Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Gwefannau Lleol

Â鶹Éç Homepage
Â鶹Éç Cymru
Â鶹Éç Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Poteli llefrith Amrywiol
Mae'n anodd rhoi rhai gwefannau mewn categori arbennig ond maen nhw mor ddefnyddiol, diddorol neu hyd yn oed od, fel bod rhaid eu cynnwys yn rhywle! Cofiwch ²õô²Ô.am eich hoff wefannau chi.

http://www.geocities.com/tomatos_edie_evans/
Mae un o domatos 'Edie' o Benmachno wedi ennill gwobr Tomato Mwyaf Cymru, mae'n casglu casgenni cwrw ac mae ganddo safle arbennig i gasglu eich straeon am grisps smôci bêcyn. Oes angen dweud mwy? Gwiriondeb o'r mwyaf.


http://community.webshots.com/user/magnetron4
Mae'r safle cymunedol yma yn cynnwys amrywiaeth o luniau o ogledd gorllewin Cymru ac fe ellwch eu gweld fel sioe sleidiau. Mae'r casgliad yn cynnwys golyfeydd hardd o Eryri, Coed y Brenin a Mynydd Parys.


http://www.billjonesmilkman.btinternet.co.uk/
Croeso i wefan y dyn llaeth Bill Jones! Nid dim ond manylion ei rownd laeth sydd gan Bill ond lluniau o'i gi anwes a'i ieir a'u holl hanes hefyd. Mae Bill yn dipyn o arddwr hefyd ac ar y safle mae'n rhoi awgrymiadau a lluniau o'i ardd cyn iddo ei thrin ac fel gwaith gorffenedig! Gwefan werth ei gweld!


http://www.tycoch.co.uk
Gwefan llawn cymeriad gan y tÅ· tafarn poblogaidd ym Mhen LlÅ·n. Mae'n cynnwys popeth o luniau hardd i wybodaeth ddefnyddiol a digwyddiadau. Mi gewch hyd yn oed wybod beth ydy arwyddion seryddol y staff a dysgu'r perlau o athroniaeth sy'n cael eu trafod wrth y bar ar ffurf 'munud i feddwl'. Mae cyfle hefyd i ennill peint am ddim yn y gystadleuaeth llunio pennawd.
Awgrymwyd gan Steve Hoyle


http://www.petes-eats.co.uk/
Gwefan caffi enwog Pete's Eats yn Llanberis, sydd wedi ei alw, yn ôl y ²õô²Ô yn gaffi gorau'r byd (o bosib!). Mae'r caffi wedi cael sylw ar draws y byd gan gynnwys yn y New York Times a'r Guardian. Am fod y caffi mor boblogaidd ymhlith dringwr, mae gwybodaeth am weithgareddau chwaraeon ac awyr agored eraill yn yr ardal ar y wefan hefyd.


http://www.pylifeboat.org/
Mae'r safle bywiog hwn yn cynnwys llawer o wybodaeth ddiddorol am Fad Achub Porthdinllaen yn hanes, lluniau o'r criw a newyddion am ddigwyddiadau a chyn ddigwyddiadau. Yn anffodus, rhaid defnyddio'r botwm yn ôl yn aml wrth deithio o gwmpas y safle, ond er hynny mae gwybodaeth y wefan yn cael ei diweddaru ac mae'n cynnwys llun gwych o fad yn symud.
Awgrymwyd gan Steve Hoyle


http://www.enlli.org/
Mae'r ymddiriedolaeth sy'n gyfrifol am gynnal ynys yr ugain mil o saint wedi ailwampio eu gwefan. Mae'r cynllun newydd yn un hawdd llywio drwyddi ac yn hawdd ar y llygad. Mae'n cynnig gwybodaeth am adar yr ynys, sut i drefnu gwyliau yno, yr afal unigryw sydd wedi ei ddarganfod yno hyd yn oed sut gallwch chi ymuno â'r ugain mil o saint drwy drefnu cael eich claddu ar yr ynys!


http://www.gofalaethaled.ik.com/
Gwefan eglur a lliwgar ar gyfer chwech eglwys yn Nosbarth Aled o fewn Henaduriaeth Dyffryn Clwyd dan ofalaeth y gweinidog, y Parch Meirion Morris. Mae'n cynnwys y manylion diwddaraf am ddigwyddiadau lleol sy'n ymwneud â'r capeli ac wedi ei gyflwyno'n ddeniadol.


http://www.tafarnyfic.com/
Ar ôl camu i'r adwy i achub eu tafarn leol 15 mlynedd yn ôl mae'r pentrefwyr sy'n rhedeg Tafarn y Fic yn Llithfaen wedi gweddnewid yr adeilad a chodi estyniad newydd. Mae eu gwefan yn un syml sy'n rhoi gwybodaeth am y fenter gymunedol yma ond hefyd mae'n rhestru'r nosweithiau sy'n cael eu cynnal yn y dafarn efo bandiau lleol ac yn rhoi manylion eu clwb cynganeddu.


http://www.pauleds.co.uk/
Gwefan y consuriwr o Fôn, Paul Edwards, a gafodd ei ethol yn Arlywydd Cylch Hud Gogledd Cymru yn 2003/04. Mae ei wefan yn egluro'r gwahanol fathau o ddewiniaeth mae'n ei arfer ac yn cynnwys clipiau fideo o rai o'i driciau a fydd yn gwneud ichi wylio eto ac eto er mwyn ceisio datrys ei gyfrinach!

Oes ganddoch chi ragor o wefannau i'w cynnig? Gadewch inni wybod.



Dyw'r Â鶹Éç ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.
0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹Éç - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý