|
|
|
Gwasanaethau cyhoeddus Gyda'r pwyslais bellach ar e-lywodraeth, gellir cysylltu â mwy a mwy o wasanaethau cyhoeddus arlein bellach. Dyma'r rhai allweddol yn y gogledd orllewin. |
|
|
|
http://www.ynysmon.gov.uk/
http://www.conwy.gov.uk/
http://www.gwynedd.gov.uk/
http://www.nwales-fireservice.org.uk/
Os ydych chi eisiau gweld lluniau o ddynion tân yn cael eu galw i ddamweiniau ar ochr y lôn neu i ddelio â thanau mi fyddwch chi'n hoffi'r safle hwn! Neu fel arall safle ar gyfer pobl â diddordeb proffesiynol sy'n sôn am drefn a gweithgareddau'r frigâd dân ydy hwn.
http://www.north-wales.police.uk/
Mae gwefan Heddlu Gogledd Cymru yn cynnwys polïsiau, blaenoriaethau a phroffeiliau o rai o'r plismyn lleol. Gellir darllen cyfweliad efo'r Prif Gwnstabl neu edrych ar Oddi ar y Bît, adran ar ddiogelwch i blant. Ceir manylion hefyd ar sut i ymuno â'r Heddlu a holiadur ichi roi eich barn am y wefan.
http://www.northwestwales.org/
Dyma wefan yr awdurdod sy'n rhedeg Ysbyty Gwynedd ym Mangor yn ogystal â nifer o wasanaethau eraill yr NHS ar draws y rhanbarth. Yr adrannau mwyaf defnyddiol i'r cyhoedd ydy'r adran holi ac ateb a'r Taflenni Gwybodaeth i Gleifion yn yr adran wybodaeth.
http://www.cymru.gov.uk
Yn gyfrifol am amrywiaeth o wasanaethau yng Nghymru, gan gynnwys addysg, iechyd, trafnidiaeth, datblygiad economaidd a'r iaith Gymraeg. Mae gwefan gynhwysfawr a dwyieithog y Cynulliad yn cynnwys adroddiadau am ddigwyddiadau, polisi, cofnodion pwyllgorau ac agendâu cyfarfodydd. Mae gwybodaeth gefndir am ei rôl ar gael mewn Arabeg, Cantonese, Gujerati, Portiwgieg, Sbaeneg ac Wrdw. Yr ychwanegiad mwyaf diweddar i'r safle ydy darlledu byw ar y we o'r trafodaethau a'r cyfarfodydd.
http://www.penmaenbach.com
Os ydych chi wedi bod yn sefyll yn stond mewn ciw traffig ar yr A55 ym Mhenmaenbach ger Conwy efallai yr hoffech chi wybod beth yn union sy'n digwydd yno. Ar y safle hwn cewch wybod beth mae'r peiriannwyr sifil yn ceisio ei wneud yno. Awgrymwyd gan Russell Davies
http://www.eryri-npa.co.uk/
Mae gwefan ddeniadol awdurdod y parc yn cynnwys popeth o lynoedd i fynyddoedd i fanylion am wardeiniaid, llwybrau cerdded a llefydd i ymweld â nhw. Ceir gwybodaeth hefyd am gyfarfodydd yr awdurdod, gweithgorau a chynadleddau.
http://www.wales.nhs.uk/lhg/w-home.cfm?orgid=272
Mae'r wefan yma yn hawdd i'w defnyddio ac yn cynnig manylion am feddygon, fferyllwyr, deintyddion ac optegwyr y sir. Mae'r wefan hefyd yn cynnwys erthyglau i'r wasg gan y Bwrdd Iechyd a gwybodaeth am eu polisïau i wella cyfleusterau iechyd drwy gyfrwng y Gymraeg.
http://www.wales.nhs.uk/lhg/w-home.cfm?orgid=268
Gwefan debyg i'r uchod ar gyfer gwasanaethau gofal iechyd yng Nghonwy. Gallwch hefyd ganfod dyddiadau a manylion cyfarfodydd cyhoeddus y Bwrdd Iechyd, ac mae chsylltiadau i wefannau iechyd defnyddiol eraill hefyd.
http://www.wales.nhs.uk/lhg/w-home.cfm?orgid=273
Gwefan debyg i wefannau'r Byrddau Iechyd Lleol eraill; dewiswch bwnc o'r rhestr ar y chwith ac i ffwrdd â chi. Ceir gwybodaeth am weithwyr ym maes gofal iechyd, yn ogystal â gwybodaeth am sut y gall y cyhoedd roi eu barn am faterion iechyd lleol.
Am wefannau sy'n cynnig cymorth a chefnogaeth ar amrywiaeth o faterion, cliciwch yma.
Dyw'r Â鶹Éç ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.
|
|
|
|
|