Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Gwefannau Lleol

Â鶹Éç Homepage
Â鶹Éç Cymru
Â鶹Éç Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Trên Bach yr Wyddfa Twristiaeth
Os ydych chi'n byw yn y gogledd orllewin, yn bwriadu dod yma ar ymweliad neu am helpu teulu a pherthnasau i drefnu gwyliau yma, dyma restr o wefannau fydd o gymorth.

http://nwt.co.uk
Wedi ei anelu'n bennaf at ymwelwyr o'r tu allan i Gymru, ac felly'n uniaith Saesneg, mae gwefan Twristiaeth Gogledd Cymru yn rhestru llefydd i aros ac yn disgrifio'r ardaloedd twristaidd mwyaf poblogaidd yng ngogledd Cymru gan roi arweiniad i drefi a phentrefi. Fe allwch hefyd ganfod lle mae'r ganolfan groeso agosaf a lle sy'n cynnig gwasanaeth banc ac archebu llety dros y we o'r safle.


http://www.walesdirectory.co.uk
Mae'r wefan yma yn cynnig detholiad o wefannau eraill sy'n cynnig gwybodaeth am dwristiaeth yng ngogledd Cymru, gan cynnwys mapiau, gwybodaeth am drafnidiaeth a llefydd i aros.


http://www.croeso.com
Mae rhwydwaith Saesneg Welcome to Wales yn rhestru sawl tref yng ngogledd orllewin Cymru a pha atyniadau a chyfleusterau sydd ar gael ynddyn nhw. Mae cysylltiadau i wefannau eraill o ddiddordeb hefyd.


http://www.croeso-cynnes-wales.co.uk/index.html
Safle i ogledd Cymru sy'n canolbwyntio ar wybodaeth ddefnyddiol am lefydd i aros ond mae adrannau ar bethau i'w gwneud yn yr ardal a manylion teithio hefyd.


http://www.visitwales.com
Gwefan swyddogol Bwrdd Croeso Cymru sy'n cynnig torreth o wybodaeth am bob agwedd o'r diwydiant ymwelwyr. Os mai hanes, golygfeydd, crefftau, siopa, traethau neu grwydro ydy eich maes diddordeb mae'r safle'n cynnig awgrymiadau defnyddiol a gwybodaeth gefndir am hanes a diwylliant Cymru. Gallwch hefyd chwilio am lety ar-lein drwy beiriant chwilio manwl y safle.


http://www.nationaltrust.org.uk
Mae gwefan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn rhoi'r holl fanylion sydd ei angen arnoch chi cyn ymweld ag unrhyw un o eiddo niferus yr Ymddiriedolaeth yng ngogledd orllewin Cymru, gan gynnwys Plas Newydd, Plas yn Rhiw a Chastell Penrhyn. Mae'r ymddiriedolaeth hefyd yn berchen ar diroedd eang yn Eryri ac ar hyd yr arfordir ac mae digon o weithgareddau i blesio pawb, gan gynnwys plant, ar y safle.


http://www.aocc.ac.uk/
O ddiddordeb arbennig i ogledd orllewin Cymru mae'r adrannau am yr Amgueddfa Lechi yn Llanberis a Chaer Rufeinig Segontiwm yng Nghaernarfon. Mae'r tudalennau ar gyfer y ddau leoliad yn hawdd cyrraedd atynt o'r ddalen gartref ac yn rhoi'r holl fanylion ymarferol sydd eu hangen arnoch chi i ymweld, disgrifiad da o beth sydd gan y llefydd i'w gynnig a gwybodaeth am agweddau addysgol hefyd.


http://www.cadw.wales.gov.uk/
Mae cynllun anarferol y wefan yma yn golygu bod angen treulio dipyn o amser yn dod i ddeall sut i lywio drwy'r safle. Ond, mae'n cynig gwybodaeth am adeiladau a safleoedd hanesyddol drwy'r gogledd orllewin i gyd yn ogystal â gweddill Cymru.


http://www.greatlittletrainsofwales.co.uk
Nefoedd i unrhyw un sy'n caru trenau a rheilffyrdd! Dyma wefan sy'n eich cyfeirio at holl reilffyrdd bach Cymru a chwmnïau bach annibynnol fel Rheilffordd yr Ucheldir. Safle Seasneg sy'n cynnwys lluniau, manylion tocynnau a theithio a chysylltiadau i wefannau'r rheilffyrdd eu hunain.


http://www.seasideawards.org.uk
Os ydych chi am wybod lle mae'r traethau gorau, dyma safle sy'n rhoi gwybodaeth gynhwysfawr am safonau a chyfleusterau, diogelwch a amgylchedd mwy na 40 o draethau yng ngogledd orllewin Cymru. Mae hefyd yn rhoi manylion safonau Gwobrau Traethau 2003 a statws y Faner Las a gallwch chi enwebu eich hoff draeth chi hefyd. Fe fyddai lluniau o'r traethau eu hunain yn braf hefyd.


http://www.gwyliaucymraeg.co.uk/
Safle gan Fentrau Iaith Cymru i hybu gwyliau mewn ardaloedd Cymraeg er mwyn helpu dysgwyr i ymarfer eu Cymraeg ydy hwn. Mae modd ichi chwilio am lety, llefydd bwyta a llefydd i ymweld mewn gwahanol ardaloedd drwy glicio yn y blychau ar waelod y ddalen gartref.


http://www.conwy-valley.org/
Gwefan Saesneg sy'n amlinellu bron i bopeth fyddai ar ymwelwyr angen ei wybod am ddod am wyliau yn ardal Betws-y-coed a Dyffryn Conwy. Ceir manylion beth i'w weld, lle i fynd a lle i aros yn ogystal ag arweiniad i bentrefi'r ardal.


http://www.llandudno-tourism.co.uk/
Dyma'r wefan swyddogol i dwristiaid ar gyfer arfordir Cyngor Sir Conwy o Fae Cinmel i Lanfairfechan, gan gynnwys trefi glan môr enwog Llandudno a Bae Colwyn. Mae yma ddigon o wybodaeth ddefnyddio ond rhaid sgrolio drwy'r testun drwy ffenest fechan ar ganol y dudalen.


http://www.northwalescoast.co.uk/
Prif atyniad yr arweiniad yma i Fae Colwyn a'r cyffiniau ydy'r detholiad o luniau yn y dair oriel luniau, gan gynnwys golygfeydd prin iawn o'r promenâd ym Mae Colwyn dan haen o eira.


http://www.llyn-peninsula.co.uk
Safle wedi ei chreu gan Martyn Croydon o Gaerwrangon, bachgen ysgol sy'n dysgu Cymraeg er mwyn paratoi at yr adeg pan y bydd yn gallu symud i fyw i Ben LlÅ·n! Mae'n cynnig gwybodaeth am yr ardal a'i hanes ac yn eich cyflwyno i draethau mwyaf poblogaidd yr ardal ac yn rhoi gwybodaeth am amser teithio o le i le a chysylltiadau i wefannau lleol eraill.


http://www.enlli.org
Mae'r ymddiriedolaeth sy'n gyfrifol am gynnal ynys yr ugain mil o saint wedi ailwampio eu gwefan. Mae'r cynllun newydd yn un hawdd llywio drwyddi ac yn hawdd ar y llygad. Mae'n cynnig gwybodaeth am adar yr ynys, sut i drefnu gwyliau yno, yr afal unigryw sydd wedi ei ddarganfod yno hyd yn oed sut gallwch chi ymuno â'r ugain mil o saint drwy drefnu cael eich claddu ar yr ynys!


http://www.llynmarinecharters.supanet.com/
Dyma safle'r cwch sy'n arbenigo mewn teithiau o gwmpas Pen Llŷn gan gynnwys rhai ecolegol mewn cydweithrediad â Bwrdd Twristiaeth Gogledd Cymru a Bwrdd Croeso Cymru. Ceir manylion holl deithiau'r cwch yn ogystal â rhestr o lefydd aros, tai bwyta a siopau yn yr ardal.
Awgrymwyd gan Alan Gray


http://www.islandofchoice.com/tourism.asp
Safle Cyngor Sir Ynys Môn ar gyfer ymwelwyr â'r ynys ydy hwn. Mae'n rhestru popeth sydd gan Fôn i'w gynnig i ymwelwyr: o lefydd i aros a bwyta i weithgareddau a llefydd i ymweld â nhw, ac arweiniad llawn i lwybrau cerdded yr ardal.


Dyw'r Â鶹Éç ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.
0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹Éç - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý