|
|
|
Trefi a phentrefi 1 Ydy eich tref neu'ch pentref chi ar y we eto? Edrychwch ar y rhain a chofiwch anfon aton ni os ydyn ni wedi anghofio safle da! |
|
|
|
http://www.aberdyfi.org/
Mae'r wefan yma'n hawdd ei defnyddio, yn addas ar gyfer trigolion ac ymwelwyr fel ei gilydd ac yn cynnwys rhestr lawn iawn o siopau, tai bwyta, llety, llefydd i ymweld a gweithgareddau yn y pentref hardd hwn. Digon o luniau deniadol a digwyddiadur ar gael hefyd.
http://www.abersoch.co.uk
Gwefan broffesiynol iawn o'r olwg efo lluniau gwych o Abersoch a rhannau eraill o Lŷn. Mae yna ddigon o wybodaeth am y pentref a'r ardal gyfagos efo gwe-gamerâu, mapiau rhyngweithiol, digwyddiadur, rhestr siopau a gwasanaethau a manylion am gynnyrch lleol a chrefftau hyd yn oed. Wedi'i anelu at ymwelwyr yn bennaf.
http://www.amlwch.net/
Mae hanes lleol yn elfen gref o gynnwys y wefan hon sy'n cynnwys rhestr o'r llongau a'r cychod a adeiladwyd ym mhorthladd Amlwch mor bell yn ôl ag 1788. Ceir digon o luniau, manylion am ddigwyddiadau, cyfeiriadur busnes, negesfwrdd ac eitemau newyddion lleol ac apêl am wybodaeth am Bastai Mynydd Parys!
http://www.bala.co.uk/
Gwybodaeth am y Bala, yn bennaf i ymwelwyr gyda'r pwyslais ar yr adnoddau i dwristiaid a chwaraeon yn hytrach na ffeithiau am y dref ei hun. Digon o luniau ac ychydig o fapiau.
http://www.lokalink.co.uk/index2.htm
Llafur cariad un o feibion y Bermo, John Pugh, sydd bellach yn alltud yng ngogledd Carolina, ydy'r wefan hon. Mae'n cynnwys hanes lleol, llenyddiaeth, busnes a gwasanaethau ac sydd hefyd yn helpu alltudion fel fo i gysylltu â'i gilydd. Dydy'r cynllun ddim yn gyson; mae'n rhan o rwydwaith Lokalink o wefannau trefi a phentrefi canolbarth a gorllewin Cymru.
http://www.beaumaris.org.uk
Llawer o wybodaeth ddwyieithog a lluniau gwych i drigolion lleol, ymwelwyr a rhai alltud fel ei gilydd. Mae symud o gwmpas y safle braidd yn flêr.
http://www.beddgelerttourism.com/index_main.htm
Mae'r wefan yma'n sôn am Gelert, ci Llywelyn ac am greawdwr Rupert Bear, Alfred Edmeades Bestall. Gwefan i dwristiaid ydy hi'n bennaf gyda chyfarwyddiadau clir a manwl ar sut i gyrraedd y gwahanol leoliadau a'r gwasanaethau yn y pentref hwn yng nghanol Eryri.
http://www.croeso-betws.org.uk/
Gwefan ddwyieithog dwt ei hadeiladwaith sy'n cynnwys llawer o wybodaeth ddefnyddiol a lluniau ardderchog. Cyfoeth o ffeithiau diddorol am Eryri, yn bennaf i ymwelwyr.
http://www.caernarfononline.co.uk/
Mae gan y safle hwn gyfoeth o wybodaeth ddiddorol am Gaernarfon ac mae'n boblogaidd ymhlith y Cofis hefyd. Mae'n cynnwys llawer o newyddion lleol, pynciau llosg, adborth, hen luniau ysgol, gwybodaeth i dwristiaid a manylion am nifer o fudiadau lleol. Mae'n eich arwain at nifer o is-rannau i'r brif wefan gan gynnwys y Gornel Gymraeg a Cofis Dre ar y We. Yr unig feirniadaeth ydy nad ydy'r golofn lywio ar y chwith yn eich dilyn o gwmpas y safle.
http://www.cemaes-bay.co.uk/
Mae'r safle pentrefol hwn yn cynnwys nifer o erthyglau a lluniau am hanes lleol a gweithgareddau gan gynnwys rhai'n ymwneud â'r RNLI a'r ganolfan dreftadaeth. Mae manylion i ymwelwyr sy'n meddwl ymweld â'r rhan yma o Fôn.
http://www.colwyn1.freeserve.co.uk/
Os oes ganddoch chi ddigon o amynedd a diddordeb mewn lluniau hanesyddol, ewch i weld gwefan wahanol Dave Williams. Mae'r cynllun ychydig yn ddi-drefn ac mae'n cymryd amser i lwytho'r lluniau, ond mae 'na straeon gwych ac archif luniau dda o'r hen dref lan môr hon a thu hwnt.
http://www.conwy-wales.com/
Mae 'na ddwy daith luniau o gwmpas yr hen dref gaerog hon a rhestr o fusnesau'r dref a lle i aros. Mae gweddill y safle'n cynnwys linciau i nifer o fudiadau yng Nghonwy.
http://www.criccieth.free-online.co.uk/
Mae'r mapiau o'r ardal a hanes y dref yn eithaf da ond mae'r adrannau eraill braidd yn hen.
http://www.rhiw.com/
Mae hon yn drysor o wefan gydag archif eang o hen luniau a hanesion am bentref bach y Rhiw yn LlÅ·n a'r pentrefi o'i gwmpas. Os oes ganddoch chi ddiddordeb mewn hanes morwrol, hen drigolion Enlli, chwedlau, llythyrau, a hanesion pobl yr ardal heddiw - dyma'r safle ichi. Mae yma doreth o luniau prin a dogfennau wedi eu casglu at ei gilydd i roi cipolwg unigryw ar hanes pen draw LlÅ·n.
http://www.dolgellau.net/
Lluniau a nostalgia sydd amlycaf ar y wefan dda yma, sy'n gynnyrch un gŵr lleol. Ond mae'n rhestru llety, busnesau a digwyddiadau hefyd.
http://www.nantlle.com/
Mae'r wefan yma'n cael ei rhedeg a'i chynnal gan grŵp gwirfoddol o Ddyffryn Nantlle ac mae'n cynnig gwybodaeth i drigolion ac ymwelwyr am bentrefi'r dyffryn. Mae dipyn o waith llenwi ar yr adran hanes lleol ond, o'i chynnal, gallai hon dyfu'n wefan gynhwysfawr. Mae yma fanylion gweithgareddau lleol fel Gŵyl Fai ac Antur Nantlle a chyfle i fusnesau lleol hysbysebu am ddim.
http://www.betws-y-coed.net/
Gwefan braidd yn blaen yr olwg ond wedi dweud hynny, mae'n ymdrech dda i hybu busnesau a digwyddiadau Betws-y-coed. Cliciwch ar yr adran rali i weld nifer o luniau o hen geir stêm yn ymddangos ac yna'n diflannu!
http://www.holyheadindex.com/
Safle ddwyieithog sy'n llawn gwybodaeth ddefnyddiol ar gyfer ymwelwyr, pobl leol neu unrhyw un sydd eisiau gwybodaeth mwy am dref Caergybi a'r cylch. Mae'n rhoi manylion busnesau a sefydliadau lleol, hanes a phrif atyniadau'r ardal, pethau i'w gwneud a llefydd i fynd i fwynhau adloniant lleol, cysylltiadau ar gyfer grwpiau a mudiadau eraill a mwy. Awgrymwyd gan Steve Williams.
http://holyheadtowncouncil.com/
Er mai Saesneg ydy iaith y wefan yma, mae yna ambell lygedyn o Gymraeg ac mae'n llawn gwybodaeth am y dref, gwasanaethau'r cyngor, hanes a chysylltiadau lleol yn ogystal â llwybr treftadaeth os ydych chi'n chwilio am le i fynd dro. Awgrymwyd gan C L Everett.Am ragor o wefannau trefi a phentrefi, cliciwch yma.
Dyw'r Â鶹Éç ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.
|
|
|
|
|