|
|
|
Golff Mae digon o ddewis i olffwyr yng ngogledd orllewin Cymru - naill ai chwarae ar gwrs lincs, parc, cwrs pencampwriaethol neu un naw twll cyfeillgar. Ewch ymlaen i ddarllen am y dewis sydd ar gael isod a chofiwch adael inni wybod os oes un da ar goll. |
|
|
|
http://www.theangleseygolfclub.com/
Mae'r safle hwn yn cynnwys manylion llawn am bob twll ar gwrs Rhosneigr yn ogystal ag adroddiadau a rhestr ddigwyddiadau. Mae'r testun braidd yn fân a dydy'r bar llywio ddim yn dilyn o dudalen i dudalen, ond mae'r dudalen gartref yn un liwgar a llawn gwybodaeth.
http://abersochgolf.co.uk
Mae'r ddalen gartref liwgar yn llawn cysylltiadau at wybodaeth ddefnyddiol a chyfredol am gyfleusterau'r clwb a'i ddigwyddiadau. Mae yna hefyd ddisgrifiad manwl o'r cwrs a'r costau. Ond rhaid symud yn ôl i'r ddalen gartref er mwyn mynd i dudalennau eraill y safle.
http://www.royalstdavids.co.uk/
Mae'r safle hwn wedi'i gynllunio'n dda ac yn hawdd i'w ddefnyddio. Mae'n cynnwys yr holl wybodaeth angenrheidiol i ymwelwyr. Mae'r manylion sylfaenol fel rhifau ffôn, swyddogion y clwb a disgrifiad byr o'r cwrs i gyd ar y ddalen gartref. Os ydych chi eisiau gwybod mwy, mae'r botymau ar ben bob tudalen yn eich arwain at y tudalennau cywir.
http://www.bullbaygc.co.uk/
Mae'r safle hwn yn un cyfeillgar a hawdd i'w ddefnydddio. Mae'n cynnig yr holl wybodaeth am gyfleusterau'r clwb yn ogystal â chynllun manwl o'r cwrs a cherdyn y clwb. Ond mae'n anodd gweld os ydy'r rhestr ddigwyddiadau yn un cyfoes gan nad yw'n nodi'r flwyddyn.
http://www.d-m-jones.co.uk/golf/
Safle syml ond effeithiol. Mae'r holl fanylion am ffioedd a chyfleusterau'r clwb wedi'u nodi'n gryno ar y ddalen gartref. Awgrymir hefyd beth allwch chi ei wneud ar ôl y gêm, fel gwledda mewn tai bwyta lleol.
http://nefyn-golf-club.com/
Mae'r safle llawn lluniau yma yn cynnig gwybodaeth syml am ddigwyddiadau i ferched a dynion, mapiau a disgrifiadau o'r hen gwrs ar un newydd. Rhaid dychwelyd i'r ddalen gartref i grwydro mwy drwy'r safle, ond mae yna gysylltiadau defnyddiol iawn i westai, tai bwyta a chyfleusterau lleol.
http://www.pwllheligolfclub.co.uk
Mae'r safle cyfredol yma'n rhoi gwybodaeth am beth sy'n digwydd yn y clwb - pwy sydd ar y blaen mewn cystadlaethau, sut i ddefnyddio cyfleusterau'r clwb ac yn cynnig awgrymiadau am lle i aros i ymwelwyr. Rhaid mynd nôl i'r ddalen gartref i gael gwybod am y cwrs, y siop a'r digwyddiadau diweddaraf. Dim ond eich cysylltu ag adrannau gwahanol fel adran yr oedolion a lleoliad y clwb mae'r bar llywio ar yr ochr dde. Enwebwyd gan BB.
http://www.st-deiniol.co.uk/index2.html
Dyma safle hawdd llywio drwyddo sy'n cynnwys llawer o luniau a ffotograffau. Mae'n dweud popeth sydd raid ichi ei wybod am y cwrs golff yma, gan gynnwys arweiniad i bob twll, costau a'r cyfleusterau. Mae'n cynnig gwybodaeth am atyniadau twristaidd eraill ym Mangor hefyd.
Diddordeb mewn campau eraill hefyd? Cliciwch ar y gwefannau Rygbi, Pêl- droed, Campau eraill.
Dyw'r Â鶹Éç ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.
|
|
|
|
|