mawr

Hanes y Cymry a adawodd eu cartrefi i chwilio am fywyd gwell.

Symbolau Cymru

Tair pluen Tywysog Cymru (Llun: Tomasz Przechlewski)

Hunaniaeth?

Y stori y tu ôl i symbolau ac arwyddluniau traddodiadol y Cymry.

Â鶹Éç iD

Llywio drwy’r Â鶹Éç

Â鶹Éç © 2014 Nid yw'r Â鶹Éç yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.