Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Gwefannau Lleol

Â鶹Éç Homepage
Â鶹Éç Cymru
Â鶹Éç Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
TÅ· Gwydr Grwpiau cymorth
Beth bynnag ydy'r broblem, mae mudiad neu gymdeithas ar gael i helpu. Dyma restr o rai o'r mudiadau lleol hynny sydd ar y we. Rhowch wybod os ydych chi'n gwybod am rai eraill.

http://www.accymru.org.uk/
Bwriad Age Concern Cymru yw rhoi llais i'r genhedlaeth hŷn yng Nghymru gan sicrhau eu bod yn cael bywydau teg a llawn. Mae'r safle yn un hawdd i'w ddefnyddio ac yn cynnwys gwybodaeth angenrheidiol am y gymdeithas, yn ogystal â ffeithiau am bobl hŷn Cymru a gwybodaeth am sut i gysylltu â'ch AC neu AS lleol. Os cliciwch chi ar Age Concern Cymru yn eich ardal chi ac yna ar Wynedd neu Ynys Môn ar y map, fe gewch enwau a manylion cyswllt y swyddfa agosaf yng Nghaernarfon. Os ydych chi'n byw yng Nghonwy, yn Ninbych mae eich swyddfa agosaf.


http://www.kbe51.dial.pipex.com
Cynllun bond ydy Agorfa i helpu pobl ar incwm isel yn ardaloedd Arfon a Môn. Mae'r elusen leol hon yn rhoi cymorth a chefnogaeth i bobl sy'n cysgu naill ai yn lloches nos Bangor neu ar y stryd. Mae'r safle yn dangos pwy ydy partneriaid Agorfa a'r cyrff sy'n ei ariannu. Mae yma hefyd gysylltiadau â gwefannau perthnasol eraill yng Nghymru a mudiadau lleol.


http://www.careandrepair.org.uk
Mae gan Care and Repair Cymru asiantaethau i helpu'r henoed a'r anabl i drwsio a chynnal eu tai. Mae'r gwasanaeth yn cynnwys cyngor ynglŷn â dewis lle i fyw, cadw golwg ar safon gwaith adeiladu yn ogystal â rhoi cefnogaeth a chymorth wrth drefnu llety dros dro. Mae'r safle yn rhoi manylion swyddfa gogledd Cymru ym Mangor, a hefyd asiantaethau Care and Repair yng Ngwynedd, Ynys Môn a Chonwy.


http://taieryri.co.uk
Mae'r gymdeithas elusennol yma yn darparu tai ar rent a chynlluniau rhad i brynu tai. Y nod ydy ceisio sicrhau cartrefi o safon yn ogystal â chyfrannu at ddatblygiad cymunedau yng ngogledd orllewin Cymru. Mae'r wefan yn ddeniadol a chwbl ddwyieithog ac yn rhoi manylion ar sut i gysylltu â'r brif swyddfa yng Nghaernarfon neu'r swyddfeydd lleol eraill ym Môn, Dwyfor a Meirionnydd.


http://www.gisda.co.uk
Grŵp lleol ydy GISDA sy'n cynnig cymorth a chefnogaeth i bobl ifanc sengl a digartref yng Ngwynedd. Maen nhw'n cynnig llety addas parhaol mewn hostel neu fflat i bobl ifanc rhwng 16 a 25 sy'n ddigartref. Mae'r safle, un o'r rhai prin lle mae'r Gymraeg yn flaenaf, yn egluro cefndir GISDA, sut mae'n cael ei ariannu ac yn rhestru'r holl wasanaethau mae'r mudiad yn eu cynnig yn lleol.


http://cymuned.gwynedd.gov.uk/cymuned/
Gwefan sy'n rhoi rhestr gynhwysfawr o gymdeithasau a mudiadau cymorth yng Ngwynedd (cliciwch ar Cymdeithasau) yn ogystal â'ch cyfeirio at Gynghorwyr, Digwyddiadau, Papurau bro a chysylltiadau ym maes Iechyd yn eich ardal chi.


http://mysite.freeserve.com/deillion
Mae'r gymdeithas wedi'i lleoli ym Mangor ond mae ganddyn nhw gartref preswyl yn Abergele hefyd a 12 canolfan gymdeithasol ar draws gogledd Cymru. Mae'n nhw'n cynnig amrywiaeth eang o wasanaethau i bobl â nam ar eu golwg ac yn estyn cymorth i'r rhai hynny sy'n colli eu golwg. Mae safle, sy'n uniaith Gymraeg i bob pwrpas, yn cynnig gwybodaeth am sut i wneud cais am grantiau.


http://www.snapcymru.org/
Mae SNAP Cymru (Special Needs Advisory Project) yn cefnogi teuluoedd efo plant a phobl ifanc sydd angen cymorth addysgol arbennig yn rhad ac am ddim. Mae'r safle hwn yn cynnwys adran holi ac ateb i helpu teuluoedd i ddeall problemau dysgu eu plentyn yn well. Mae'r safle yn rhoi gwybodaeth am ddigwyddiadau sydd i ddod a'r rhai sydd wedi cael eu cynnal a manylion cyswllt eu swyddfa yng Nghaernarfon.


http://www.sagb.co.uk/
Mae SAGB (Schizophrenia Association of Great Britain) ym Mangor yn helpu cleifion sy'n dioddef o sgitsoffrenia ac yn cynnig cefnogaeth i'w teuluoedd. Mae gwybodaeth ar eu safle am natur y salwch a rhaglen fwyd er mwyn helpu deiet dioddefwyr. Tynnir sylw at lyfrau am therapi maeth a sgitsoffrenia gan gynnwys cyhoeddiadau SAGB.


http://www.tygwydr.com
Canolfan gymunedol wirfoddol ym Mangor ydy Tŷ Gwydr wedi'i sefydlu i hybu a chefnogi grwpiau cymunedol lleol yn ogystal â rhoi swyddfa iddyn nhw. Mae swyddfeydd, ystafelloedd cynhadledda a chyfrifiaduron ar gael yn y ganolfan ar gyfer cynnal dosbarthiadau a chyfarfodydd. Mae'r wefan yn hysbysebu digwyddiau lleol a phrosiectau ac yn cysylltu â gwefannau eraill yng ngogledd orllewin Cymru.


http://www.mantellgwynedd.com/wefan/index.asp
Elusen annibynnol ar gyfer grwpiau gwirfoddol a chymunedol Gwynedd ydy Mantell Gwynedd. Mae'r wefan yma'n cynnig manylion a chysylltiadau i dros 700 o fudiadau lleol, bwletinau newyddion a gwybodaeth am sut i fynd ati i wirfoddoli hefyd.


http://www.mentrau-iaith.com/index.php?page_uid=776a195a&lang=1
Mae tair o fudiadau iaith y gogledd orllewin ar y wefan yma, sef Conwy, Môn a Gwynedd. Bwriad y mentrau ydy rhoi cymorth a chyngor i unigolion, mudiadau a busnesau, a chynnal gweithgareddau er mwyn codi proffil yr iaith. Mae hon yn wefan eithaf syml a rhwydd ei defnyddio er nad ydi'r rhestr o gysylltiadau ar ochr chwith tudalen blaen pob menter yn aneglur iawn ar yr olwg gynta. Ond, o glicio arnyn nhw, fe gewch chi lawer o wybodaeth am sefyllfa'r iaith, byd busnes, cyfieithwyr a staff y mentrau yn eich ardal chi.


http://www.gwyneddsands.co.uk/
Mae'r wefan ddwyieithog yma llawn gwybodaeth am y grŵp cymorth lleol sydd yn cynnig cefnogaeth i deuluoedd sydd wedi colli baban cyn, yn ystod neu ar ôl geni yn ardal Gwynedd. Cynigwyd gan Llinos Eames Jones


Dyw'r Â鶹Éç ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.
[an error occurred while processing this directive] 0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹Éç - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý