|
|
|
±Êê±ô-»å°ù´Ç±ð»å Os ydych chi wedi gwirioni am bêl-droed neu eisiau gwybod am be mae'r holl ffys, mi fydd y gwefannau hyn yn eich tywys o gwmpas clybiau a chystadlaethau gogledd orllewin Cymru. Cofiwch anfon aton ni os ydych chi'n gwbod am safleoedd da eraill. |
|
|
|
http://www.citizens-choice.co.uk/
Er mai gwefan answyddogol ydy hon, mae hi'n gynhwysfawr ac yn gyfredol ac erbyn hyn yn cystadlu â gwefan swyddogol y clwb.
http://www.caernarfonborofc.co.uk
Mae llawer i'w weld ar y wefan hon, gan gynnwys hanes y clwb, tablau a chanlyniadau gemau'r tymor. Mae'r adroddiadau o'r gemau yn eitha manwl hefyd, ac mae cyfle ichi gyfrannu i'r fforwm.
http://www.caernarfontown.net
Mae'r dyluniad newydd yn rhoi gwybodaeth am hanes y clwb, y sgwad, gemau, canlyniadau a nawdd gyda rhannau bach ohoni'n ddwyieithog. Mae cysylltiad hefyd i safle academi ieuenctid y clwb. Mae yma hefyd oriel luniau safonol a digon i annog cyfraniad y cefnogwyr, fel pleidleisio dros chwaraewr y mis ac ymuno â'r fforwm drafod.
http://www.colwynbayfc.co.uk
Gwefan swyddogol y Gwylanod sy'n chwarae yng Nghynghrair Unibond Lloegr ac yn cynnwys y newyddion diweddaraf, y canlyniadau a'r gemau yn ogystal â chysylltiadau i safloedd answyddogol y cefnogwyr.
http://www.citizens-choice.co.uk/cymclubs.htm
Yn ogystal â newyddion Cymru Alliance, gemau, tablau a chanlyniadau, mae'r safle yn cynnwys adran fanwl i bob tîm yn y gynghrair gan gynnwys Bala, Cemaes, Caergybi, Llandudno, Llanfair PG a Llangefni.
http://www.faw.org.uk
Mae'r wefan yn cynnwys manylion am y timau sy'n cystadlu yn y cynghreiriau amrywiol yng Nghymru fel JT Hughes Mitsubishi Welsh Premier a chynghrair is yr ardal, Cymru Alliance. Mae hi'n cynnwys hefyd eglurhad ar strwythur y gymdeithas, cynghreiriau merched a sgwad Cymru.
http://www.llandudnojunctionfc.co.uk
Mae'r clwb hwn ar gyfer chwaraeuwyr o bob oed, yn fechgyn a merched, a'i safle yn rhoi adroddiadau am gemau, canlyniadau a newyddion arall am y clwb. Maen nhw hefyd yn gwerthu nwyddau'r Clwb ar y safle.
http://www.porthmadogfc.com
Mae Porthmadog yn chwarae yn Uwchgynghrair Cymru ac mae'r wefan ddwyieithog hon yn llawn gwybodaeth am y clwb - newyddion, manylion gemau, chwaraewyr a lluniau yn ogystal ag archif helaeth, adroddiadau a linc i fforwm drafod. Bydd modd prynu nwyddau oddi ar y safle cyn hir hefyd.
http://www.amlwchtownfc.co.uk/
Mae'n hawdd teithio o gwmpas y safle da hwn a dysgu am ddatblygiadau diweddara'r Clwb yn y Cymru Alliance. Yn ogystal â gwybodaeth am y timau a'r swyddogion, sut i gael hyd i'r clwb a sut i gysylltu, mae'r adroddiadau syml yn sôn am y gemau a phwy sgoriodd ac yn dangos rhifau buddugol y lotto hefyd!
http://www.cpdbethelfc.co.uk
Fe gafodd gwefan Clwb ±Êê±ô-»å°ù´Ç±ð»å Bethel ei henwi yn wefan bêl-droed orau'r byd gan safle Soccer Highway fis Mehefin 2003 - a hynny'n gwbl haeddiannol hefyd. Mae'r cynllun syml, sy'n rhoi'r Gymraeg yn flaenaf, yn golygu y gallwch ddod o hyd i wybodaeth am ddigwyddiadau, gemau a chanlyniadau a'r diweddaraf am y timau hÅ·n a iau. Mae hefyd yn cynnwys gwybodaeth ryngwladol, oriel luniau ac ocsiwn ar-lein i godi arian i'r clwb.
http://www.bangorcityfc.com/
Mae newyddion a chanlyniadau diweddaraf clwb pêl-droed Dinas Bangor ar gael yn eithaf rhwydd o'r ddalen gartref. Am fwy o fanylion am gemau, chwaraewyr ac ystadegau, cliciwch ar un o'r cysylltiadau yn y bar llywio ar y chwith. Fe allwch chi hefyd ddarllen adroddiadau gemau, gweld sut i godi arian i'r clwb a chynnig eich sylwadau ar lwyddiant y tîm.
http://www.cpdpenrhos.com
Cadwch llygad ar newyddion a chanlyniadau timau ieuenctid Clwb ±Êê±ô-»å°ù´Ç±ð»å Penrhosgarnedd ar y wefan yma sy'n hawdd iawn i'w ddefnyddio. Awgrymwyd gan David James
http://www.cpd-llanrug.net/
Mae'r wefan yma yn hawdd ei defnyddio ac yn cynnig popeth byddai ffan o dîm Llanrug United ei angen i gadw i fyny efo'i hoff glwb. Mae 'na wybodaeth am hanes y clwb a'r cae chwarae, lluniau o'r chwaraewyr a gellir cadw i fyny â'r canlyniadau a'r newyddion diweddaraf. Cynigiwyd gan Gethin Parry o Lanrug
http://www.canaries-dre.co.uk
Digon i gadw unrhyw un yn brysyr ar y wefan answyddogol hon; newyddion, canlyniadau, lluniau o'r chwaraewyr, ffeithiau am y cae chwarae, Yr Ofal, tîm y merched, a hefyd darn am dimau eraill sy'n cael eu galw yn Canaries.
CPD Glantraeth www.glantraethfc.co.uk
Mae ambell dudalen ar wefan y clwb yma o Ynys Môn yn wag ar hyn o bryd ond mae gwybodaeth am y sgwad, gemau a chanlyniadau ar gael mewn fformat glir yn ogystal â thabl cynghrair y Cymru Alliance.Beth am gampau eraill? Cliciwch isod am wefannau ar Rygbi, Golff, Campau eraill.
Dyw'r Â鶹Éç ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.
|
|
|
|
|